Helgi sy'n tarddu o Ganolbarth Affrica yw'r Basenji.[1] Defnyddir fel cyfeirgi, adargi, ac i yrru ysglyfaeth i mewn i rwydi.[2]

Basenji
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Màs11 cilogram, 9.5 cilogram Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Basenji

Mae ganddo flew byr a sidanaidd o liw browngoch, du, neu felyn a du; gwyn yw'r traed, y frest, a blaen y gynffon. Mae'n frid gosgeiddig a chanddo olwg fywiog i'w wyneb gyda thalcen crychlyd, clustiau i fyny, a chynffon gyrliog. Mae ganddo daldra o 41 i 43 cm (16 i 17 modfedd), ac yn pwyso 10 i 11 kg (22 i 24 o bwysau). Nid yw'r Basenji yn medru cyfarth, ond mae'n gallu gwneud synau eraill.[2]

Y Basenji yw'r unig frîd o gi sydd ganddo gylchred atgenhedlu blynyddol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [basenji].
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) basenji. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Medi 2014.