Ben Davies (rygbi)

chwaraewr rygbi'r undeb

Roedd Benjamin "Ben" Davies (5 Mehefin 1873 - 23 Mehefin 1930) [1] yn hanerwr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd rygbi'r undeb i Lanelli ac a gafodd ei gapio ddwywaith i Gymru. Bu Davies yn gapten ar Lanelli ar gyfer tymor 1894-95 ac roedd yn ysgrifennydd y clwb rhwng 1898 a 1899. Yn ddiweddarach daeth yn hyfforddwr Coleg Llanymddyfri a hefyd ysgrifennodd erthyglau chwaraeon ar gyfer y Daily Mail.[2]

Ben Davies
Enw llawn Benjamin Davies
Dyddiad geni (1873-06-05)5 Mehefin 1873
Man geni Llanelli
Dyddiad marw 23 Mehefin 1930(1930-06-23) (57 oed)
Lle marw Llanelli
Gwaith tafarnwr
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Maswr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
Seaside Stars
Llanelli
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1895–1896  Cymru 2 (0)
Gyrfa fel hyfforddwr
Blynydd. Clybiau / timau
Coleg Llanymddyfri
Gyrfa rygbi'r undeb

Gyrfa rygbi golygu

Chwaraeodd Davies rygbi clwb i dîm, Llanelli, ac wrth gynrychioli'r 'Scarlets' y cafodd ei ddewis gyntaf i chwarae i Gymru. Roedd Cymru wedi defnyddio partneriaeth haneri Casnewydd Percy Phillips a Fred Parfitt, ond ar ôl ymddeoliad Phillips, dechreuodd y detholwyr arbrofi gyda phartneriaethau newydd. Yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Pedair Gwlad 1895 yn erbyn Lloegr cyflwynwyd dau gap newydd i'r haneri, Davies a Selwyn Biggs o Gaerdydd. Er gwaethaf presenoldeb cefnwyr profiadol a thalentog, gan gynnwys Billy Bancroft, Tom Pearson a’r capten Arthur Gould, gadawodd y chwarae blaen gwan Gymru’r cefnwyr wedi eu llyffetheirio, a chollodd y tîm 6-14.[3] Yng ngêm nesaf y Bencampwriaeth gwelwyd y detholwyr yn cadw Biggs, ond disodlwyd Davies gan ddychweliad Fred Parfitt.

Er gwaethaf chwarae dim rhan bellach yn nhwrnamaint 1895, cafodd Davies gap rhyngwladol arall y flwyddyn nesaf, eto yng ngêm agoriadol y twrnamaint yn erbyn Lloegr. Y tro hwn partner Davies fel hannerwr oedd ei gyd aelod o dîm Llanelli, David Morgan. Roedd dewiswyr Cymru yn aml yn ffafrio paru haneri o'r un tîm clwb, i roi lefel o barhad i'r chwarae cefn. Cafodd Morgan ei gapio gyntaf yng ngêm olaf twrnamaint 1895, buddugoliaeth gartref dros Iwerddon. Cadwyd Morgan, tra gollyngwyd ei bartner Ralph Sweet-Escott i roi cyfle arall i Davies. Wedi chwarae i ffwrdd ar Rectory Field yn Blackheath, cafodd Cymru crasfa, gan golli 25-0. Ni ddewiswyd Morgan na Davies ar gyfer Cymru byth eto.

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae golygu

Cymru [4]

Llyfryddiaeth golygu

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrecsam: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ben Davies player profile scrum.com
  2. Jenkins (1991), tud 36.
  3. Griffiths (1987), 4:7.
  4. Smith (1980), tud 464.