Beddrodau Hafren-Cotswold
Mae beddrodau Hafren-Cotswold (neu Cotswold-Hafren) yn enw a roir i fath arbennig o siambr gladdu Neolithig, yn bennaf yn ne-ddwyrain Cymru a rhannau cyfagos o dde-orllewin Lloegr.
Math | siambr gladdu hir |
---|
Mae'r siamberi claddu o'r math hyn wedi eu gorchuddio gan domen petrual, fel rheol, yn wynebu fwy neu lai i gyfeiriad y dwyrain, gyda'r rhan ddwyreiniol ychydig yn lletach a'r pen yma yn troi i mewn i greu blaengwrt. Ceir tri math o'r beddrodau yma; un lle mae siambr sengl yn agor oddi ar y blaengwrt, er enghraifft Tinkinswood ym Mro Morgannwg ac un arall lle mae siamberi lluosog yn agor o'r blaengwrt, megis Parc le Breos Cwm yng Ngŵyr. Yn y trydydd math mae'r blaengwrt yn agoriad ffug, a'r gwir agoriad i'r siamber gladdu ar yr ochr, megis Gwernvale.
Ceir y beddrodau Hafren-Cotswold cyn belled i'r gorllewin â Gŵyr ac maent yn ymestyn i'r dwyrain i'r Cotswolds yn Lloegr. Ceir un neu ddwy yng Ngogledd Cymru, yn enwedig Capel Garmon.
Llyfryddiaeth
golygu- Steve Burrow Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000-3000 CC. (Llyfrau Amgueddfa Cymru, 2006)