Belenus

dwyfoldeb celtaidd
(Ailgyfeiriad o Belenos)

Roedd Belenus (hefyd Belinus, Belenos, Belinos, Belinu, Belanu, Bellinus, Belus neu Bel) yn dduw Celtaidd oedd yn cael ei addoli ar draws rhan helaeth o orllewin Ewrop, gydag allorau iddo yn llefydd mor bell oddi wrth ei gilydd ag Aquileia yn yr Eidal ac Inveresk yn yr Alban. Cysylltid ef â gwres a iachau, ac fe allai fod yr un duw â Belatu-Cadros. Ei wraig oedd Belisama. Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd yn cael ei uniaethu ag Apollo, er bod Apollo yn cael ei uniaethu â duwiau Celtaidd eraill hefyd.

Fe allai'r cymeriad Beli Mawr mewn mytholeg Gymreig fod yn cyfateb iddo, ac mae'r enw yn elfen mewn enwau megis Cunobelinus ("Cynfelyn"). Gall fod yr ŵyl Geltaidd a elwid yn Beltaine yn Iwerddon hefyd yn cynnwys yr elfen hon. Mae'n debyg bod y brenin Belinus yng ngwaith Sieffre o Fynwy hefyd yn dod o enw'r duw hwn.