Beclometasone dipropionate
Mae beclometasone dipropionate, sydd hefyd yn cael ei alw'n beclomethasone dipropionate yn feddyginiaeth steroid. Mae'n cael ei werthu yn y Deyrnas Unedig o dan yr enwau brand Qvar, Clenil Modulite ac Asmabec Clickhaler[1]. Mae ar gael fel anadlydd, hufen, pils, a chwistrell drwynol. Defnyddir y ffurf anadlu i reoli asthma yn y tymor hir. Gellir defnyddio'r hufen ar gyfer dermatitis a soriasis. Mae'r pils wedi cael eu defnyddio i drin colitis wlserol. Defnyddir y chwistrell drwynol i drin rhinitis alergaidd a pholypau trwynol.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 520.222781 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₈h₃₇clo₇ |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia b3 |
Yn cynnwys | carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sgil effeithiau cyffredin gyda'r ffurf anadlu yn cynnwys heintiau anadlol, cur pen, a llid y gwddf. Mae sgil effeithiau difrifol yn cynnwys risg uwch o haint, cataractau, Syndrom Cushing, ac adweithiau alergaidd difrifol. Gall defnydd hirdymor y ffurf bilsen achosi annigonolrwydd uwcharennol. Gall y pils hefyd achosi newidiadau tymer neu bersonoliaeth. Yn gyffredinol, ystyrir bod y ffurf anadlu yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd.
Rhoddwyd patent i beclometasone dipropionate ym 1962 gan ei ddefnyddio'n feddygol ers 1972. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ NICE Beclometasone dipropionate adalwyd 25 Ionawr 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |