Strategydd milwrol Americanaidd oedd Bernard Brodie (20 Mai 191024 Tachwedd 1978) a ysgrifennodd sawl gwaith dylanwadol ar strategaeth arfau niwclear Unol Daleithiau America.[1]

Bernard Brodie
Ganwyd20 Mai 1910 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Bu farw24 Tachwedd 1978 Edit this on Wikidata
Califfornia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Jacob Viner Edit this on Wikidata
Galwedigaethacademydd, tactegydd milwrol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodFawn M. Brodie Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Genedalethol Gwyddoniaeth Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Chicago, Illinois. Enillodd ei ddoethuriaeth mewn cysylltiadau rhyngwladol o Brifysgol Chicago ym 1940. Gwasanaethodd yn swyddfa'r pennaeth dros ymgyrchoedd llyngesol yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1943–45). Wedi'r rhyfel, fe addysgodd gysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Yale. Ymunodd Brodie â'r RAND Corporation ym 1951 yn Santa Monica, Califfornia, ac yno fe weithiodd ar faterion amddiffyn a strategaeth niwclear hyd 1966. Addysgodd yn Adran Gwyddor Gwleidyddiaeth Prifysgol Califfornia, Los Angeles o 1963 i 1977. Bu farw yn Los Angeles ym 1978.

Ymhlith ei weithiau mae The Atomic Bomb and American Security (1945), The Absolute Weapon (1946), Strategy in the Missile Age (1959), Escalation and the Nuclear Option (1966), a From Crossbow to H-Bomb (gyda'i wraig Fawn M. Brodie; 1973).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Bernard Brodie. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2018.