Mae Bernhard Schlink (ganwyd 6 Gorffennaf 1944 yn Bielefeld, yr Almaen) yn gyfreithwr ac yn awdur Almaeneg. Daeth ei nofel Der Vorleser, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1995, yn werthwr-gorau rhyngwladol.

Bernhard Schlink
Ganwyd6 Gorffennaf 1944 Edit this on Wikidata
Bielefeld Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Cyfraith Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Ernst-Wolfgang Böckenförde Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithegwr, barnwr, nofelydd, sgriptiwr, academydd, bardd-gyfreithiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Reader, Flights of love, Q24007898, Q1213328, Q123856863 Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
TadEdmund Schlink Edit this on Wikidata
PerthnasauBasilea Schlink, Klaus Engelhardt Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Hans Fallada, Gwobr Friedrich Glauser, German Crime Fiction Award, Evangelischer Buchpreis, Pak Kyong-ni Prize, Honorary Award of the Heinrich Heine Society Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://schlink.rewi.hu-berlin.de Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd ei eni i dad Almaeneg (Edmund Schlink) a mam o'r Swistir, yr ieuengaf o bedwar o blant. Roedd ei fam, Irmgard, wedi bod yn fyfyrwraig ddiwinyddiaeth i'w dad, a phriodon nhw ym 1938. (Bu farw gwraig gyntaf Edmund Schlink ym 1936.) Bu tad Bernhard yn athro seminari ac yn weinidog ac yn aelod o'r "Bekennende Kirche" - eglwys Martin Niemöller. Yn 1935, cafodd ei ddiswyddo o'i swydd addysgu yn Giessen am ei feirniadaeth gyhoeddus o bolisïau'r Natsïaid. Ym 1946, daeth yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Heidelberg, lle byddai'n gweithio tan iddo ymddeol yn 1971. Cafodd Bernhard Schlink ei magu yn Heidelberg o ddwy oed ymlaen. Astudiodd gyfraith ym Mhrifysgol Rhydd Gorllewin Berlin, gan raddio ym 1968.

Daeth Schlink yn farnwr yn Llys Cyfansoddiadol talaith ffederal Gogledd Rhine-Westphalia ym 1988 ac ym 1992 yn athro cyfraith gyhoeddus ac athroniaeth y gyfraith ym Mhrifysgol Humboldt, Berlin. Ymddeolodd ym mis Ionawr 2006.

Astudiodd Schlink gyfraith ym Mhrifysgolion Heidelberg a Berlin. Bu wedyn yn athro y gyfraith ym Mhrifysgolion Bonn a Goethe, (Frankfurt) cyn dechrau ym 1992 ym Mhrifysgol Humboldt Berlin.

Dechreuodd ei yrfa fel awdur gyda nifer o nofelau ditectif gyda phrif gymeriad o'r enw Selb-yn chwarae ar y gair Almaeneg am "hunan" - y cyntaf, Selbs Justiz "Hunan Gosb", wedi'i gyd-ysgrifennu â Walter Popp. Enillodd un o'r rhain, Die gordische Schleife, Wobr Glauser yn 1989.

Ym 1995, cyhoeddodd Der Vorleser ("Y Darllenydd"), nofel am fachgen yn ei arddegau yn cael perthynas â menyw yn ei thridegau sy'n yn diflannu; ond y mae'n cyfarfod â hi eto fel myfyriwr cyfraith wrth ymweld â threial am droseddau rhyfel. Daeth y llyfr yn werthwr-gorau yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau a chyfieithwyd i 39 o ieithoedd. Hwn oedd y llyfr Almaeneg cyntaf i gyrraedd rhif un yn rhestr y New York Times. Yn 1997, enillodd Wobr Hans Fallada, gwobr lenyddol Almaeneg, a'r Prix Laure Bataillon ar gyfer gwaith a gyfieithwyd i Ffrangeg. Yn 1999 dyfarnwyd Welt-Literaturpreis y papur newydd Die Welt iddo.

Yn 2000, cyhoeddodd Schlink gasgliad o ffuglen fer o'r enw Liebesfluchten ("Ehediadau Cariad").

Yn 2008, cyfarwyddodd Stephen Daldry addasiad ffilm Saesneg o Der Vorleser fel The Reader. Yn 2010, cyhoeddwyd ei hanes gwleidyddol ffeithiol, Guilt About the Past, gan Beautiful Books Limited.

Ar hyn o bryd mae Schlink yn rhannu ei amser rhwng Efrog Newydd a Berlin. Mae'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen.

Gwobrau

golygu
  • 1989 Friedrich-Glauser-Preis am Die gordische Schleife
  • 1993 Deutscher Krimi Preis ar gyfer Selbs Betrug
  • 1995 Stern des Jahres (Seren y Flwyddyn) o bapur newydd Abendzeitung (Munich) ar gyfer Der Vorleser
  • 1997 Gwobr Grinzane Cavour (Eidaleg) ar gyfer Der Vorleser
  • 1997 Prix Laure Bataillon (Ffrangeg) ar gyfer Der Vorleser
  • 1998 Gwobr Hans Fallada ar gyfer Der Vorleser
  • 1999 Welt-Literaturpreis am waith oes
  • 2000 Gwobr Heinrich Heine o'r "Heinrich-Heine-Gesellschaft" yn Hamburg
  • 2000 Evangelischer Buchpreis ar gyfer Der Vorleser
  • 2000 Gwobr ddiwylliannol y papur newydd Mainichi Shimbun a ddyfarnwyd yn flynyddol i werthwr-gorau yn Japan, ar gyfer Der Vorleser
  • 2004 Dosbarth 1af Verdienstkreuz (Teilyngdod)
  • 2014 Gwobr Parc Kyong-ni (De Corea)

Gwaith llenyddol yn yr Almaeneg

golygu
  • 1962 Der Andere (Yr Arall)
  • 1987 Selbs Justiz (Cosb Selb; gyda Walter Popp)
  • 1988 Die gordische Schleife (Cwlwm Gordia), Zurich: Diogenes
  • 1992 Selbs Betrug, Zurich: Diogenes
  • 1995 Der Vorleser (Y Darllenydd), Zurich: Diogenes
  • 2000 Liebesfluchten (Ehediadau Cariad), Zurich: Diogenes
  • 2001 Selbs Mord (lofruddiaeth Selb), Zurich: Diogenes
  • 2006 Die Heimkehr (Dod Adref: Nofel), Zurich: Diogenes
  • 2008 Das Wochenende (Y Penwythnos: Nofel), Zurich: Diogenes
  • 2010 Sommerlügen - Geschichten (Celwyddau Haf - Straeon), Zurich: Diogenes
  • 2011 Gedanken über das Schreiben. Heidelberger Poetikvorlesungen. Zurich: Diogenes
  • 2014 Die Frau auf der Treppe. (Nofel) Zurich: Diogenes

Gweithiau eraill yn yr Almaeneg

golygu
  • 1976 Abwägung im Verfassungsrecht, Berlin: Duncker und Humblot
  • 1980 Rechtlicher Wandel durch richterliche Entscheidung: Beitraege zu einer Entscheidungstheorie der richterlichen Innovation, Cyd-olygu efo Jan Harenburg and Adalbert Podlech, Darmstadt: Toeche-Mittler
  • 1982 Die Amtshilfe: ein Beitrag zu einer Lehre von der Gewaltenteilung in der Verwaltung, Berlin : Duncker & Humblot
  • 1985 Grundrechte, Staatsrecht II, Cyd-awdur efo Bodo Pieroth, Heidelberg: C.F. Müller
  • 2002 Polizei- und Ordnungsrecht, Cyd-awdur efo Bodo Pieroth and Michael Kniesel, Munich: Beck
  • 2005 Vergewisserungen: über Politik, Recht, Schreiben und Glauben, Zurich: Diogenes
  • 2015 Erkundungen zu Geschichte, Moral Recht und Glauben, Zurich: Diogenes