Athrofa'r Bedyddwyr, Hwlffordd

Coleg hyfforddi ymgeiswyr i weinidogaeth y Bedyddwyr

Roedd Athrofa Hwlffordd yn goleg a sefydlwyd gan y Bedyddwyr i baratoi myfyrwyr i ddod yn weinidogion i'r enwad.[1]

Athrofa'r Bedyddwyr, Hwlffordd
Mathcoleg diwinyddol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTŷ'r Coleg a rheilin Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Awst 1839 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHwlffordd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.798451°N 4.971867°W Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadEglwys y Bedyddwyr Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Ar 3 Tachwedd 1835 cynhaliwyd cyfarfod o'r Bedyddwyr yng Nghapel y Tabernacl, Heol y Prior, Caerfyrddin i drafod agor athrofa i'r Bedyddwyr yn Hwlffordd. Wedi cael trafodaeth ar bwysigrwydd "gwybodaeth a dysgeidiaeth mewn Gweinidogion Efengyl", a chanfod "yn eglur annerbynioldeb gweinidogaeth y diddysg a'r anwybodus yn yr oes hon" penderfynwyd yn unfrydol i godi arian at y gwaith o'i sefydlu.[2]

Agorwyd yr athrofa ar 1 Awst 1839, a phenodwyd Y Parch. David Davies, yn bennaeth ac athro Diwinyddol arni.[3] Roedd Davies wedi bod yn weinidog ar gapel y Bedyddwyr yn Evesham, Swydd Gaerwrangon, ac wedi dychwelyd i Hwlffordd, lle cafodd ei fagu i fod yn weinidog ym 1837. Er mwy'n sicrhau sefydlu llwyddiannus cytunodd Davies ddysgu am ddim hyd fod digon o fyfyrwyr i gyfiawnhau rhoddi cyflog iddo. Dau fyfyriwr oedd pan agorodd yr athrofa Thomas Richards o Felinganol, a fu farw cyn diwedd ei gyfnod hyfforddiant a David Evans o Gilfowyr, Maenordeifi  a aeth wedyn i fod yn weinidog yn Dudley, Swydd Caerwrangon. Y mis Hydref canlynol daeth tri arall i gynyddu'r rhif i bump.[4] Ym 1840 daeth y Parch. Thomas Gabriel Jones i'r athrofa fel athro'r clasuron. Roedd Jones wedi bod yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nowlais ond trodd at y Bedyddwyr ym 1829 ac aeth i gadw ysgolion yn Y Rhondda a Chwm Tawe.[5]. Ymadawodd Jones ym 1853, a daeth y Parch Thomas Burdett, M.A., yn ei le. Ymddeolodd Burdett ym 1865

Bu farw'r pennaeth David Davies ym 1856. Penodwyd y Parch Dr Thomas Davies o Ferthyr yn bennaeth newydd.[6] Ym 1864 roedd deg ar hugain o fyfyrwyr yn yr Athrofa a phenderfynwyd bod angen adeilad mwy ar eu cyfer. Prynwyd adeilad yn 1867 am £3000. Bu'r Parchn G. H. Rouse, James Sully, William Edwards (pennaeth Athrofa Pont-y-pŵl wedyn) [7] a Thomas Witton Davies [8] ar y staff. Ym 1894 ymddeolodd Thomas Davies a symudwyd yr Athrofa i Aberystwyth. Yr athrawon yn Aberystwyth oedd y Parchn. J. A. Morris, D.D., a Thomas Williams, B.A. Ym 1899 caeodd yr athrofa a rhannwyd y cronfeydd rhwng y ddwy athrofa yng Nghaerdydd a Bangor.

Gwaddol golygu

Mae rhywfaint o archifau'r coleg i'w cael yn y Llyfrgell Genedlaethol [9]

Mae adeilad y coleg gwreiddiol yn dal i sefyll ac yn cael ei ddefnyddio fel gwesty. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.[10]

Myfyrwyr golygu

Addysgwyd bron i bum cant o ddynion yn Hwlffordd, aeth y rhan fwyaf ohonynt ymlaen i fod yn weinidogion neu genhadon. Yn eu plith bu:

 
Mathetes, un o efrydwyr cynharaf yr athrofa

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Llenor Cyf. 15, Rh. 1-4, 1936 YR ACADEMIAU ANGHYDFFURFIOL YNG NGHYMRU adalwyd 23 Hydref 2020
  2. Seren Gomer Cyf. XVIII - Rhif. 243 - Rhagfyr 1835 ATHROFA HWLFFORDD adalwyd 23 Hydref 2020
  3. DAVIES, DAVID (1800? - 1856), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig adalwyd 23 Hydref 2020
  4. Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr yn Sir Fynwy ... Gan Rufus (D J Thomas & Cwmni 1863) tud 77 adalwyd 23 Hydref 2020
  5. Seren yr Ysgol Sul Cyf. 10 rhif. 110 - Chwefror 1904 Thomas Gabriel Jones adalwyd 23 Hydref 2020
  6. DAVIES, THOMAS (1812 - 1895), gweinidog Bedyddwyr a phrifathro coleg yr enwad yn Hwlffordd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  7. EDWARDS, WILLIAM (1848 - 1929), gweinidog a phrifathro gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig.[dolen marw] Adferwyd 23 Hyd 2020
  8. DAVIES, THOMAS WITTON (1851 - 1923), Hebreigydd ac ysgolhaig Semitaidd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  9. Baptist College, Haverfordwest (Wales) -- Records and correspondence
  10. College Guest House
  11. DAVIES, BENJAMIN (1826 - 1905), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, llenor, ac argraffydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  12. EDWARDS, EBENEZER (1824 - 1901), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn U.D.A. ac yng Nghymru;. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  13. EVANS, BENJAMIN (‘Telynfab’; 1844 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  14. GRIFFITH, OWEN (‘Giraldus’; 1832 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, golygydd ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  15. JAMES, JAMES (SPINTHER) (1837 - 1914), un o haneswyr enwad y Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  16. JONES, HUGH (1831 - 1883), gweinidog gyda'r Bedyddwyr a phrifathro coleg. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  17. JONES, JOHN (‘Mathetes’; 1821 - 1878), gweinidog Bedyddwyr a llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  18. JONES, WILLIAM (1834 - 1895), Abergwaun, gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  19. LEWIS, JOHN (GOMER) (1844 - 1914), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac areithydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  20. LEWIS, THOMAS (1859 - 1929), cenhadwr gyda'r Bedyddwyr yn y Cameroons a'r Congo;. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  21. MORRIS, DAVID WILLIAM (‘Marmora’; 1823 - 1914), gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  22. SAUNDERS, WILLIAM (1871 - 1950), gweinidog (B) ac addysgwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  23. PHILLIPS, DANIEL THOMAS (1842 - 1905), gweinidog y Bedyddwyr a chonsul dros U.D.A.. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  24. RICHARD, TIMOTHY (1845 - 1919), cenhadwr yn China. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020
  25. THOMAS, BENJAMIN (‘Myfyr Emlyn’; 1836 - 1893), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, darlithydd, ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 23 Hyd 2020