Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo

country in Central Africa, capital Kinshasa

Gwlad yng Nghanolbarth Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (Ffrangeg: République Démocratique du Congo). Y gwledydd cyfagos yw De Swdan a Gweriniaeth Canolbarth Affrica i'r gogledd, Gweriniaeth y Congo (Brazzaville) i'r gorllewin, Angola a Sambia i'r de, a Thansanïa, Rwanda, Bwrwndi ac Wganda i’r dwyrain. Mae ganddi boblogaeth o 86,790,567 (2019)[1]. Weithiau, fe'i gelwir gyda'i hen enw, Zaire, sef yr enw a ddefnyddid rhwng 1971 a 1997. O ran ei harwynebedd, hi yw'r wlad fwyaf yn Affrica is-Sahara, a'r ail fwyaf yng nghyfandir Affrica. Ers 2015, gwelwyd llawer o ymladd yn ardal Kivu, yn nwyrain y wlad.

Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
République Démocratique du Congo
ArwyddairCyfiawnder - Heddwch - Gwaith Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Congo Edit this on Wikidata
PrifddinasKinshasa Edit this on Wikidata
Poblogaeth86,790,567 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd7 Medi 1822 (Annibyniaeth oddi wrth Gwlad Belg)
30 Mehefin 1960
AnthemDebout Congolais Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIlunga Ilunkamba Sylvestre Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffrangeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCanol Affrica Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Arwynebedd2,344,858 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGweriniaeth Canolbarth Affrica, De Swdan, Wganda, Rwanda, Bwrwndi, Tansanïa, Sambia, Angola, Gweriniaeth y Congo, Swdan, Camerŵn, Rwanda Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau2.9°S 23.7°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethFélix Tshisekedi Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIlunga Ilunkamba Sylvestre Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$55,351 million, $58,066 million Edit this on Wikidata
Arianffranc y Congo Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant6.006 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.479 Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Congo a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo.

Prifddinas a dinas fwyaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw Kinshasa.

Mae baner y wladwriaeth wedi newid sawl gwaith ers iddi ei hannibyniaeth yn 1960, oddi wrth Gwlad Belg. Y Prif Weinidog cyntaf oedd Patrice Lumumba (1925 – 1961) a'r Arlywydd oedd Joseph Kasa-Vubu (c. 1915 – 1969).

Ceir tystiolaeth o fodau dynol yno y wlad sy'n dyddio i 90,000 Cyn y presennol. Rhwng 14g a'r 19g roedd Teyrnas y Congo yn rheoli, wedi'i chanoli yn aber Afon Congo. Y Cymro Henry Morton Stanley oedd y dyn gwyn cyntaf i archwilio'r Congo, a hynny ar ran Leopold II o Wlad Belg a ffurfiolwyd 'hawliau' Gwlad Belg i'r wlad yng Nghynghrair Berlin yn 1885. Rhoddwyd yr enw Talaith Rydd y Congo' (Iseldireg: Kongo-Vrijstaat) arni.

Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn hynod gyfoethog o ran adnoddau naturiol, ond mae ganddi ansefydlogrwydd gwleidyddol, diffyg seilwaith, problemau â llygredd a chanrifau o echdynnu mwynau; mewn geiriau eraill, mae wedi ei hecsbloetio. Heblaw am y brifddinas Kinshasa, mae'r ddwy ddinas fwyaf wedyn, Lubumbashi a Mbuji-Mayi, wedi'u seilio ar fwyngloddio. Mae allforio mwyaf y Congo yn fwynau amrwd, gyda Tsieina yn derbyn dros 50% o'i hallforion yn 2012. Yn 2016, roedd lefel datblygiad dynol y Congo yn y 176ed allan o 187 o wledydd gan y Mynegai Datblygu Dynol.

Geirdarddiad golygu

  Enwir Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo ar ôl Afon Congo, sy'n llifo ledled y wlad. Afon Congo yw afon ddyfnaf y byd ac afon ail-fwyaf y byd o ran arllwysiad i'r môr. Enwyd y Comité d'études du haut Congo ("Pwyllgor Astudio'r Congo Uchaf"), a sefydlwyd gan y Brenin Leopold II o Wlad Belg ym 1876, a Chymdeithas Ryngwladol y Congo, a sefydlwyd ganddo ym 1879, ar ôl yr afon.[2]

Enwyd Afon Congo ei hun gan forwyr Ewropeaidd cynnar ar ôl Teyrnas Congo a thrigolion y Bantu sef pobl Congo, pan ddaethon nhw ar eu traws yn y 16g.[3][4] Daw'r gair Congo o'r iaith Congo (a elwir hefyd yn Cicongo). Yn ôl yr awdur Americanaidd Samuel Henry Nelson: "Mae'n debygol bod y gair 'Congo' ei hun yn awgrymu cyfarfod cyhoeddus a'i fod yn seiliedig ar y gwreiddyn konga, 'dod at ei gilydd'" [5] Cyflwynwyd yr enw modern ar bobl y Congo, sef y Bakongo ar ddechrau'r 20g.

Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo wedi cael ei hadnabod yn y gorffennol (yn nhrefn amser) yn:

  1. Gwladwriaeth Rydd y Congo,
  2. Congo Gwlad Belg,
  3. Gweriniaeth y Congo-Léopoldville,
  4. Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a
  5. Gweriniaeth Saïr, cyn dychwelyd i'w. enw cyfredol
  6. Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Hanes golygu

Hanes cynnar golygu

Poblogwyd yr ardal ddaearyddol a elwir bellach yn "Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo" mor gynnar â 90,000 o flynyddoedd yn ôl, fel y dangosir gan ddarganfyddiad 1988 o harpwn Semliki yn Katanda, un o'r picelli neu harpwn pigog hynaf a ddarganfuwyd erioed, y credir iddi gael ei defnyddio i bysgota Bagrus anferthol yn yr afonydd.[6][7]

Cyrhaeddodd pobloedd Bantu Ganol Affrica ar yn ystod y mileniwm cyntaf CC, yna dechreuon nhw ehangu i'r de yn raddol. Cyflymwyd eu datblygiad trwy fugeilio anifeiliaid a thechnegau Oes yr Haearn. Roedd y bobl a oedd yn byw yn y de a'r de-orllewin yn grwpiau hela (foraging groups), gyda'r defnydd lleiaf â phosibl o dechnolegau metel. Chwyldroodd amaethyddiaeth ddatblygiad offer metel yn ystod y cyfnod hwn ac arweiniodd hyn at ddadleoli'r grwpiau helwyr-gasglwyr yn y dwyrain a'r de-ddwyrain. Cwblhawyd ton olaf ehangiad Bantu erbyn y 10g, gan sefydlu rhwydweithiau masnachol lleol, rhanbarthol a thramor cymhleth a oedd yn masnachu yn bennaf mewn caethweision, halen, haearn a chopr.

Gwladwriaeth Rydd y Congo (1877-1908) golygu

Delwedd:Dhanis Expedition.JPG
Darlun cyfoes o alldaith Gwlad Belg yn ystod rhyfel Arabaidd y Congo

Bu archwilio a gweinyddu Gwlad Belg o'r 1870au hyd y 1920au. Fe'i harweiniwyd gyntaf gan y Cymro Syr Henry Morton Stanley (o Lanelwy), a weithiai o dan nawdd y Brenin Leopold II o Wlad Belg. Amharwyd yn fawr ar ranbarthau dwyreiniol y Congo gwerinol gan y dyn gwyn, a oedd yn ysbeilio caethweision yn gyson, yn bennaf gan fasnachwyr caethweision Arabaidd-Swahili fel y Tippu Tip enwog, a oedd yn adnabyddus i Stanley.

Roedd gan Leopold gynlluniau i droi'r Congo yn drefedigaeth.[8] Wedi rhes o drafodaethau, chwaraeodd Leopold un gwrthwynebydd Ewropeaidd yn erbyn un arall, gan broffesu fod ganddo amcanion dyngarol. 

Cafodd Leopold hawliau i diriogaeth y Congo yn ffurfiol yng Nghynhadledd Berlin ym 1885 a gwnaeth y tir yn eiddo preifat iddo ef ei hun! Fe’i henwodd yn Wladwriaeth Rydd y Congo.[8] Dechreuodd Leopold amryw o brosiectau seilwaith, megis adeiladu'r rheilffordd a oedd yn rhedeg o'r arfordir i brifddinas Leopoldville (Kinshasa bellach), a gymerodd wyth mlynedd i'w gwblhau. Nod bron pob prosiect o'r fath oedd ei gwneud hi'n haws cynyddu a chyflymu'r asedau y gallai Leopold a'ddrwgweithredwyr eu tynnu o'r Wladfa.[9]

Yn y Wladwriaeth Rydd, gorfododd y gwladychwyr y boblogaeth leol i gynhyrchu rwber, wrth i nifer y cerbydau gynyddu gan ateb y farchnad ryngwladol gynyddol. Gwnaeth gwerthiannau rwber ffortiwn i Leopold, a gododd sawl adeilad ym Mrwsel ac Ostend i anrhydeddu ei hun a'i wlad. I orfodi'r cwotâu rwber, galwyd y fyddin, y Force Publique, i mewn a gwnaeth yr arfer o dorri coesau'r brodorion yn fater o bolisi.[10]

Yn ystod y cyfnod 1885-1908, bu farw miliynau o Congo o ganlyniad i ecsbloetio ac afiechyd gan Wlad Belg. Mewn rhai ardaloedd gostyngodd y boblogaeth yn ddramatig - amcangyfrifwyd bod salwch cysgu a brech wen wedi lladd bron i hanner y boblogaeth yn yr ardaloedd o amgylch afon isaf y Congo.[10]

Congo Gwlad Belg (1908–1960) golygu

 
Ffotograff 1908 o gwpl Cristnogol priod.

Ym 1908, er gwaethaf amharodrwydd cychwynnol, ymgrymodd senedd Gwlad Belg i bwysau rhyngwladol a chymerwyd y Wladwriaeth Rydd oddi ar y Brenin Leopold II.

Ar 18 Hydref 1908, pleidleisiodd senedd Gwlad Belg o blaid atodi'r Congo yn drefedigaeth Belgaidd. Aeth pŵer gweithredol y wlad i weinidog materion trefedigaethol Gwlad Belg, gyda chymorth Cyngor Trefedigaethol (Conseil Colonial; y ddau wedi'u lleoli ym Mrwsel). Arferodd senedd Gwlad Belg awdurdod deddfwriaethol dros Congo Gwlad Belg. Yn 1923 symudodd y brifddinas drefedigaethol o Boma i Léopoldville, rhyw 300 km ymhellach i fyny'r afon i'r tu mewn.

Mae cofnodion yn dangos i 728 o weinyddwyr o Wlad Belg redeg y wladfa ym 1936.  Ni chaniataodd awdurdodau Gwlad Belg unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn y Congo o gwbl,[11] a diffoddodd y Force Publique, byddin a recriwtiwyd yn lleol o dan orchymyn Gwlad Belg, pob ymgais i wrthryfela.

Cynyddodd poblogaeth Gwlad Belg y Congo o 1,928 ym 1910 i bron i 89,000 ym 1959. 

Roedd Congo Gwlad Belg yn ymwneud yn uniongyrchol â'r ddau ryfel byd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–1918), cafwyd rhyfela agored gyda goresgyniad Eingl-Gwlad Belg-Portiwgaleg ar y cyd yn erbyn yr Almaen ym 1916 ac eto ym 1917 yn ystod Ymgyrch Dwyrain Affrica. Enillodd yr Force Publique fuddugoliaeth nodedig pan orymdeithiodd i mewn i Tabora ym mis Medi 1916 dan orchymyn y Cadfridog Charles Tombeur ar ôl ymladd trwm.

Annibyniaeth ac argyfwng gwleidyddol (1960–1965) golygu

 
Arweinydd ABAKO, Joseph Kasa-Vubu , Arlywydd Congo-Léopoldville a etholwyd yn ddemocrataidd gyntaf

Ym mis Mai 1960, enillodd mudiad cenedlaetholgar, y Mouvement National Congolais (MNC) dan arweiniad Patrice Lumumba, yr etholiadau seneddol. Felly daeth Patrice Lumumba yn Brif Weinidog cyntaf Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, a elwid wedyn yn Weriniaeth y Congo, ar 24 Mehefin 1960. Etholodd y senedd Joseph Kasavubu yn Llywydd plaid Alliance des Bakongo (ABAKO). Ymhlith y pleidiau eraill a ddaeth i'r amlwg roedd y Parti Solidaire Africain (PSA) dan arweiniad Antoine Gizenga, a'r Parti National du Peuple (PNP) dan arweiniad Albert Delvaux a Laurent Mbariko.[12]

Daeth Congo Gwlad Belg yn annibynnol ar 30 Mehefin 1960 dan yr enw Ffrengig "République du Congo" ("Gweriniaeth y Congo" neu "Republic of the Congo" yn Saesneg). Gan fod trefedigaeth Ffrengig gyfagos y Congo Canol (Moyen Congo) hefyd wedi dewis yr enw " Gweriniaeth y Congo " ar ôl dod yn annibynnol, galwyd y ddwy wlad yn "Congo-Léopoldville" a "Congo-Brazzaville", ar ôl eu prifddinasoedd.

Yn fuan ar ôl annibyniaeth cafwyd rhyfel cartref pan drodd talaith Katanga (dan arweiniad Moïse Tshombe ) a De Kasai yn erbyn y mudiad annibynnol newydd.[13] Dihangodd y mwyafrif o’r 100,000 o Ewropeaid a oedd wedi aros ar ôl ar ôl annibyniaeth am eu bywydau, o'r wlad.[14] Agorodd hyn y drws i Congolese ddisodli elit milwrol y Force Publique a'r swyddogion gweinyddol, Ewropeaidd.[15]

Ar 14 Medi symudodd y Cyrnol Joseph Mobutu, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau a Gwlad Belg, Lumumba o'i swydd. Ar 17 Ionawr 1961, cafodd ei drosglwyddo i awdurdodau Katangan a'i ddienyddio gan filwyr Katangese dan ofalaeth Gwlad Belg.[16] Canfu ymchwiliad gan Senedd Gwlad Belg yn 2001 fod Gwlad Belg yn “gyfrifol yn foesol” am lofruddio Lumumba, ac ers hynny mae’r wlad wedi ymddiheuro’n swyddogol am ei rôl yn ei farwolaeth.[17]

Ynghanol dryswch ac anhrefn eang, arweiniwyd llywodraeth dros dro gan dechnegwyr (y <i>Collège des commissaires généraux</i>). Daeth y gwahaniad i ben ym mis Ionawr 1963 gyda chymorth lluoedd y Cenhedloedd Unedig . Cymerodd sawl llywodraeth byrhoedlog, o Joseph Ileo, Cyrille Adoula a Moise Kapenda Tshombe, yr awenau yn olynol.

Gan fanteisio ar yr argyfwng arweinyddiaeth rhwng Kasavubu a Tshombe, enynnodd Mobutu ddigon o gefnogaeth o fewn y fyddin i lansio coup. Gyda chefnogaeth ariannol o'r Unol Daleithiau a Gwlad Belg, talodd Mobutu ei filwyr yn breifat. Dylanwadodd gwrthdroad pwerau'r Gorllewin ar gomiwnyddiaeth ac ideoleg chwithig ar eu penderfyniad i ariannu ymgais Mobutu i niwtraleiddio Kasavubu a Lumumba mewn coup trwy ddirprwy.  Arweiniodd refferendwm cyfansoddiadol y flwyddyn cyn coup Mobutu ym 1965 at newid enw swyddogol y wlad i "Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo." Yn 1971 newidiodd Mobutu yr enw eto, y tro hwn i "Weriniaeth Saïr".[18][19]

Mobutu a Saïr (Zaire) (1965–1997) golygu

Cafodd yr arlywydd newydd gefnogaeth gadarn yr Unol Daleithiau oherwydd ei wrthwynebiad i Gomiwnyddiaeth; credai'r UD y byddai ei weinyddiaeth yn gwrthwynebu symudiadau comiwnyddol yn Affrica. Sefydlwyd system un blaid, a datganodd Mobutu ei hun yn bennaeth y wladwriaeth. Cynhaliodd etholiadau o bryd i'w gilydd gydag ef yn unig yn ymgeisio. Er y cyflawnwyd heddwch a sefydlogrwydd cymharol, roedd llywodraeth Mobutu yn euog o droseddau hawliau dynol difrifol, gormes gwleidyddol a llygredd .

Daearyddiaeth golygu

 
Map Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo

Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC) wedi'i lleoli yng nghanol Affrica Is-Sahara, wedi'i ffinio i'r gogledd-orllewin gan Weriniaeth y Congo, i'r gogledd gan Weriniaeth Canolbarth Affrica, i'r gogledd-ddwyrain gan Dde Swdan, i'r dwyrain gan Wganda, Rwanda a Bwrwndi, a chan Tansanïa (ar draws Llyn Tanganica), i'r de a'r de-ddwyrain gan Sambia, i'r de-orllewin gan Angola, ac i'r gorllewin gan Gefnfor yr Iwerydd ac Angola.

Mae'r wlad yn pontio'r Cyhydedd, gydag un rhan o dair i'r Gogledd a dwy ran o dair i'r De. Maint y Congo yw 2,345,408 km sg, ychydig yn fwy na Sbaen, Ffrainc, yr Almaen, Sweden a Norwy. Hi yw'r wlad ail-fwyaf yn Affrica yn ôl ardal, ar ôl Algeria.

Cynhyrchodd yr hinsawdd drofannol system Afon Congo sy'n dominyddu'r rhanbarth yn dopograffig ynghyd â'r goedwig law y mae'n llifo drwyddi. Mae'r enw ar y wlad yn deillio'n rhannol o'r afon. Mae basn yr afon yn meddiannu bron y wlad gyfan ac ardal o bron i 1 milwn o gilometrau sgwar gan ffurfio asgwrn cefn economeg a chludiant y wlad. Ymhlith y llednentydd mawr mae'r Kasai, Sangha, Ubangi, Ruzizi, Aruwimi, a Lulonga .

 
Mynydd Nyiragongo, a ffrwydrodd ddiwethaf yn 2021.

Ar 17 Ionawr 2002 ffrwydrodd Mynydd Nyiragongo yn y Congo, gyda'r lafa'n rhedeg ar gyflymder oo 64 km yr awr. Llifodd un o'r tair nant o lafa trwy ddinas Goma, gan ladd 45 a gadael 120,000 yn ddigartref. Cafodd pedwar can mil o bobl eu symud o'r ddinas yn ystod y ffrwydrad. Gwenwynodd y lafa ddŵr Llyn Kivu, gan ladd y pysgod. Chwe mis ar ôl ffrwydrad 2002, fe ffrwydrodd Mynydd Nyamuragira gerllaw hefyd. Yna ffrwydrodd Mynydd Nyamuragira yn 2006 ac eto ym mis Ionawr 2010.[20]

Safleoedd Treftadaeth y Byd sydd wedi'u lleoli yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yw: Parc Cenedlaethol Virunga (1979), Parc Cenedlaethol Garamba (1980), Parc Cenedlaethol Kahuzi-Biega (1980), Parc Cenedlaethol Salonga (1984) a Gwarchodfa Bywyd Gwyllt Okapi (1996).

Taleithiau golygu

Ar hyn o bryd mae'r wlad wedi'i rhannu'n 26 o ddinas-dalaeithiaum ac mae pob un wedi eu hisrannu'n 145 o diriogaethau a 32 o ddinasoedd. Cyn 2015, roedd gan y wlad 11 talaith.

 
1. Kinshasa 14. Talaith Ituri
2. Canol Kongo 15. Haut-Uele
3. Kwango 16. Tshopo
4. Talaith Kwilu 17. Bas-Uele
5. Talaith Mai-Ndombe 18. Nord-Ubangi
6. Talaith Kasaï 19. Mongala
7. Kasaï-Central 20. Sud-Ubangi
8. Kasaï-Oriental 21. Éfficientur
9. Talaith Lomami 22. Tshuapa
10. Sankuru 23. Talaith Tanganyika
11. Maniema 24. Haut-Lomami
12. De Kivu 25. Talaith Lualaba
13. Gogledd Kivu 26. Talaith Haut-Katanga

Fflora a ffawna golygu

 
Tirwedd Bas-Congo

Mae fforestydd glaw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn cynnwys bioamrywiaeth fawr, gan gynnwys llawer o rywogaethau prin ac endemig, fel y tsimpansî cyffredin a'r bonobo, eliffant coedwig Affrica, gorila'r mynydd, yr okapi a'r rhino gwyn. Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn un o 17 o wledydd Megadiverse, a hi yw'r wlad fwyaf bioamrywiol yn Affrica.[21]

Mae'r rhyfel cartref wedi arwain at amodau economaidd gwael ac wedi peryglu llawer o'r fioamrywiaeth. Lladdwyd llawer o wardeiniaid y parc neu ni allent fforddio parhau â'u gwaith. Rhestrir pob un o'r pum safle gan UNESCO fel Treftadaeth y Byd mewn Perygl.

Mae cadwraethwyr wedi poeni'n arbennig am brimatau. Mae nifer o rywogaethau o'r epa mawr yn byw yn y Congo.[22] Hi yw'r unig wlad yn y byd lle mae bonobos i'w cael yn y gwyllt. Codwyd llawer o bryder ynghylch difodiant yr epa mawr. Oherwydd hela a dinistrio cynefinoedd, mae'r tsimpansî, y bonobo a'r gorila, yr oedd pob un o'u poblogaethau ar un adeg yn y miliynau, bellach wedi gostwng i ddim ond tua 200,000 gorila, 100,000 o tsimpansî ac o bosibl dim ond tua 10,000 bonobos.[23][24] Mae gorilaod, tsimpansî, a bonobos i gyd yn cael eu dosbarthu fel rhai sydd mewn perygl gan Undeb Cadwraeth y Byd, yn ogystal â'r Ocapi, sydd hefyd yn frodorol i'r ardal.

Potsio golygu

Mae potsio anifeiliaid neu ifori ar gyfer y fasnach egsotig wedi bod yn broblem barhaus o ran colli rhywogaethau yn y CHA, fe'i gwnaed yn anghenraid i rai sy'n ceisio dianc rhag tlodi ac yn fodd i barhau â'r rhyfel cartref i rai grwpiau gwrthryfelwyr gan gynnwys byddin Gwrthsafiad yr Arglwyddi ( LRA).[25] Mae eliffant y goedwig mewn perygl arbennig oherwydd cost uchel ei ifori, yn enwedig yn y Dwyrain Pell, a arweiniodd at ostyngiad o 62% yn y boblogaeth yn 2002–2011.[26] Y brif ffordd y gellir lleihau'r potsio hwn ar gyfer ifori yw drwy atal y galw rhyngwladol am ifori, gan fod hyn yn gyrru'r fasnach.[26]

Hawliau Dynol golygu

 
Grŵp o filwyr plant sydd wedi'u dadfyddino yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo

Cychwynnwyd ymchwiliad y Llys Troseddol Rhyngwladol yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo gan Joseph Kabila yn Ebrill 2004. Agorodd erlynydd y Llys Troseddol Rhyngwladol yr achos ym Mehefin 2004.

Mae milwyr plant wedi cael eu defnyddio ar raddfa fawr yn DRC, ac yn 2011 amcangyfrifwyd bod 30,000 o blant yn dal i weithredu gyda grwpiau arfog.[27]

Mae achosion o lafur plant a llafur gorfodol wedi cael eu harsylwi a'u hadrodd yn y ddogfen Canfyddiadau Adran Lafur yr UD ar Ffurfiau Gwaethaf Llafur Plant yn y DRC yn 2013.[28]

Trais yn erbyn menywod golygu

Mae'n ymddangos bod sectorau mawr o gymdeithas yn credu bod trais yn erbyn menywod yn normal.[29] Nododd arolwg DHS 2013–2014 (tt. 299) fod 74.8% o fenywod yn cytuno bod i ŵr guro ei wraig mewn rhai amgylchiadau yn gyfiawn.[30]

Mynegodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod bryder yn 2006 nad yw hyrwyddo hawliau dynol menywod a chydraddoldeb rhywiol yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth.[31][32] Defnyddir treisio torfol, trais rhywiol a chaethwasiaeth rywiol fel arf rhyfel gan Lluoedd Arfog Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a grwpiau arfog yn rhan ddwyreiniol y wlad.[33] Disgrifiwyd rhan ddwyreiniol y wlad yn benodol fel "prifddinas treisio'r byd" a disgrifir mynychder trais rhywiol yno fel y gwaethaf yn y byd.[34][35]

Mae torri organau cenhedlu benywod (FGM) hefyd yn cael ei ymarfer yn DRC, er nad ar raddfa fawr. Amcangyfrifir bod FGM wedi digwydd i oddeutu 5% o fenywod.[36] Mae FGM yn anghyfreithlon: mae'r gyfraith yn gosod cosb o ddwy i bum mlynedd o garchar a dirwy o 200,000 ffranc y Congo ar unrhyw berson sy'n torri "cyfanrwydd corfforol neu swyddogaethol" yr organau cenhedlu.[37]

Economi golygu

Mae Banc Canolog y Congo yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal ffranc y Congo, sy'n gweithredu fel y brif ffurf o arian cyfred yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Yn 2007, penderfynodd Banc y Byd roi hyd at $ 1.3 biliwn i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo mewn cronfeydd cymorth dros y tair blynedd ganlynol.[38] Dechreuodd llywodraeth Congo drafod aelodaeth yn y Sefydliad ar gyfer Cysoni Cyfraith Busnes yn Affrica (OHADA), yn 2009.[39]

Mae Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn cael ei hystyried yn eang fel un o wledydd cyfoethocaf y byd o ran adnoddau naturiol; amcangyfrifir bod ei ddyddodion heb eu cyffwrdd o fwynau amrwd yn werth mwy na US $24 triliwn.[40][41][42] Mae gan y Congo 70% o goltan y byd, traean o'i cobalt, mwy na 30% o'i gronfeydd diemwnt, ac un rhan o ddeg o'i gopr.[43][44]

Diwylliant golygu

 
Cerflun gwrywaidd Hemba

Mae diwylliant Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn adlewyrchu amrywiaeth ei channoedd o grwpiau ethnig a'u gwahanol ffyrdd o fyw ledled y wlad  - o geg Afon Congo ar yr arfordir, i fyny'r afon trwy'r goedwig law a safana yn ei chanol, i'r mynyddoedd mwy poblog yn y dwyrain pell. Ers diwedd y 19g, mae ffyrdd traddodiadol o fyw wedi newid yn sgil trefedigaethu, y frwydr am annibyniaeth, marweidd-dra yn y cyfnod Mobutu, ac yn fwyaf diweddar, Rhyfeloedd Cyntaf ac Ail Ryfeloedd y Congo. Er gwaethaf y pwysau hyn, mae arferion a diwylliannau'r Congo wedi eucadw'n bur dda.

Cerddoriaeth golygu

Nodwedd arall yn niwylliant y Congo yw ei gerddoriaeth. Mae gan y DRC ei ddylanwadau ar gerddoriaeth Ciwba, y rumba, kumba a'r merengue,ac yna'r soukous.[45] Mae cenhedloedd eraill yn Affrica yn cynhyrchu genres cerddoriaeth sy'n deillio o soukous y Congo. Ceir rhai o'r bandiau Affricanaidd yn canu mewn Lingala, un o brif ieithoedd y DRC. Mae'r un soukous, o dan arweiniad "le sapeur", Papa Wemba, wedi gosod y naws ar gyfer cenhedlaeth o ddynion ifanc sydd bob amser wedi gwisgo i fyny mewn dillad drud. Daethant i gael eu hadnabod fel y bedwaredd genhedlaeth o gerddoriaeth Congo ac maen nhw'n dod yn bennaf o'r cyn fand adnabyddus Wenge Musica. Mae Elizo Kisonga, artist cerddorol sydd bellach yn byw yn Lloegr yn dod â diwylliant y Congo i ble bynnag y mae hi gyda'i lleisiau a'i thalent anhygoel.

Cyfeiriadau golygu

  1. https://population.un.org/wpp/DataQuery/.
  2. Bobineau, Julien; Gieg, Philipp (2016). The Democratic Republic of the Congo. La République Démocratique du Congo (yn Saesneg). LIT Verlag Münster. t. 32. ISBN 978-3-643-13473-8.
  3. Kisangani, Emizet Francois (2016). Historical Dictionary of the Democratic Republic of the Congo (yn Saesneg). Rowman & Littlefield. t. 158. ISBN 978-1-4422-7316-0.
  4. Anderson, David (2000). Africa's Urban Past. ISBN 978-0-85255-761-7.
  5. Nelson, Samuel Henry.
  6. "Katanda Bone Harpoon Point | The Smithsonian Institution's Human Origins Program". Humanorigins.si.ed. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mawrth 2015. Cyrchwyd 10 Mawrth 2015.
  7. Yellen, John E. (1 Medi 1998). "Barbed Bone Points: Tradition and Continuity in Saharan and Sub-Saharan Africa". African Archaeological Review 15 (3): 173–98. doi:10.1023/A:1021659928822.
  8. 8.0 8.1 Keyes, Michael.
  9. Hochschild, Adam.
  10. 10.0 10.1 Fage, John D. (1982).
  11. Meredith, Martin (2005). The Fate of Africa. New York: Public Affairs. t. 6. ISBN 9781586482466.
  12. Congo 1960, dossiers du CRISP, Belgium
  13. "- HeinOnline.org". www.heinonline.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2018.
  14. "The United Nations and the Congo". Historylearningsite.co.uk. 30 Mawrth 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mehefin 2013. Cyrchwyd 2 Mai 2010.
  15. Sécession au Katanga – J.Gérard-Libois -Brussels- CRISP
  16. "Patrice Lumumba: 50 Years Later, Remembering the U.S.-Backed Assassination of Congo's First Democratically Elected Leader". Democracy Now!. 21 Ionawr 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2015. Cyrchwyd 10 Mawrth 2015.
  17. "Belgians accused of war crimes in killing of Congo leader Lumumba". The Independent. 23 Mehefin 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Hydref 2017. Cyrchwyd 21 Mai 2017.
  18. Payanzo, Ntsomo. "Democratic Republic of the Congo (DRC)". britannica.com. Encyclopædia Britannica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Hydref 2015. Cyrchwyd 2 Hydref 2015.
  19. Emizet Francois Kisangani; Scott F. Bobb (2010). Historical Dictionary of the Democratic Republic of the Congo. Scarecrow Press. t. i. ISBN 978-0-8108-6325-5. Cyrchwyd 29 April 2016.
  20. "Nyamuragira Volcano, Democratic Republic of Congo | John Seach". Volcanolive.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Tachwedd 2017. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2017.
  21. "Lambertini, A Naturalist's Guide to the Tropics, excerpt". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2012. Cyrchwyd 30 Mehefin 2008.
  22. "The IUCN Red List of Threatened Species". IUCN Red List of Threatened Species. April 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Hydref 2018. Cyrchwyd 23 Hydref 2018.
  23. "Gorillas on Thin Ice". United Nations Environment Programme. 15 Ionawr 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mai 2016. Cyrchwyd 19 Mai 2010.
  24. Vigilant, Linda (2004). "Chimpanzees". Current Biology 14 (10): R369–R371. doi:10.1016/j.cub.2004.05.006. PMID 15186757.
  25. "Elephant Poaching on Rise in Resistance Army Stronghold in Democratic Republic of Congo". Scientific American (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 18 Hydref 2018.
  26. 26.0 26.1 Maisels, Fiona; Strindberg, Samantha; Blake, Stephen; Wittemyer, George; Hart, John; Williamson, Elizabeth A.; Aba’a, Rostand; Abitsi, Gaspard et al. (4 Mawrth 2013). "Devastating Decline of Forest Elephants in Central Africa" (yn en). PLOS ONE 8 (3): e59469. Bibcode 2013PLoSO...859469M. doi:10.1371/journal.pone.0059469. ISSN 1932-6203. PMC 3587600. PMID 23469289. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3587600.
  27. Drumbl 2012.
  28. "Findings on the Worst Forms of Child Labor – Democratic Republic of the Congo". United States Department of Labor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2015. Cyrchwyd 10 Mawrth 2015.
  29. "UN expert on violence against women expresses serious concerns following visit to Democratic Republic of Congo". UNOG.ch. 30 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Chwefror 2008.
  30. Ministère du Plan et Suivi de la Mise en œuvre de la Révolution de la Modernité (MPSMRM), Ministère de la Santé Publique (MSP) et ICF International (2014).
  31. "Concluding comments of the Committee on the Elimination of Discrimination against Women: Democratic Republic of the Congo" (PDF). United Nations. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 28 Mehefin 2017.
  32. "Violence Against Women in the Democratic Republic of Congo (DRC)" (PDF). peacewomen.org. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 25 Medi 2007.
  33. "OHCHR | Africa Region". Ohchr.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mai 2017. Cyrchwyd 20 Mai 2017.
  34. McCrummen, Stephanie (9 Medi 2007). "Prevalence of Rape in E. Congo Described as Worst in World". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mai 2011. Cyrchwyd 2 Mai 2010.
  35. "UN official calls DR Congo 'rape capital of the world.'". BBC. 28 April 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2012.
  36. Matundu Mbambi, Annie; Faray-Kele, Marie-Claire (April–December 2010). "Gender Inequality and Social Institutions in the D.R.Congo" (PDF). peacewomen.org. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 31 Hydref 2014. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2014.
  37. The law on sexual violence, DRC 2006 (Les lois sur les violences sexuelles) reads (in French): "Article 3, Paragraphe 7: De la mutilation sexuelle; Article 174g; Sera puni d’une peine de servitude pénale de deux à cinq ans et d’une amende de deux cent mille francs congolais constants, quiconque aura posé un acte qui porte atteinte à l’intégrité physique ou fonctionnelle des organes génitaux d’une personne.
  38. "World Bank Pledges $1 Billion to Democratic Republic of Congo". VOA News. Voice of America. 10 Mawrth 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2013. Cyrchwyd 25 December 2008.
  39. "OHADA.com: The business law portal in Africa". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mawrth 2009. Cyrchwyd 22 Mawrth 2009.
  40. "DR Congo's $24 trillion fortune". Thefreelibrary.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Chwefror 2014. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2011.
  41. "Congo with $24 Trillion in Mineral Wealth BUT still Poor". News About Congo. 15 Mawrth 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mai 2013. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2011.
  42. Kuepper, Justin (26 Hydref 2010). "Mining Companies Could See Big Profits in Congo". Theotcinvestor.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2011.
  43. Coltan is a major source of tantalum which is used in the fabrication of electronic components in computers and mobile phones.
  44. Bream, Rebecca (8 Tachwedd 2007).
  45. Stone, Ruth M. (2010). The Garland Handbook of African Music. t. 133. ISBN 978-1-135-90001-4. Cyrchwyd 24 Awst 2014.