Bathafarn
Plasty ydy Bathafarn (Cyfeirnod OS: SJ1457) oddeutu kilometr a hanner allan o dref hynafol Rhuthun, Sir Ddinbych. Yma y ganwyd a magwyd Edward Jones (1778-1837) ger eglwys Llanrhudd (neu 'Llanrhydd'), gweinidog gyda'r Wesleiaid ac un o sefydlwyr pwysicaf y mudiad hwnnw yng Nghymru.
Enghraifft o'r canlynol | plasty gwledig |
---|---|
Rhan o | Ystad Parc Bathafarn |
Lleoliad | Llanbedr Dyffryn Clwyd |
Rhanbarth | Llanbedr Dyffryn Clwyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Am y cylchgrawn, gweler Bathafarn (cylchgrawn).
Dywed adroddiad CPAT ar hanes yr ardal: Gwnaed gwelliannau tir sylweddol yn ystod ail hanner y 16eg ganrif, fel yn achos yr hen barc hela canoloesol blaenorol ym Mathafarn, a ddisgrifiwyd yn flaenorol ‘wedi tyfu’n wyllt gyda choed a drain ac roedd ambell ddarn ohono yn gorstir fel na allai unrhyw wartheg bori arno dros y gaeaf heb fod mewn perygl o foddi’. Yma, rhwng y 1550au a’r 1590au y cofnodwyd bod y Thelwalls wedi nid yn unig godi adeiladau a’u gwella ar y parc y sonnir amdano… [1]
John Wynn Thelwall a gododd y plasty a bu yn nwylo teulu'r Thellwall hyd at 1811 pan cafodd ei werthu i Joseph Ablett. Pan fu ef farw yn 1848 aeth yr ystâd (a phlasty 'Llanbedr Hall' gerllaw i ddwylo ei gefnder o Fanceinion. Newidiodd ddwylo, gan leihau yn ei faint pob tro. Gwerthwyd y lle yn 1952, gyda dim ond 70 erw o dir i'r teulu 'Smith' a drodd e'n fflatiau, ac sy'n dal yn berchnogion.
Dolennau allanol
golygu- Gwefan Saesneg y perchnogion presennol Archifwyd 2009-06-26 yn y Peiriant Wayback