Duw Groegaidd a Rhufeinig oedd Apollo neu Apolon[1] (Groeg Ἀπόλλων, Lladin Apollo). Ym mytholeg Roeg roedd yn dduw goleuni a'r gwanwyn, proffwydoliaeth a'r celfyddydau, yn enwedig barddoniaeth a cherddoriaeth. Roedd Oracl Apollo yn Delphi yn cael ei ystyried yn oracl pwysicaf yr hen fyd. Roedd yn un o ddeuddeg duw pwysicaf y pantheon Groegaidd.

Apollo
Delwedd:Apollo of the Belvedere.jpg, Roman Statue of Apollo.jpg, Artus Quellinus, Apollo en Python- Apollon et Python, KBS-FRB.jpg
Enghraifft o'r canlynolduw Groeg, duwdod heulol, Olympian god Edit this on Wikidata
Rhan oDeuddeg Olympiad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Apollon gyda Cithara (Fresco, heddiw yn y Palatin Antiquarium yn Rhufain, ca. 50)
Apollo gyda bwa a saeth; cerflun yn Amgueddfa'r Ashmolean, Rhydychen
Mae'r erthygl hon yn trafod y duw Groegaidd Apollo. Am raglen ofod Americanaidd o'r un enw, gweler Rhaglen Apollo.

Roedd yn fab i Zeus a Leto, ac yn efaill i'r dduwies Artemis. Dywedir iddo gael ei eni ar ynys Delos. Mae tarddiad yr enw'n ansicr. Mae'r ffurf Dorig Απέλλων yn hŷn ac yn tarddu o ffurf cynharach eto, sef: Απέλjων. Yn sicr, gellir gweld cyswllt rhwng yr enw â'r mis Dorig Απέλλαιος a gyda'r hen ŵyl Apellai (neu απελλαι).[2]

Yn ôl gwahanol ffynonellau, cariadon Apollo a'i blant gyda hwy oedd:

Ffynonellau Clasurol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, Apollo1
  2. Van torn et al (Editors), Dictionary of Deities and Demons in the Bible, 1996, BRILL, pp. 73 - 76: google books preview