Llanbedr Dyffryn Clwyd

pentref yn Sir Ddinbych

Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Llanbedr Dyffryn Clwyd("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ger cyffordd y briffordd A494 a'r ffordd B5429, ychydig i'r dwyrain o dref Rhuthun. I'r dwyrain o'r pentref mae bryn Moel Fenlli, gyda Moel Famau i'r gogledd-ddwyrain. Rhwng y ddau fryn yma mae Bwlch Pen Barras (551m); roedd yr hen lôn rhwng Dyffryn Clwyd a'r Wyddgrug cyn i'r A494 gael ei adeiladau yn arwain o Lanbedr Dyffryn Clwyd dros y bwlch yma i Dafarn-y-Gelyn. Yn 1851 roedd 461 o drigolion yma.[1]

Llanbedr Dyffryn Clwyd
Eglwys San Pedr, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun 01.JPG
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1242°N 3.2805°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000158 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ145595 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).
Eglwys Llanbedr Dyffryn Clwyd

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Darren Millar (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Jones (Ceidwadwr).[2][3]

HanesGolygu

Dyddia'r eglwys o'r cyfnod Fictoraidd; roedd yr hen eglwys ganoloesol (Eglwys St Pedr) ar safle wahanol gerllaw Neuadd Llanbedr, i'r gogledd o'r pentref presennol.

Ceir plasty o'r enw Neuadd Llanbedr ('Llanbedr Hall') yma yna edrych dros y dyffryn. Arferai Joseph Ablett (1770-1847) fyw yno, sef y gŵr a noddodd Ysbyty Meddwl Dinbych; roedd hefyd yn Uwch Siryff y sir yn 1809 ac yn gyfaill mynwesol i William Owen Pughe (1759-1835).

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbedr Dyffryn Clwyd (pob oed) (787)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedr Dyffryn Clwyd) (239)
  
31%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedr Dyffryn Clwyd) (362)
  
46%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbedr Dyffryn Clwyd) (137)
  
36.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

OrielGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. The Hand-book for the Vale of Clwyd gan William Davis, Argraffwyd gan Isaac Clarke 1856 tudalen 165
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.