Bechgyn yn chwarae milwyr

Tapestri a grewyd gan Francisco de Goya yw Bechgyn yn chwarae milwyr, a gafodd ei greu ar gyfer un o ystafelloedd tywysogion Asturias ym mhalas Pardo. 

Bechgyn yn chwarae milwyr
Math o gyfrwngpaentiad Edit this on Wikidata
CrëwrFrancisco Goya Edit this on Wikidata
Deunyddpaent olew, cynfas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1778, 1779 Edit this on Wikidata
Genrecelf genre Edit this on Wikidata
LleoliadAmgueddfa'r Prado Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar hyn o bryd mae'n cael ei arddangos yn y Museo del Prado. Gwarchodir sgets cynnar o'r darlun yng nghasgliad Yandura yn Sevilla.

Dadansoddiad

golygu

Mae dau fachgen yn sefyll gyda gynnau yn eu dwylo, wrth i un bachgen chwarae drwm tra bod un arall yn gafael cloch. Mae perspectif isel y darlun yn helpu i leoli'r cymeriadau uwchben set o risiau. 

 
Drafft cynnar o'r darlun, sydd wedi'i warchod yng nghasgliad Yandura yn Sevilla.

Mae'r cyfansoddiad yn cyfleu elfennau rhyfelgar, doniol a phlentynaidd. Gall yr edrychwr edmygu'r milwr bach bywiog ym mlaendir y llun, sy'n cynrychioli llwyddiant mawr yn yrfa celfyddydol yr artist. Mae Goya yn aml yn cynrychioli plentyndod yn ei holl ffurfiau cymdeithasol, gan gynnwys plant hoffus, urddasol ac eraill.

Mae'n bosib y byddai'r llun wedi hongian uwchben drws, ac yn delio a phynciau plentynnaidd fel yn Niños del carretón, Muchachos cogiendo fruta neu Niños inflando una vejiga. Mae ganddo amrywiad cromatic sy'n debyg i'r hyn y gellir ei weld yn El cacharrero, sydd wedi'i leoli ar yr un wal.

Mae lliwiau melyn a glas y gwaith yn cyfleu argraff llon. O edrych ar y gwaith brws a goleuo, gellir gweld y darlun fel rhagflaenydd argraffiadaeth, fel peintiadau eraill Goya.

Achosodd y gwaith broblemau i'r clustogwyr, a bu'n rhaid iddynt addasu'r cyfansoddiad er mwyn gweddu a phrif asthetig y cyfnod. 

Fuentes

golygu