Abertyleri
Tref ym Mlaenau Gwent, De Cymru yw Abertyleri. Saif y dref 16 mi i'r Gogledd-orllewin o Gasnewydd, ar y Great Western Railway yn wreiddiol. Cododd ei phoblogaeth yn dra chyflym yn ystod y cyfnod o ddatblygu mwyngloddio yn Ne Cymru, gyda 10,846 o breswylwyr yn ôl Cyfrifiad 1891 ac wedyn i 21,945 ddeng mlynedd diweddarach. Yn gorwedd yn yr ardal fwyngloddio fynyddig o'r hen siroedd o Sir Fynwy a Sir Forgannwg, yng nghwm Ebwy Fach, roedd y preswylwyr fel arfer yn gweithio yn y glofeydd, gwaith haearn, a gwaith tunplat.
| |
Math |
tref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Gefeilldref/i |
Royat ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Blaenau Gwent ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.73°N 3.13°W ![]() |
Cod SYG |
W04000924 ![]() |
Cod OS |
SO215045 ![]() |
Cod post |
NP13 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Alun Davies (Annibynnol) |
AS/au | Nick Smith (Llafur) |
![]() | |
Mae sawl ysgol gynradd fach, ysgol uwchradd, a chanol tref traddodiadol gan Abertyleri. Heddiw, mae poblogaeth o 11,528 ganddi, ac yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 7% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg; mae 297 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 263 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 247 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 10.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[1]
Yn 2003, roedd tai rhataf y Deyrnas Unedig yn Abertyleri yn ôl arolwg y Halifax, gyda phris cyfartalog o £37,872.[2] Yn boblogaidd oherwydd ei golygfeydd gwledig, mae'r ardaloedd o Aber-bîg, Llanhiledd, Cwmtyleri, a Chwe Chloch ar ei phwys.
Mae'r enw'n ymddangos gyntaf mewn argraffiad ym 1779, a tharddiad y gair yw "Aber" (ceg afon) ac enw'r afon fechan "Teleri" a ymddangosodd gyntaf ym 1332. Mae'r gair hwnnw hefyd yn air cyfansawdd, sef "tŷ" ac "Eleri" (enw person).[3]
Roedd coedwig enfawr gerllaw'r dref ers talwm o'r enw Glyn Teleri, ond Cwmtyleri ydy'r enw sydd bellach ar yr ardal hon.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ The Changing Face of Wales - Welsh Speakers
- ↑ Abertillery's the cheapest town (en) , South Wales Echo, 25 Ionawr 2003, Tudalen 3. Cyrchwyd ar 24 Ebrill 2009.
- ↑ Dictionary of the Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2007
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013