Beryl Burton
Seiclwraig Seisnig oedd Beryl Burton MBE OBE (12 Mai 1937 – 8 Mai 1996), ac un o athletwyr gorau Prydain erioed.
Beryl Burton | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mai 1937 Leeds |
Bu farw | 5 Mai 1996 o ataliad y galon Morley |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Plant | Denise Burton |
Gwobr/au | OBE |
Chwaraeon |
Domineiddiodd rasio beiciau merched yn y Deyrnas Unedig, gan ennill dros 90 o bencampwriaethau cenedlaethol a saith pencampwriaeth y byd. Gosododd sawl record cenedlaethol, gan gynnwys y record ar gyfer y treial amser 12 awr, a ragorodd ar record y dynion am ddwy flynedd.
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar
golyguGaned Beryl Charnock yn ardal Halton, Leeds, Gorllewin Swydd Efrog a bu'n byw yn ardal Morley drwy gydol ei bywyd,[1] gan rasio'n bennaf dros y Morley Cycling Club a Knaresborough CC yn ddiweddarach. Roedd yn blentyn gwelw, a dioddefodd nifer o afiechydon, gan gynnwys treulio 15 mis yn yr ysbyty o ganlyniad twymyn gwynegon.[2]
Cyfarfu â'i gŵr, Charlie, yn y gwaith. Cychwynnodd Beryl seiclo gydag ef, a phriodasant ym 1955. Buan y dechreuodd ei adael ar ôl ar y ffordd, a'i syniad oedd cymryd rhan mewn treialon amser, a chytunodd ei gŵr i'w chefnogi. Dyflwydd yn ddiweddarach, cipiodd ei medal cenedlaethol cyntaf yn y treial amser 100 milltir, a chyn diwedd y ddegawd roedd yn cystadlu'n rhyngwladol.
Anrhydeddau rhyngwladol
golyguEnillodd Burton Bencampwriaeth Ras Ffordd y Byd ym 1960 ac ym 1967, a daeth yn ail ym 1961. Arbenigodd yn y pursuit unigol ar y trac, gan ennill medal ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI bron bob blwyddyn dros dair degawd. Bu'n bencampwr y byd pum gwaith (1959, 1960, 1962, 1963 a 1966), yn ail dair gwaith (1961, 1964 a 1968), ac yn drydedd ym 1967, 1970 a 1973.
Cystadlaethau cenedlaethol
golyguMewn treialon amser cartref, bron na ellid trechu Burton. Enillodd gystadleuaeth British Best All-Rounder y Road Time Trials Council am 25 mlynedd yn olynol: o 1959 hyd at 1983. Enillodd 72 teitl treial amser cenedlaethol i gyd, pedwar teitl 10 milltir (cynhaliwyd gyntaf ym 1978), 26 teitl 25 milltir, 24 teitl 50 milltir ac 18 teitl 100 milltir. Enillodd ei theitlau cenedlaethol unigol olaf ym 1986 a hithau bron yn hanner cant oed (25 a 50 milltir) Roedd hefyd yn aelod o'r tîm cyflymaf: Knaresborough CC, yn y bencampwriaeth 50 milltir ym 1989.
Enillodd hefyd 12 teitl Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain a 12 teitl pursuit ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain.
Recordiau
golyguYm 1967, gosododd Burton record treial amser 12-awr newydd, gan gwblhau 277.25 milltir[3] – pellter a ragorodd, o 0.73 milltir, ar record y dynion ar y pryd, ac ni churwyd y nod hwn gan ddyn hyd 1969.[4] Tra'n gosod y record, goddiweddodd Mike McNamara a oedd wrthi'n gosod record y dynion o 276.52 milltir ac ennill cystadleuaeth British Best All-Rounder y dynion. Dywedir iddi roi liquorice allsort iddo wrth iddi reidio heibio.[5]
Gosododd 50 record cenedlaethol ar bellterau o 10, 15, 25, 30, 50 a 100-milltir; a chynhalodd ei recordiau terfynol 10, 25 a 50-milltir am 20 mlynedd cyn iddynt gael eu torri. Safodd ei record 100-milltir am 28 mlynedd, ac mae ei record 12-awr yn dal i sefyll hyd heddiw. Oherwydd ei gallu, derbyniodd wahoddiad arbennig, fel merch, i'r Grand Prix des Nations ym 1967.
Ym 1982, gosododd Burton record 10-milltir cenedlaethol tandem merched, ynghyd â'i merch Denise: 21 munud, 25 eiliad.
Cymyn
golyguRoedd merch Beryl Burton, Denise, hefyd yn seiclwraig benigamp: enillodd y fedal efydd yn y pursuit ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 1975). Cafodd y ddwy eu dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth y Byd ym 1972.
Cafodd ei champau eu cydnabod yn swyddogol ym 1964, pan dderbyniodd MBE ac OBE ym 1968. Enillodd Burton hefyd un o brif acolâdau seiclo Prydain, Gwobr Goffa Bidlake, dair gwaith (record arall), ym 1959, 1960 a 1967.
Bu farw Burton o fethiant y galon tra'n reidio'n gymdeithasol i ddanfon gwahoddiadau i'w pharti pen-blwydd yn 59 oed; roedd wedi byw erioed gyda rhythmau calon anarferol. Crybwyllodd ei merch Denise y gallai ei hysbryd cystadleuol fod wedi cyfrannu at flino'i chorf yn y pen draw.[6]
Sefydlwyd gardd goffa Beryl Burton yn Morley, ac mae Morley Cycling Club wedi rhoi tlws (a enillwyd 20 gwaith gan Burton) i'r RTTC ar gyfer y gystadleuaeth Champion of Champions ar gyfer merched: adnabyddir ef fel tlws Beryl Burton.
Mae llwybr beiciau'r Beryl Burton Cycle Way yn galluogi i seiclwyr deithio 2.8 km rhwng Harrogate a Knaresborough gan osgoi'r A59.[7] Mae actifyddion yn Harrogate, gan gynnwys Cycle Harrogate[8] wedi lobïo i gael y llwybr wedi ei drwsio oherwydd fod ei gyflwr mor wael.
Yn 2009, anrhydeddwyd Burton drwy ei chynnwys yn y British Cycling Hall of Fame.[9]
Golden Book of Cycling
golyguDathlwyd campau Burton am y tro cyntaf ym 1960 pan gysegrodd Cycling Weekly dudalen iddi yn y Golden Book of Cycling.[10] Erbyn 1991, roedd ei gyrfa wedi datblygu cymaint fel y rhoddwyd anrhydedd unigryw iddi, sef ail dudalen yn y llyfr.
Drama Radio
golyguDarlledwyd drama yn dilyn hanes Burton ar BBC Radio 4 ar 27 Tachwedd 2012, sef Beryl: A Love Story On Two Wheels. Ysgrifennwyd y ddrama gan yr actores Maxine Peake, a hithau hefyd chwaraeodd ran Burton. Cynhwyswyd yn y ddrama ddarnau o gyfweliadau gyda Charlie Burton, a'u merch, Denise Burton Cole.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Infamous and Famous from Morley. Wakefield Family History Society.
- ↑ Vamplew, Wray (1885–1900). . Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co.
- ↑ CTT Competition Records - Women. Cycling Time Trials.
- ↑ CTT Competition Records - Men. Cycling Time Trials.
- ↑ Woodland, L. (2005), This Island Race, Mousehold Press, p. 174, ISBN 1-874739-36-6
- ↑ Hugh Gladstone (26 Chwefror 2010). Beryl Burton: British Legend. Cycling Weekly. Adalwyd ar 22 Chwefror 2012.
- ↑ Harrogate Borough Council - Beryl Burton Cycle Way. Harrogate.gov.uk. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2012.
- ↑ Cycle Harrogate.
- ↑ 50 Cycling Heroes Named in British Cycling's Hall of Fame. British Cycling (17 Rhagfyr 2009).
- ↑ The Golden Book of Cycling - Beryl Burton, 1960. Thepedalclub.org. Adalwyd ar 20 July 2012.
- ↑ Beryl: A Love Story On Two Wheels. BBC. Adalwyd ar 22 Tachwedd 2012.
Dolenni allanol
golygu- Proffil Beryl Burton ar Cycling Archives