Creadur mytholegol (Hebraeg בהמות, Bəhēmôth, Behemot, B'hemot, ffurf lluosog ar y gair בהמהbəhēmāh, "anifail", efallai ; Arabeg بهيموث Bahīmūth neu بهموت Bahamūt) y cyfeirir ato yn Llyfr Job, 40:15-24. Fel metaffor mae'n disgrifio unrhyw greadur neu beth anferth.

Behemoth
Enghraifft o'r canlynolcreadur chwedlonol, cymeriad Beiblaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Behemoth a Lefiathan yn ymladd â'i gilydd (llun gan William Blake)

Yn y traddodiad Iddewig, Behemoth yw'r pennaf o anifeiliaid y tir, yn anghenfil elfennol anorchfygol; yn yr un modd mai Lefiathan yn ben ar greaduriaid y môr a Ziz yn ben ar greaduriaid yr awyr.

Mae Behemoth yn chwarae rhan bwysig yn esgatoleg yr Iddewon. Bydd Behemoth a Lefiathan yn ymladd â'i gilydd ar ddiwedd y byd. Ar ôl lladd nifer o greaduriaid llai byddent yn lladd ei gilydd a bydd y dynion olaf i oroesi yn gwledda ar eu cig. Mae traddodiad haggaidd diweddarach yn ychwanegu bydd y Ziz yn cymryd rhan yn y frwydr olaf honno yn ogystal.

Mae sawl damcaniaeth ynglŷn â chynsail posibl i Fehemoth ym myd yr anifeiliaid. Mae'r fwyaf credadwy ohonynt yn awgrymu mai o adroddiadau teithwyr am y dyfrfarch (hippopotamus) neu'r eliffant y daeth y bwystfil dychmygol i fodolaeth.

Dolenni allanol golygu