Owen John Thomas

Gwleidydd o Gymro

Cyn-wleidydd o Gymro ac aelod o Blaid Cymru oedd Owen John Thomas (3 Hydref 193914 Mai 2024)[1].

Owen John Thomas
Owen John Thomas


Cyfnod yn y swydd
6 Mai 1999 – 3 Mai 2007
Rhagflaenydd swydd newydd
Olynydd Chris Franks

Geni 3 Hydref 1939
Caerdydd
Marw 14 Mai 2024
Caerdydd
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Priod Siân Wyn Evans (p. 1985)
Plant 6
Alma mater Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Caerdydd

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd Owen John yn Heol Albany, Caerdydd, lle roedd ei dad, John Owen Thomas yn rhedeg fferyllfa. Roedd ei dad yn wreiddiol o Dreorci ac yn frawd i'r Henadur Parchedig Degwel Thomas, Cadeirydd Cyngor Morgannwg am 19 mlynedd. Ar ochr ei dad roedd ei famgu a dadcu yn siarad Cymraeg ac yn dod o deulu amlwg gyda'r Bedwyddwr Cymreig yn ngogledd Sir Benfro, yn cynnwys y bardd-bregethwr Myfyr Emlyn.

Roedd ei fam, Evelyn Jane Thomas yn dod o Marros, Sir Gaerfyrddin a'i thad hithau yn siarad Cymraeg. Er fod ei deulu yn siaradwyr Cymraeg nid oedd ei rieni yn siarad Cymraeg fel oedolion felly magwyd ef a'i ddwy chwaer mewn cartref uniaith Saesneg.[2]

Roedd Owen John yn ddisgybl yn Ysgol Heol Marlborough ac yna Ysgol Ramadeg Howardian. Gadawodd ysgol yn 16 mlwydd oed i weithio yn y dociau a chafodd nifer o swyddi eraill yn cynnwys fel cemegydd dadansoddol. Yn ddiweddarach mynychodd Goleg Addysg Morgannwg. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, lle cwblhaodd MA yn hanes yr iaith Gymraeg.[3] Daeth rhan o'r testun hwn yn bennod yn y llyfr Iaith Carreg fy Aelwyd, a gyhoeddwyd yn 1998, a'r fersiwn Saesneg

Gweithiodd fel dirprwy brifathro Ysgol Gynradd Gladstone cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bu'n gadeirydd ardal Caerdydd UCAC am gyfnod. Roedd yn un o'r aelodau a sefydlodd Clwb Ifor Bach (Clwb Cymraeg Caerdydd) a bu'n lywydd y clwb o 1983-1989. Dysgodd y Gymraeg tra'r oedd yn ei 20au hwyr.

Gyrfa wleidyddol

golygu

Bu'n aelod gweithredol o Blaid Cymru ers ei arddegau, gan lenwi amryw o swyddi, o ysgrifennydd cangen i is-lywydd y blaid.

Yng nghynhadledd Plaid Cymru 1981, llwyddodd i osod sosialaeth yn un o brif amcanion y blaid ac yn gefnogol i'r ymgyrch ar gyfer diwygio y ddeddf eiddo prydles.

Bu'n aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cynrychioli ardal Canol De Cymru dros Blaid Cymru rhwng 1999 a 2007.

Yn y Cynulliad, bu'n cefnogi'r ymgais i adnabod Gŵyl Dewi Sant yn ŵyl banc swyddogol, yn cyfrannu tuag at greu Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, man cyfarfod ar gyfer y celfyddydau a agorodd yn 2004; ac ymgyrchu dros bensiynau Allied Steel and Wire a'i ymgyrch i gael bracitherapi, triniaeth yn erbyn cancr, i Gymru.

Datganodd hefyd y buasai'n gobeithio i'r Cynulliad ennill yr un pwerau â Senedd yr Alban erbyn 2011.

Yr iaith Gymraeg

golygu

Dysgodd Gymraeg tra'r oedd yn ei ugeiniau hwyr, a bu'n dadlau dros hyrwyddo'r iaith yn fwy, gan ysgrifennu yn y Western Mail fod yr iaith yn ased cenedlaethol ac y gallai ei atgyfodiad chwarae rhan canolig yn y broses o adeiladu cenedl ac adfywiad economaidd a chymdeithasol (Saesneg: "The language is a national asset and its revitalisation can play a central part in the larger process of nation building and economic and social regeneration.") Cwynodd yn ogystal fod plant Cymru yn dysgu am hanes Lloegr ac nid hanes Prydain (Saesneg: "the history of England, not the history of Britain").

Yn 2021 cyhoeddodd lyfr The Welsh Language in Cardiff: A history of survival gan Wasg y Lolfa. Ynddo mae'n olrhain hanes yr iaith yn y brifddinas gan ddefnyddio cofnodion llys (lle cofnodir athrodau yn y Gymraeg gwreiddiol), capeli ac archifau eraill. Roedd y llyfr yn seiliedig ar ei waith ymchwil M.A. ac fe'i orffennwyd a gan ei feibion Rhys a Rhodri, cyd-awduron y gyfrol.[4]

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod â Siân Wyn Evans, cyn brifathrawes Ysgol Glan Morfa, Splot, ers 1985. Ganwyd efeilliaid i'r cwpl, Rhys a Rhodri. Roedd ganddo dri mab ac un ferch o briodas flaenorol.[2] Etholwyd ei fab ieuangaf, Rhys ab Owen ar restr Canol De Cymru yn Etholiad Senedd Cymru, 2021, yr un sedd yr oedd Owen John wedi ei gynrychioli 14 mlynedd ynghynt. Mae mab arall, Rhodri ab Owen, yn rhedeg cwmni materion cyhoeddus Camlas.

Yn 2020 adroddwyd fod Owen John yn byw mewn cartref gofal ar gyfer pobl gyda gorddryswch (dementia), ers 18 mis.[5] Roedd wedi cael diagnosis o'r afiechyd yn 2013.[6]

Teyrngedau

golygu

Bu farw Owen John yn 84 mlwydd oed ar 14 Mai 2024 wedi cyfnod hir o salwch dementia. Mewn tro creulon achosodd yr afiechyd iddo anghofio sut oedd siarad Cymraeg yn 2013. Roedd yn gadael 6 o blant (John, Hywel, Eurwen, Iestyn, Rhodri a Rhys) ac 11 o wyrion. Nododd ei fab, yr Aelod Senedd Cymru, Rhys ab Owen, i'w dad drefnu canfasio ffôn a gysylltodd â 45,000 o bobl adeg Refferendwm datganoli i Gymru, 1997 a bu'n bwysig wrth ennill y bleidlais dynn dros greu Cynulliad i Gymru.[7][8] Dywedodd ei fab, Hywel, amdano; "ei fod yn caru Cymru, ei phobl, ei hiaith a'i diwylliant gydag angerdd. Cafodd ei ysgogi gan yr awydd i weld Cymru'n cael ei rhyddhau o gyfyngiadau San Steffan ac i bennu ei materion ei hun."[9]

Llyfryddiaeth

golygu
  • The Welsh Language in Cardiff: A History of Survival - Owen John Thomas, Gwasg y Lolfa, ISBN: 9781784618827, 2021

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Cofio Owen John Thomas a'i "frwdfrydedd heintus"". Golwg360. 2024-05-14. Cyrchwyd 2024-05-14.
  2. 2.0 2.1 "Thomas, Owen John, (born 3 Oct. 1939), Member (Plaid Cymru) Central South Wales, National Assembly for Wales, 1999–2007". WHO'S WHO & WHO WAS WHO (yn Saesneg). doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u37431. Cyrchwyd 2022-12-06.[dolen farw]
  3. "UK: Wales: AMs: Owen John Thomas". BBC News. Cyrchwyd 26 October 2016.
  4. "The Welsh Language in Cardiff A History of Survival". Gwasg y Lolfa. Cyrchwyd 14 Mai 2024.
  5. Gupwell, Katie-Ann (2020-08-06). "'Royal Family can visit my dad's care home, but I'm not allowed'". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-14.
  6. Hayward, Will (2024-05-14). "Politician and founder of Clwb Ifor Bach has died". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-14.
  7. "Teyrngedau i'r cyn-AC a chyd-sylfaenydd Clwb Ifor Bach, Owen John Thomas". Newyddion S4C. 14 Mai 2024.
  8. "Owen John Thomas., former Assembly Member and founder of Clwb Ifor Bach passed away peacefully this morning after a long illness". Twitter Will Hayward, @WillHayCardiff. 14 Mai 2024.
  9. "Cyn-AC Plaid Cymru, Owen John Thomas wedi marw". BBC Cymru Fyw. 14 Mai 2024.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru
19992007
Olynydd:
Chris Franks

Dolenni allanol

golygu