Parc le Breos Cwm

Siambr gladdu Neolithig yng nghymuned Llanilltud Gŵyr ar Benrhyn Gŵyr yw Parc le Breos Cwm neu carn hir Parc Cwm, sydd ymhlith yr adeiladau hynaf i'w codi yng ngwledydd Prydain: 1,300 o flynyddoedd cyn Côr y Cewri. Saif yn Nghoed y Parc Cwm, tua 13 km i'r gorllewin o Abertawe.

Parc le Breos Cwm
Delwedd:Parc Cwm, Gwyr - elevated.JPG, Parc le Breos, Gwyr yr ogof cathole.JPG
Mathsiambr gladdu, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCyngor Dinas a Sir Abertawe Edit this on Wikidata
SirMelin y Parc Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5885°N 4.1127°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM122 Edit this on Wikidata

Mae'n feddrod o'r math Hafren-Cotswold, gyda charnedd hirswgar o gerrig yn cael ei hamgau gan wal gerrig. Ceir blaengwrt ar ffurf cloch, yn wynebu i'r de, yn arwain ar fynedfa gyda dau bâr o siamberi.

Siambr gladdu Parc le Breos Cwm

Ail-ddarganfuwyd y beddrod yn 1869, gan weithwyr yn cloddio cerrig ar gyfer gwaith ar y ffyrdd. Cloddiwyd yno y flwyddyn honno, a chafwyd hyd i esgyrn dynol, yn cynrychioli gweddillion dros 40 o bobl. Cloddiwyd yma eto yn 1937 dan arweiniad Glyn Daniel.

Cerfiad o garw Llychlyn yn Cathole Cave ger y gromlech yw'r darn hynaf o gelf graig ym Mhrydain, wedi ei greu o leiaf 14,000 o flynyddoedd yn ôl.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Gower cave reindeer carving is Britain's oldest rock art. BBC (29 Mehefin 2012). Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2012.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Steve Burrow Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000-3000 CC. (Llyfrau Amgueddfa Cymru, 2006)


  Beddrodau Hafren-Cotswold yng Nghymru  

Capel Garmon | Gwernvale | Parc le Breos Cwm | Tinkinswood