Ben Woodburn
Pêl-droediwr Cymreig yw Benjamin "Ben" Woodburn' (ganwyd 15 Hydref 1999) sy'n chwarae i Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr ac i dîm cenedlaethol Cymru ac yn aelod o dîm ieuenctid Cymru ers oedd yn 13 oed.
Woodburn yn chwarae i Lerpwl (dan 23 oed) yn 2016 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Benjamin Woodburn | ||
Dyddiad geni | 15 Hydref 1999 | ||
Man geni | Nottingham, Lloegr[1] | ||
Safle | Blaenwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Lerpwl | ||
Rhif | 58 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2007–2016 | Lerpwl | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2016– | Lerpwl | 5 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2014 | Cymru o dan 15 | 2 | (0) |
2015 | Cymru o dan 16 | 1 | (3) |
2014–2016 | Cymru o dan 17 | 8 | (1) |
2016– | Cymru o dan 19 | 4 | (2) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 16 Mawrth 2017. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Ym mis Tachwedd 2016, daeth Woodburn yn sgoriwr gôl ieuengaf clwb Lerpwl erioed, a hynny yn ystod ei ail gêm erioed i'w glwb.[2] Enwyd Woodburn yn aelod o garfan Cymru am y tro cyntaf ar 16 Mawrth 2017[3]
Sgoriodd gôl gyda'i gyffyrddiad cyntaf ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ar 2 Medi 2017.[4]
Magwraeth
golyguFe'i ganed yn Nottingham ond symudodd y teulu i Tattenhall, ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mynychodd ysgol Bishop Heber yng Nghaer ac yna Rainhill High School, sef ysgol bêl-droed y Liverpool FC Academy Education Centre.[5] Mae ganddo'r hawl i chwarae i Gymru gan mai Cymraes oedd ei Nain, ar ochr ei fam.[6] Cynigiwyd lle iddo yn nhîm dan-16 Lloegr yn Awst 2014 ond gwrthododd hynny.[6]
Gweler hefyd
golygu- Harry Wilson, hefyd yn nhimoedd Lerpwl a Chymru
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.bbc.co.uk/sport/football/38154933
- ↑ "Cymro yw'r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio i Lerpwl". www.bbc.co.uk/cymrufyw/. Cyrchwyd 16 Mawrth 2017.
- ↑ "Ben Woodburn, 17, yng ngharfan Cymru i herio Iwerddon". www.bbc.co.uk/cymrufyw/. Cyrchwyd 16 Mawrth 2017.
- ↑ MacInnes, Paul (02 Medi 2017). "Ben Woodburn's debut scorcher gives Wales vital victory against Austria". The Guardian. Cyrchwyd 2 Medi 2017. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ walesonline.co.uk; adalwyd 17 Mawrth 2017.
- ↑ 6.0 6.1 Wathan, Chris (30 Tachwedd 2016). "What makes English-born Ben Woodburn Welsh? The Liverpool FC star's complicated situation fully explained". Wales Online. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2016.