Bessastaðir

Preswylfa Swyddogol Arlywydd Gwlad yr Iâ

Cartref swyddogol Arlywydd Gwlad yr Iâ[1] yw Bessastaðir (IPA: ˈpɛsaˌstaːðɪr̥). Fe'i lleolir yn Álftanes, sy'n rhan o fwrdeistref Garðabær sydd ei hun yn rhan o Ranbarth y Brifddinas, neu Reykjavík Fawr.[2]

Bessastaðir
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGarðabær Edit this on Wikidata
GwladGwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.10583°N 21.99556°W Edit this on Wikidata
Map
Bessastaðir 2009
Bessastaðir
 
Elwys Bessastaðir, Álptanes tua 1900

Sefydlwyd Bessastaðir yn y flwyddyn 1000. Daeth yn un o ffermydd Snorri Sturluson yn ye 13g. Wedi llofruddieth Snorri yn 1241, hawliwyd Bessastaðir gan Frenin Norwy. O ganlyniad fe ddaeth yn gadarnle i'r frenhiniaeth ac yn llety ar gyfer swyddogion uchaf y Brenin yng Ngwlad yr Iâ.

Llwyddodd i wrthsefyll cyrch gan fôr-ladron Twrceg oedd ar gyrch i ddal caethwasion ym mis Gorffennaf 1627. Ar ddiwedd y 18g newidiwyd Bessastaðir i fod yn ysgol ac yna, am gyfnod, yn fferm. Yn 1867 prynwyd y fferm gan y bardd a'r gwladweinydd, Grímur Thomsen, a fu fyw yno am bron i ugain mlynedd. Ymysg y perchnogion diwethaf oedd y golygydd a'r seneddwr, Skúli Thoroddsen, a'i wraig, Theodóra Thoroddsen, oedd yn adnabyddus ei hun am ei gwaith llenyddol.

Yn 1940 prynodd Sigurður Jónasson y Bessastaðir a'i chyflwyno i'r wladwriaeth yn 1941 fel preswylfa i Rhaglaw, ac yna, Arlywydd Gwlad yr Iâ.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://www.robert-schuman.eu/doc/oee/oee-782-en.pdf[dolen farw]
  2. "Forsetasetrið á Bessastöðum". Forseti Íslands. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-30. Cyrchwyd 24 February 2017.
  3. "Bessastaðir, the Presidential Residence". The President of Iceland. Office of the President of Iceland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 July 2015. Cyrchwyd 5 July 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Dolenni allanol

golygu