Tinkinswood
Siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig ym Mro Morgannwg yw Siambr Gladdu Tinkinswood, a adwaenir hefyd fel Castell Carreg, Llech-y-Filiast a Maes-y-Filiast. Saif ychydig i'r de o bentref Sain Nicolas, i gyfeiriad Llwyneliddon.
Math | cromlech, safle archaeolegol, beddrod siambr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bro Morgannwg |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.451316°N 3.307124°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM009 |
Mae'r siambr gladdu o'r math Hafren-Cotswold, sef carnedd gellog gyda charreg glo enfawr, yn pwyso tua 36 tunnell fetrig, efallai y fwyaf yn Ewrop. Fe'i hadeiladwyd tua 4000 CC. Cloddiwyd y safle yn 1914, a chafwyd gweddillion tua 40 neu fwy o bobl, o'r ddau ryw ac o bob oed, ynghyd â chrochenwaith. Codwyd colofn o frics i ddiogelu'r garreg glo yr un pryd. Mae'r safle yng ngofal Cadw.
Beddrodau Hafren-Cotswold yng Nghymru | ||
---|---|---|