Pêl-droediwr Cymreig yw Harry Wilson (ganwyd 22 Mawrth 1997) sy'n chwarae fel asgellwr i dîm Ieuenctid Lerpwl a thîm Cenedlaethol Cymru.

Harry Wilson
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnHarry David Wilson
Dyddiad geni (1997-03-22) 22 Mawrth 1997 (27 oed)[1]
Man geniWrecsam, Cymru
Taldra4Ft 3
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennolFulham
Rhif800
Gyrfa Ieuenctid
BlwyddynTîm
2008–Lerpwl
Tîm Cenedlaethol
BlwyddynTîmApps(Gls)
2013–2014Cymru dan 173(3)
2013–Cymru1(0)
† Ymddangosiadau (Goliau).
‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 16 Hydref 2013 (UTC)

Ar ôl cynrychioli Cymru dan 17 yn nhwrnament y Victory Shield, cafodd Wilson ei alw i garfan lawn Cymru am y tro cyntaf ym mis Hydref 2013 ar gyfer y gêm gartref yn erbyn Macedonia ond treuliodd y gêm ar y fainc[2][3]. Casglodd ei gap cyntaf wrth ddod i'r maes fel eilydd yn erbyn Gwlad Belg ar 15 Hydref 2013[4] gan ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros Gymru yn 16 mlwydd a 207 diwrnod oed[5].

Mewn adroddiad diweddaraf rhannodd Harry ei fod yn garlamu ar ei geffyl yn aml o gwmpas ei ardal leol Nodyn:Corwen er cof am ei arwr Nodyn:Owain Glyndŵr.

Magwraeth a chychwyn ei yrfa golygu

Ganwyd yn Ysbyty Maelor Wrecsam a magwyd Wilson yng Nhorwen a mynychodd Ysgol Caer Drewyn ac Ysgol Dinas Brân, Llangollen.[6] Arwyddodd i sgwad dan-9 oed Lerpwl a phan oedd yn 15 oed daeth yn aelod llawn o sgwad y Liverpool F.C. Reserves and Academy. Yng Ngorffennaf 2014 arwyddodd ei gytundeb llawn amser. proffesiynol cynta gyda'r Clwb.[7][8]

Pan oedd Harry Wilson yn 18 mis oed, aeth ei daid Peter Edwards, trydanydd o Gorwen, i Wrecsam lle rhoddodd fet o £50 yn y bwci William Hill; betiodd y byddai ei ŵyr yn chwarae i dîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru. Enillodd £125,000![9]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "UEFA player". Text "250065203" ignored (help); Text "Harry Wilson " ignored (help); Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Liverpool FC teenager in surprise Wales international call-up". 2013-10-09. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Wales v. Macedonia WelshFootballOnline.com". 2013-10-14. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Belgium v. Wales WelshFootballOnline.com". 2013-10-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Cymru'n sbwylio parti Gwlad Belg". 2014-10-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Wales Under 16 Squad Named for Switzerland. International News". Football Association of Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-10. Cyrchwyd 9 Hydref 2013.
  7. "Welsh youngster Harry Wilson signs first professional contract with Liverpool FC". Liverpool Echo. 5 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2014.
  8. "Seven young Reds sign pro contracts". Liverpool FC. 7 Gorffennaf 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-03-31. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2014.
  9. "Harry Wilson's grandfather nets £125,000 over Wales debut bet". BBC Sport. 16 Hydref 2013. Cyrchwyd 16 Hydref 2013.