Benelux

(Ailgyfeiriad o Benelwcs)

Grŵp o dair wlad yng ngorllewin Ewrop sy'n cynnwys Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg yw'r Benelux. Mae'r enw yn gyfuniad dechrau enw pob gwlad (Belge - Nederlands - Luxembourg). Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol er mwyn sefydlu "Undeb Economaidd Benelux".

Benelux
Enghraifft o'r canlynolpolitical economic union, sefydliad rhanbarthol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Medi 1944 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysYr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg Edit this on Wikidata
SylfaenyddYr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Brwsel Edit this on Wikidata
Enw brodorolBenelux Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://benelux.int Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Benelux

Sefydlwyd yr Undeb Economaidd Benelux (Iseldireg Benelux Economische Unie, Ffrangeg Union Économique Benelux) ym 1944 er mwyn lleihau rhwystrau yn cyfyngu symudiad rhydd gweithwyr, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau rhwng y tair gwlad. Cryfhawyd y cysylltiadau ar 3 Chwefror 1958, pryd llofnodwyd cytundeb yn Den Haag yn sefydlu undeb economaidd. Roedd sefydlu'r undeb yn gyfraniad pwysig tuag at greu y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (wedyn yr Undeb Ewropeaidd), er i'r UE ddatblygu o'r Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (ECSC).

Yn ogystal â Gorllewin yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal roedd chwaraeodd y tair gwlad rôl bwysig wrth sefydlu'r ECSC, yr EEC a'r UE.

Cysylltiadau allanol

golygu