Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn)
gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, darlithydd, ac awdur
Bardd, darlithydd, ac awdur oedd Benjamin Thomas (neu Myfyr Emlyn) (Hydref 1836 – 20 Tachwedd 1893).
Benjamin Thomas | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Myfyr Emlyn ![]() |
Ganwyd | Hydref 1836 ![]() |
Bu farw | 20 Tachwedd 1893 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, bardd, darlithydd, ysgrifennwr ![]() |
Fe'i ganed yn Nhŷ-rhos, Eglwys Wen, Sir Benfro, yn Hydref 1836, yn fab i David ac Elizabeth Thomas. Aeth i Dredegar i chwilio am waith yn 15 oed. Dychwelodd adref a dechrau pregethu, ac fe'i derbyniwyd i athrofa Hwlffordd yn 1855. Ordeiniwyd ef yn y Drefach a'r Graig, Castellnewydd Emlyn ym 1860, symudodd i Benarth ym 1873 ac i Arberth ym 1875, lle'r arhosodd hyd ei farw, 20 Tachwedd 1893. Claddwyd ef yn Arberth.
Roedd yn un o bregethwyr amlycaf ei gyfnod, yn arweinydd eisteddfodol poblogaidd, yn brydydd, ac yn gofiannydd. Bu'n olygydd Seren Cymru o 1887 hyd ei farw.
LlyfryddiaethGolygu
- Benjamin Thomas yn Y Bywgraffiadur Cymreig