Billy Bancroft

chwaraewr rygbi a chriced

Roedd William James Bancroft (2 Mawrth 1871 - 3 Mawrth 1959) yn gefnwr rhyngwladol o Cymreig, a chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe, a fu hefyd yn gricedwr sirol dros Forgannwg, ef oedd y chwaraewr proffesiynol cyntaf Morgannwg ym 1895.[3]

Billy Bancroft
Bancroft yng nghrys rygbi Cymru
Enw llawn William James Bancroft
Dyddiad geni (1871-03-02)2 Mawrth 1871
Man geni Abertawe
Dyddiad marw 3 Mawrth 1959(1959-03-03) (88 oed)
Lle marw Abertawe
Taldra 5'5½" [1]
Pwysau 11 st
Perthnasau nodedig Jack Bancroft (brawd)
Gwaith crydd[2]
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle #15 Cefnwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1889–1903 Clwb Rygbi Abertawe
CR Sir Forgannwg
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1890–1901 Cymru 33 (56)

Roedd Bancroft yn cael ei ystyried yn un o wir sêr cyntaf rygbi Cymru ac roedd yn chwarae rygbi gyda hunanhyder eithafol.[4] Roedd ganddo gyflymder mawr ac roedd yn giciwr rhagorol o'r bêl,[5] er bod rhai beirniaid yn teimlo bod ei chwarae amddiffynnol yn wan. Chwaraeodd ei frawd Jack rygbi i Gymru hefyd.

Cefndir

golygu

Ganwyd Bancroft yn nhafarn y Carmarthen Arms, Waterloo Street, Abertawe, yr hynaf o un ar ddeg o blant William Bancroft, crydd a gweithiwr criced proffesiynol, ac Emma (née Jones) ei wraig Yn ddwy flwydd oed aeth William iau i fyw gyda'i dad-cu ym mwthyn y tirmon yng nghornel de-orllewin cae pêl-droed a chriced St Helen yn Abertawe Cafodd ei addysgu yn ysgol elfennol St Helen, Abertawe.[6] O ran ei waith beunyddiol roedd Billy yn grydd, fel ei dad.

Gyrfa rygbi clwb

golygu

Gwnaeth Bancroft ei ymddangosiad cyntaf i dîm rygbi Abertawe ar 5 Hydref 1889. Byddai'n chwarae i Abertawe trwy ei yrfa gyfan ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r cefnwyr gorau a fu'n chwarae i'r clwb. Ef oedd prif sgoriwr pwyntiau Abertawe mewn deuddeg o'i bedair blynedd ar ddeg gyda'r tîm.[7]

Gyrfa rygbi rhyngwladol

golygu

Derbyniodd Bancroft ei gap gyntaf ar 1 Chwefror 1890 yn erbyn yr Alban gan ddisodli Tommy England a anafwyd. Byddai Bancroft yn chwarae 33 gwaith yn olynol dros ei wlad, record wnaeth parhau hyd i Ken Jones wneud hynny ym 1954. Er mai dim ond dwy allan o'i naw gêm gyntaf dros Gymru bu Bancroft yn eu hennill, roedd yn rhan o dîm Cymru a enillodd eu Coron Driphlyg gyntaf ym 1893. Yng ngêm gyntaf y tymor hwnnw fe wnaeth Cymru wynebu Lloegr ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Heb fawr o amser ar ôl i chwarae a Chymru’n colli 9-11, dyfarnwyd cic gosb iddynt ger y llinell ystlys, 30 llath o linell gôl Lloegr. Galwodd capten Cymru, Arthur Gould Bancroft drosodd a dweud wrtho am gicio (o'r ddaear) am gôl. Mynnodd Bancroft adlamu am y gôl, ond gwaharddodd Gould hynny. Dechreuodd y ddau ddadlau o flaen y dorf gartref, nes i Gould daflu'r bêl i'r llawr a cherdded i ffwrdd mewn rhwystredigaeth. Llwyddodd Bancroft i gicio’r gôl adlam a fyddai’n ennill yr ornest i Gymru.[8] Cafodd y gôl gosb hon, er iddi gael ei gollwng gan Bancroft, ei dyfarnu fel un deg, gan ei wneud y gôl gosb rygbi gyntaf erioed .

Ym 1899 mewn gêm yn erbyn Iwerddon ar Barc y Stradau, methodd Bancroft â chwblhau gêm ryngwladol am yr unig dro yn ei yrfa. Oherwydd bod dim rhwystrau o amgylch y cae roedd y dorf wedi'i leinio o amgylch yr ystlys. Gorfodwyd y dyfarnwr i ohirio’r ornest am hanner awr tra bod yr heddlu a swyddogion yn ceisio gorfodi’r dorf yn ôl. Yn ystod yr ail hanner ceisiodd Bancroft un arall o'i rediadau dwys enwog i geisio blino'r gwrthwynebwyr ond cafodd ei ddal gan, y brodyr Mick a Jack Ryan o dîm yr Iwerddon,[9] a aeth i'r afael â Bancroft a'i ddympio dros y llinell ystlys i mewn i'r dorf. Glaniodd Bancroft yn lletchwith a thorri sawl asen, gan ei orfodi i ymddeol o'r gêm.[10]

Ar ôl achos dysteb Gould, cafodd Bancroft y gapteniaeth ym 1898, ac arweiniodd Gymru i'w hail Goron Driphlyg ym 1900.

Gemau rhyngwladol

golygu

Cymru [11]

Gyrfa criced

golygu

Chwaraeodd Bancroft griced am y tro gyntaf i Forgannwg yn 18 oed mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Swydd Warwick ar Barc yr Arfau Caerdydd ym 1889. Yn fuan iawn daeth yn chwaraewr rheolaidd a phan benderfynodd Morgannwg benodi eu cricedwr proffesiynol cyntaf, tua chanol y 1890au, fe wnaethant ddewis Bancroft. Yn chwaraewr gwych yn gyffredinol ar lefel sirol, roedd Bancroft nid yn unig yn fatiwr a bowliwr, ond weithiau byddai'n sefyll i mewn fel ceidwad y wiced. Cynrychiolodd Morgannwg yn erbyn De Affrica ar eu taith o amgylch Prydain Fawr ym1894. Daeth ei record batio i Forgannwg i ben gyda chyfanswm o 8,250 o rediadau gyda'i sgôr gorau o 207 wedi ei gyrraedd yn erbyn Berkshire ym 1903.[27]

Parhaodd cysylltiad Bancroft â Morgannwg ar ôl ei ymddeoliad fel chwaraewr, a hyfforddodd lawer o bobl ifanc a ddaeth trwy'r clwb, gan gynnwys cricedwr prawf y dyfodol, Gilbert Parkhouse.[27]

Ym 1892 priododd Bancroft â Harriet Florence Turnerbu iddynt bedair merch a thri mab.

Marwolaeth

golygu

Bu farw Bancroft yn nhŷ ei fab hynaf, Reginald yn Langland, Abertawe, yn 88 mlwydd oed a chladdwyd ef yn Ystum Llwynarth dridiau yn ddiweddarach.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "THE WELSH PLAYERS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-03-05. Cyrchwyd 2020-10-12.
  2. Smith (1980), tud. 83.
  3. "BANCROFT, WILLIAM JOHN (1871-1959), chwaraewr rygbi a chriced. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-12.
  4. Thomas (1979), p. 15.
  5. Smith (1980), p. 82.
  6. "Bancroft, William James (1871–1959), rugby player and cricketer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/51101. Cyrchwyd 2020-10-12.
  7. "HISTORICAL SKETCHES OF WELSH CLUBS - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1892-09-26. Cyrchwyd 2020-10-12.
  8. "THE SCOTCH v WALES MATCH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1893-01-13. Cyrchwyd 2020-10-12.
  9. Smith (1980), p. 115.
  10. Griffiths, John; Rugby's Strangest Matches, Robson Books (1988), pp. 37-39 ISBN 1-86105-354-1
  11. Smith (1980), p. 463.
  12. "SATURDAY'S MATCHES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1890-02-17. Cyrchwyd 2020-10-12.
  13. "TODAY'S FOOTBALL - South Wales Echo". Jones & Son. 1891-01-03. Cyrchwyd 2020-10-12.
  14. "SATURDAY'S FOOTBALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1890-03-03. Cyrchwyd 2020-10-12.
  15. "FOOTBALL - The Western Mail". Abel Nadin. 1891-03-09. Cyrchwyd 2020-10-12.
  16. "The Match - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-03-05. Cyrchwyd 2020-10-12.
  17. "FOOTBALL - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1890-02-08. Cyrchwyd 2020-10-12.
  18. "SATURDAY'S FOOTBALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-02-09. Cyrchwyd 2020-10-12.
  19. "THE INTERNATIONAL MATCH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-02-08. Cyrchwyd 2020-10-12.
  20. "WALES v SCOTLAND - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1893-02-06. Cyrchwyd 2020-10-12.
  21. "WALES AND SCOTLAND MEET AT NEWPORT - The Western Mail". Abel Nadin. 1894-02-05. Cyrchwyd 2020-10-12.
  22. "FOOTBALL AND GENERAL ATHLETIC NOTES - The Cambrian". T. Jenkins. 1895-02-01. Cyrchwyd 2020-10-12.
  23. "WALES v SCOTLAND - South Wales Echo". Jones & Son. 1896-01-27. Cyrchwyd 2020-10-12.
  24. "WALES V SCOTLAND - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1899-03-04. Cyrchwyd 2020-10-12.
  25. "THE INTERNATIONAL RUGBY CHAMPIONSHIP - Haverfordwest and Milford Haven Telegraph and General Weekly Reporter for the Counties of Pembroke Cardigan Carmarthen Glamorgan and the Rest of South Wales". John Rees Davies. 1900-01-31. Cyrchwyd 2020-10-12.
  26. "Scotland v Wales - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-02-11. Cyrchwyd 2020-10-12.
  27. 27.0 27.1 Hignall, Andrew (30 Rhagfyr 2007). "Billy Bancroft - a short profile". cricketarchive.co.uk.