Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI – Ras ffordd merched
Adnabyddir Ras ffordd merched ym Mhencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI fel pencampwriaeth y byd ar gyfer merched yn nisgyblaeth ras ffordd. Cynhelir yn flynyddol ar y cyd gyda phencampwriaeth y dynion.
Hanes
golyguSefydlwyd Pencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd, UCI ar gyfer merched am y tro cyntaf yn Reims, Ffrainc ym 1958. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, hyd tua 1990, roedd y ras yn amrywio o ran hyd o un byr 46.6 km ym 1966 i 72 km (rhwng 30 a 50 milltir). O 1991 ymlaen, dechreuodd pellter y ras gynyddu, i 79 km i gychwyn (Stuttgart, yr Almaen), a thros 100 km ym 1996 (Lugano, y Swistir). Cynhaliwyd y ras hiraf hyd heddiw, 138.8 km, yn Varese yr Eidal yn 2008.
Oherwydd Gemau Olympaidd yr Haf, ni gynhaliwyd y Pencampwriaethau Seiclo Ffordd ym 1984, 1988 a 1992.
Dim ond dwy sydd wedi ennill y bencampwriaeth fwy na deuwaith, sef Jeannie Longo o Ffrainc â 5 buddugoliaeth, ac Yvonne Reynders o Wlad Belg â 4 buddugoliaeth.
Pencampwyr
golyguMedalau yn ôl gwlad
golyguGwlad | Aur | Arian | Efydd | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
Ffrainc | 9 | 5 | 2 | 16 |
Yr Iseldiroedd | 5 | 12 | 5 | 22 |
Yr Eidal | 5 | 6 | 7 | 18 |
Gwlad Belg | 5 | 6 | 4 | 15 |
Prydain Fawr | 4 | 3 | 3 | 10 |
Undeb Sofietaidd | 3 | 7 | 11 | 21 |
Lithwania | 3 | 2 | 2 | 7 |
UDA | 2 | 5 | 3 | 10 |
Y Swistir | 2 | 2 | 0 | 4 |
Yr Almaen | 2 | 1 | 3 | 6 |
Gorllewin yr Almaen | 2 | 0 | 2 | 4 |
Y Swistir | 2 | 0 | 2 | 4 |
Lwcsembwrg | 1 | 0 | 1 | 2 |
Norwy | 1 | 0 | 1 | 2 |
Dwyrain yr Almaen | 1 | 0 | 0 | 1 |
Belarws | 1 | 0 | 0 | 1 |
Awstralia | 0 | 2 | 1 | 3 |
Canada | 0 | 0 | 2 | 2 |
Sbaen | 0 | 0 | 1 | 1 |