Ysgolhaig a bardd Sbaenaidd yn ystod y Dadeni Dysg oedd Beatriz (neu Beatrix) Galindo (Rhagfyr 1465[1]23 Tachwedd 1534) sy'n nodedig am fod yn y fenyw gyntaf yn hanes i gael ei phenodi yn athrawes prifysgol, a hynny ym Mhrifysgol Salamanca.

Beatriz Galindo
Ffugenwla Latina Edit this on Wikidata
GanwydBeatriz Galindo Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Salamanca Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1535 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCoron Castilia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Salamanca Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, meddyg, dyneiddiwr y Dadeni Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodFrancisco Ramírez de Madrid Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Salamanca, Coron Castilia. Dysgodd i ddarllen ac ysgrifennu yn Lladin dan diwtor, ond roedd ei rhieni yn bwriadu ei danfon i leiandy. Clywodd y Frenhines Isabel am ddoniau'r ferch o Salamanca, a chafodd Beatriz ei galw i'r llys brenhinol i roi gwersi Lladin i'r Dywysoges Juana.[2] Priododd Francisco Ramirez de Madrid ("el Artillero") ym 1491.[3] Bu farw Francisco ym 1501.

Sefydlwyd ysbytyi'r tlawd ym Madrid gan Galindo. Ym Mhrifysgol Salamanca, darlithiodd ar bynciau rhethreg, athroniaeth, a meddygaeth. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth Ladin a hefyd sylwebaeth ar weithiau Aristoteles.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Roger Boase (21 Mehefin 2017). Secrets of Pinar's Game (2 vols): Court Ladies and Courtly Verse in Fifteenth-Century Spain (yn Saesneg). BRILL. t. 258. ISBN 978-90-04-33836-4.
  2. 2.0 2.1 Tom Streissguth, The Greenhaven Encyclopedia of the Renaissance (Farmington Hills, Michigan: Greenhaven Press, 2008), tt. 138–39.
  3. Katharina M. Wilson; M. Wilson (1991). An Encyclopedia of Continental Women Writers (yn Saesneg). Taylor & Francis. t. 440. ISBN 978-0-8240-8547-6.