Western Mail

(Ailgyfeiriad o WalesOnline)

Mae'r Western Mail yn bapur newydd beunyddiol yn yr iaith Saesneg a gyhoeddir gan y cwmni Media Wales Ltd yng Nghaerdydd sydd yn berchen i Trinity Mirror un o gwmniau newyddion mwyaf y DU. Fe'i sefydlwyd yn 1869. Mae'n disgrifio ei hun fel "papur cenedlaethol Cymru". Cawsai ei gyhoeddi yn fformat argrafflen hyd 2004, pan newidiodd i fformat compact.

Western Mail
Math Papur dyddiol
Fformat Compact
Golygydd Alan Edmunds
Sefydlwyd 1869 (155 blynedd yn ôl)
Pencadlys Chwech Stryd y Parc,
Caerdydd
Cylchrediad 11,719 (Ion-Rhag 2019)[1]
Chwaer-bapurau newyddion South Wales Echo, Wales on Sunday
Gwefan swyddogol walesonline.co.uk
Cost 80c (£1.50 ar ddydd Sadwrn)

Yn ogystal â newyddion Cymru a gwledydd eraill Prydain a rhywfaint o newyddion tramor, mae'r papur yn rhoi llawer o le i newyddion rygbi, pêl-droed ac athletau Cymreig.

Yn hanesyddol, yr oedd cysylltiad cryf rhwng y Western Mail a'i berchnogion, meistri'r diwydiant glo a haearn yn ne Cymru. Arweiniai hyn at agwedd lai na diduedd tuag at anghydfod diwydiannol yn y diwydiannau hynny, yn arbennig yn achos streiciau mawr y glowyr, agwedd a gofir hyd heddiw gan rai. Yn ogystal mae wedi dilyn gogwydd digon Prydeinig dros y blynyddoedd, yn arbennig tuag at teulu brenhinol Lloegr a'r mudiad cenedlaethol yng Nghymru.

Yn ddiweddar fodd bynnag, ac yn arbennig ers datganoli a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r papur wedi mabwysiadu safbwynt mwy poblogaidd, Cymreigaidd.

Ei brif gystadleuydd yn y farchnad Gymreig yw'r Daily Post yn y gogledd. Ers tro byd mae'r Daily Post wedi rhoi'r gorau i gystadlu llawer yn y De â'r Western Mail ac yn canolbwyntio bron yn llwyr ar y Gogledd, ond mae'r Western Mail yn cael ei weld fel papur i Dde Cymru gan nifer o bobl yn y Gogledd o hyd. Mae'n debyg fod rhaniad ffocws daearyddol y ddau bapur yn deillio o'r ffaith eu bod yn rhannu'r un perchennog, sef cwmni Trinity Mirror ccc. Byddai'r cynllun arfaethedig i gyhoeddi papur newydd beunyddiol Cymreig arall yn y dyfodol agos, The Welsh Globe yn cynyddu'r gystadleuaeth mae'r papur yn ei wynebu.

Prin yw'r defnydd o'r Gymraeg yn y Western Mail. Ar un adeg roedd yr ysgolhaig Bedwyr Lewis Jones yn sgwennu colofn iddo ar eirdarddiad geiriau Cymraeg.

Yn 2016 penodwyd y golygydd benywaidd cyntaf ers i'r papur gychwyn. Cychwynodd Catrin Pascoe ar ei swydd ar 1 Mawrth 2016 gan olynu Alan Edmunds, a symudodd i swydd cyfarwyddwr rhanbarthol gyda Trinity Mirror.[2]

Gwefan

golygu

Cychwynodd gwmni y Western Mail eu gwefan gynta yn 1997 o dan y brand 'Total Wales' gan ddefnyddio deunydd o'r papur newydd a nodweddion eraill o gylchgronau y cwmni.[3]. Datblygodd hyn dros y blynyddoedd gyda ail-lansiad o dan y brand 'Wales Online' yn 2008.[4] Erbyn hyn mae'r wefan yn cynnwys storiau sy'n diweddaru drwy'r dydd, erthyglau o'r papur newydd a erthyglau arbennig i'r wefan. Mae yna newid pwyslais wedi digwydd gyda cynnydd mawr mewn erthyglau 'rhestr', yn yr arddull a boblogeiddwyd gan wefan Buzzfeed, er mwyn denu darllenwyr i ddilyn dolenni o wefannau cymdeithasol. Mae nifer wedi beirniadu y strategaeth yn cynnwys undeb y newyddiadurwyr yr NUJ.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Circulation per issue" (PDF). Abc.org.uk. Cyrchwyd 23 Mai 2019.
  2. Dynes gynta’ i fod yn olygydd y Western Mail , Golwg 360, 8 Chwefror 2016.
  3. (Saesneg) Archif gwefan o 'Total Wales'. Adalwyd ar 8 Chwefror 2016.
  4. (Saesneg) Tudalen Facebook Wales Online. Adalwyd ar 8 Chwefror 2016.
  5. NUJ fears Trinity Mirror click targets could 'dumb down' news (en) , BBC News, 10 Medi 2015. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2016.

Dolenni allanol

golygu