William Blake
Bardd ac arlunydd o Sais oedd William Blake (28 Tachwedd 1757 – 12 Awst 1827). Mae llawer o'i gerddi a'i ddarluniau yn ymdrin â mytholeg dwys personol a ddyfeisiwyd ganddo fe'i hun; bu'r Beibl a llenyddiaeth John Milton hefyd yn ddylanwad mawr arno. Datblygodd ddull argraffu unigryw ar gyfer ei weithiau, "illuminated printing", a oedd yn cyfuno testun a lluniau ar yr un blât copr; roedd Blake yn lliwio pob tudalen â phaent dyfrlliw, gan wneud pob "argraffiad" yn unigryw. Melltithiodd athrawiaeth rhesymoliaethol a materiolaethol ei oes, sef Oes yr Oleuo, am fod hyn yn llesteirio'r dychymyg a chrefydd, ac yn hynny o beth roedd yn arloeswr o'r Oes Ramantaidd. Yr enwocaf ymhilth ei gerddi yw "The Tyger" (o Songs of Experience, 1794) a'r rhagymadrodd i Milton: A Poem (1804–10), a osodwyd i gerddoriaeth yn yr 20g i greu yr anthem Seisnig adnabyddus, "Jerusalem".
William Blake | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Tachwedd 1757 ![]() Llundain, Broadwick Street ![]() |
Bedyddiwyd | 11 Rhagfyr 1757 ![]() |
Bu farw | 12 Awst 1827 ![]() Llundain ![]() |
Man preswyl | Green Street, Broadwick Street, Broadwick Street, Poland Street, Hercules Buildings, Felpham, South Molton Street, Fountain Court, Battersea, Broadwick Street ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, casglwr, engrafwr, darlunydd, athronydd, lithograffydd, arlunydd graffig, argraffydd, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, ysgrifennwr, libretydd ![]() |
Adnabyddus am | The Marriage of Heaven and Hell, Jerusalem (Anthem William Blake), Vala, or The Four Zoas, Jerusalem The Emanation of the Giant Albion, Milton ![]() |
Arddull | peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, alegori ![]() |
Prif ddylanwad | Jakob Böhme, William Pars, James Barry, Giulio Romano ![]() |
Mudiad | Rhamantiaeth, fairy painting ![]() |
Tad | James Blake ![]() |
Mam | Catherine Hermitage ![]() |
Priod | Catherine Blake ![]() |
Llofnod |
BywydGolygu
Ganed ef yn Soho, Llundain. Cafodd weledigaethau crefyddol pan yn ifanc iawn; rhywbryd rhwng 8 a 10 oed fe welodd "a tree filled with angels". Yn 14 oed cafodd brentisiaeth â'r engrafwr James Basire ac am gyfnod byr bu'n astudio yn ysgol yr Academi Frenhinol. Fe'i ysbrydolwyd yn ei ddyddiau cynnar gan gerfluniau a phensaernïaeth Gothig Abaty Westminster, a gan argraffiadau anffasiynol o weithiau Michelangelo, Albrecht Dürer a Raffaello Sanzio. Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf o gerddi, Songs of Innocence, ym 1789. Yn hwyrach yn yr un flwyddyn, dechreuodd ei gerdd "proffwydol" cyntaf, The Book of Thel. Yn y cyfnod hyn roedd yn gymharol llwyddiannus o'i waith engrafu masnachol, a chafodd ei gomisynu i ddarparu'r darluniau ar gyfer llyfr Mary Wollstonecraft, Original Stories from Real Life (1791). Bu Wollstonecraft yn ddylanwad ar ei gerdd Visions of the Daughters of Albion (1793).
OrielGolygu
|
Dolenni allanolGolygu
- (Saesneg) Essick, Robert N. "Blake, William (1757–1827)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/2585.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)