Beatrice Green
Ymgyrchydd llafur o Gymru oedd Beatrice Green (ganwyd Dykes; 1 Hydref 1894 – 19 Hydref 1927). Roedd hi'n ffigwr allweddol yn y streic gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a’r cloi allan o’r glowyr. Areithiwr ac yn llenor oedd hi, a ddaeth yn arweinydd ym mudiad llafur De Cymru.
Beatrice Green | |
---|---|
Ganwyd | 1 Hydref 1894 Abertyleri |
Bu farw | 19 Hydref 1927 Aber-bîg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithredydd gwleidyddol, athro, areithydd |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Cafodd Green ei geni yn Abertyleri, sir Fynwy, yn ferch i William a Mary Dykes; roedd William yn gweithiwr alcam a glöwr.[1] Lladdwyd un o'i brodyr mewn damwain lofaol yn 1910. Astudiodd hi yn Ysgol Ramadeg Abertyleri, ac wedyn daeth hi'n athrawes. Bu'n weithgar yn yr ysgol Sul yn Eglwys y Bedyddwyr yn Ebeneser, a bu'n aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur yn sir Fynwy. Ar 22 Ebrill 1916, priododd â’r glöwr Ronald Emlyn Green, a fe’i gorfodwyd allan o’i swydd oherwydd bar priodas y Deyrnas Unedig.[2][3]
Ym 1922, daeth Green yn ysgrifennydd "Linen League" yr ysbyty lleol, grŵp o ddeugain o ferched a wirfoddolodd i olchi a chyflenwi llieiniau'r ysbyty. Daeth Green yn "ymgyrchydd brwd o blaid rheoli genedigaethau". Gyda Marie Stopes, arweiniodd ymgyrch lwyddiannus i sefydlu clinig rheoli genedigaethau yn yr ysbyty. [4] Dechreuodd hefyd gyfrannu i gylchgrawn sosialaidd Ffrengig ac ysgrifennodd i'r cylchgrawn Labour Woman in Britain.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bruley 2010, t. 101.
- ↑ Boots, Bryan (2022). "Green, Beatrice (1894-1927), gweithredydd gwleidyddol". Cyrchwyd 10 Awst 2023.
- ↑ Bruley 2010.
- ↑ Stewart 2020.
- ↑ Bruley, Sue (1 Mawrth 2017). "Beatrice Green and the Unsung Heroines Behind 1926's Lockout". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Awst 2023.