Clwb Rygbi Llanelli

tîm rygbi'r undeb yng Nghymru

Mae Clwb Rygbi Llanelli yn dîm Rygbi'r Undeb Cymreig a sefydlwyd yn 1872. Maent yn chwarae mewn coch a gwyn, a'u maes yw Parc y Scarlets, Llanelli. Cân Llanelli yw "Sosban Fach", cân sydd wedi dod yn gyfystyr a'r clwb bellach.

Clwb Rygbi Llanelli
Mathtîm rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1872 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrifadran Cymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.686944°N 4.175278°W Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

 
Llanelli yn chwarae yn erbyn y Springboks, Parc y Strade, 26 Hydref 1951

Mae Llanelli bron bob amser wedi bod yn un o dimau clwb cryfaf Cymru. Eu hoes aur, mae'n debyg, oedd yn nechrau'r 1970au pan oedd Carwyn James yn hyfforddwr arnynt. Yn y cyfnod yma enillasant Gwpan Cymru bedair gwaith yn olynol rhwng 1973 a 1976, yn ogystal â churo tîm y Crysau Duon mewn gêm enwog yn 1972. Cafodd Llanelli fuddugoliaeth dros Awstralia yn 1967 a chawsant gêm gyfartal gyda hwy yn 1975.

Diweddar golygu

Chwaraeodd y clwb ym Mhrifadran Cymru yn 2012/13. Maent yn bwydo i mewn i dîm Scarlets Llanelli sy'n chwarae yn y Gynghrair Geltaidd.

Cyn-chwaraewyr enwog golygu

Cyfeiriadau golygu

  • Gareth Hughes (1983). One hundred years of Scarlet. Clwb Rygbi Llanelli. ISBN 0-95-091590-4

Dolenni allanol golygu