Bataliwn Kastuś Kalinoŭski

Bataliwn o wirfoddolwyr Belarwsieg yn ymladd gydag Wcráin yn erbyn lluoedd Rwsia a'i chynghrair, llywodraeth Lukashenka Belarws

Mae Bataliwn Kastuś Kalinoŭski (Belarwseg: Батальён імя Кастуся Каліноўса; Wcreineg: Батальйон імені Кастуся Калиновського), yn fataliwn o wirfoddolwyr Belarwsieg a ffurfiwyd i ymladd gyda lluoedd Wcráin yn erbyn lluoedd Rwsia (a, thrwy estyniad, lluoedd unben Belarws, Alexander Lukashenko sydd wedi cynghreirio gyda Rwsia yn Rhyfel Rwsia ar Wcráin yn 2022.[1]

Bataliwn Kastuś Kalinoŭski
Enghraifft o'r canlynolbattalion of territorial defense in Ukraine, Volunteer Battalion Edit this on Wikidata
Rhan oInternational Legion of Territorial Defense of Ukraine Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2022 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadInternational Legion of Territorial Defense of Ukraine Edit this on Wikidata
Enw brodorolБатальён імя Кастуся Каліноўскага Edit this on Wikidata
GwladwriaethWcráin Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://kalinouski.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Дзяніс Урбановіч, Dzyanis Urbanovich, o Fataliwn Kastuś Kalinoŭski yn ymladd o dan strwythur Lluoedd Arfog Wcráin

Yn ogystal â'r bataliwn ei hun, ceir rhan o'r strwythur sy'n cynnwys grwp lluoedd arbennig o'r enw Чорны кот ("Cath Ddu").[2]. Roedd y "Cath Ddu" yn gatrawd o ymladdwyr partizan Belarwseg, a ymladdodd rhwng 1944-1957 yn erbyn lluoedd ac awdurdodau'r Undeb Sofietaidd er mwyn adfer annibyniaeth byr-hoedlog Gweriniaeth Pobl Belarws wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ffurfiwyd y grŵp gwirfoddol tramor cyntaf o Belarwsiaid yn ystod Rhyfel Rwsia-Wcreineg, dyma oedd y grŵp Tactegol "Belarus", a ffurfiwyd yn 2015 yn ystod Rhyfel Donbas.[3]

Enwyd y bataliwn ar ôl Kastuś Kalinoŭski, arweinydd Belarwsaidd o'r 19g yn ystod Gwrthryfel Ionawr 1863 yn erbyn Ymerodraeth Rwsia.[1] Dywedwyd bod tua 200 o Belarusiaid wedi ymuno â'r bataliwn ar 5 Mawrth 2022.[4]

Ar 13 Mawrth 2022, cyhoeddodd y bataliwn ei anafedig cyntaf, Alexei Skoblia.[5]

Mae'r bataliwn wedi cael sylw ar bosteri cyhoeddus yn Kyiv i ddangos cysylltiadau milwrol Wcrain-Belarwsiaidd.[6]

Ar 25 Mawrth 2022, adroddwyd bod y bataliwn wedi tyngu llw a'i fod wedi'i dderbyn yn ffurfiol i fyddin Wcráin.[7] Ar yr un diwrnod, tyngodd aelodau'r Bataliwn lŵ teyrngarwch a ysgrifennwyd gan yr aelodau ei hunain yn yr iaith Belarwseg. Gobaith Franak Viačorka, Uwch Ymghynghorydd i Arlywydd answyddogol Belarws, Sviatlana Tsihanouskaya, oedd y byddai'r llŵ yn dod yn sail llŵ byddin Belarws rhydd o Lukashenka.[8]

Erbyn 26 Mawrth 2022, adroddwyd bod "5 uned" o filwyr Belarwsieg yn ymladd yn Wcráin gyda'r Wcreiniaid.[9]

Ymateb

golygu

Cymeradwywyd creu’r bataliwn gan arweinydd gwrthblaid Belarwsiaidd, Sviatlana Tsikhanouskaya, a nododd fod “mwy a mwy o bobl o Belarus yn ymuno i helpu'r Wcreiniaid i amddiffyn eu gwlad”.[10][11] Galwodd Arlywydd anetholedig Belarus, Alexander Lukashenko, sydd mewn cynghrair ag arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, fod y gwirfoddolwyr yn “ddinasyddion gwallgof”.[5]

Aelodau nodedig

golygu
  • Pavel Shurmei, cyn rhwyfwr Olympaidd Belarwsiaidd a deiliad record byd.[12]
  • Dzyanis Urbanovich [fod], cadeirydd y Маладога Фронту ("Ffrynt Ifanc") [13]
  • Pavel Kulazhanka - blogiwr Exomon, aelod o'r mudiad Супраціў (Gwerthwynebwyr; Resistance)

Colledion

golygu

Ar 13 Mawrth 2022 cadarnhawyd bod dirprwy bennaeth y bataliwn, o'r enw “Tur” (enw iawn Aliaksiej Skoblia), wedi'i ladd yn Ymosodiad Kyiv pan ymosodwyd ar ei uned.[5][14]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Buckby, Jack (2022-03-10). "Putin Won't Like This: Belarusian Volunteers Are Fighting Against Russia in Kyiv". 19FortyFive (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-15. Cyrchwyd 2022-03-15.
  2. Адмысловая група беларускіх дабраахвотнікаў «Чорны кот»
  3. РАЦЫЯ, РАДЫЁ (10 Chwefror 2017). "Расея можа паўтарыць украінскі сцэнар у Беларусі". БЕЛАРУСКАЕ РАДЫЁ РАЦЫЯ (yn Pwyleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Awst 2021. Cyrchwyd 2022-03-19.
  4. "Belarusians From Kastus Kalinouski Battalion Sharpening Their Skills: Video Fact". charter97.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-13. Cyrchwyd 2022-03-15.
  5. 5.0 5.1 5.2 "Лукашэнка адрэагаваў на ўтварэньне ва Ўкраіне беларускага батальёну імя Кастуся Каліноўскага" [Lukashenka reacted to the formation of Kastuś Kalinoŭski Belarusian battalion in Ukraine]. Радыё Свабода // Radio Free Europe/Radio Liberty (yn Belarwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-19. Cyrchwyd 2022-03-15.
  6. "У Кіеве з'явіліся беларускія банеры" [Belarusian posters have appeared in Kyiv]. Наша Ніва / Nasha Niva. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-26. Cyrchwyd 2022-03-19.
  7. "Батальён беларускіх добраахвотнікаў імя Каліноўскага ўвайшоў у склад Узброеных сіл Украіны" [A battalion of Belarusian volunteers named after Kalinouski has joined the Armed Forces of Ukraine]. Радыё Свабода // Radio Free Europe/Radio Liberty (yn Belarwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-26. Cyrchwyd 2022-03-26.
  8. "On this im portant day in the history of Belarus, volunteers of Kastus Kalinousky's battalion took the oath of allegiance..." Twitter @franakviacorka. 2022-03-25.
  9. "Belarusian volunteer fighting for Ukraine is showing the destroyed Russian equipment. 'We are not afraid. We are fighting for truth. And as you can see, we are winning,' he said..." Twitter@franakviacorka. 26 Mawrth 2022.
  10. "Svetlana Tikhanovskaya: Is the fate of Belarus tied to the fate of Ukraine?" (Podcast Interview). BBC. 11 March 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 March 2022. Cyrchwyd 16 March 2022.
  11. "This is the Kastus Kalinouski battalion – a volunteer group of Belarusians formed to defend Ukraine". Twitter (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-15. Cyrchwyd 2022-03-15.
  12. "Экс-гребец Шурмей о войне в Украине: "Каким бы не был этот путь, он закончится победой украинского и беларусского народов"" [Ex-rower Shurmei about the war in Ukraine: “Whatever this path is, it will end with the victory of the Ukrainian and Belarusian peoples”]. BY.Tribuna.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-15. Cyrchwyd 2022-03-15.
  13. "«Верым, што пераможам Расею, а пасьля вызвалім Беларусь». У беларускую роту тэрабароны Ўкраіны запісаліся сямёра маладафронтаўцаў". svaboda.org (yn Belarwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-10. Cyrchwyd 2022-03-22.
  14. "Под Киевом погиб один из основателей белорусского добровольческого движения в Украине" [One of the founders of the Belarusian volunteer movement in Ukraine died near Kyiv]. 24 Канал (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-18. Cyrchwyd 2022-03-15.

Dolenni allanol

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Felarws. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.