Garðabær

Bwrdeisdref yn Reykjavik Fawr

Un o'r saith bwrdeistref yn Rhanbarth y Brifddinas a adnabir ar lafar fel Reykjavík Fawr, Gwlad yr Iâ, yw Garðabær (IPA:ˈkarðapair̥).

Garðabær
Mathdinas, cyn-ardal dinesig Edit this on Wikidata
Poblogaeth18,891 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Asker, Jakobstad, Eslöv Municipality, Tórshavn, Birkerød Municipality Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGarðabær Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd71 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau64.090194°N 21.926357°W Edit this on Wikidata
Cod post210 Edit this on Wikidata
IS-GAR Edit this on Wikidata
Map
 
Panorama Gardabaer

Fel pob dref o fewn Rhanbarth y Brifddinas, mae Garðabær yn dref sy'n tyfu. Hi bellach yw chweched dref fwyaf Gwlad yr Iâ gyda phoblogaeth o 13,872 ar 1 mis Medi 2013.

Unwyd Álftanes gyda Garðabær yn Ionawr 2013[1] Poblogaeth Álftanes oedd 2,484 ym mis Ionawr 2011.

Gwladychwyd safle tref Garðabær ers y 9g. Dywed Landnámabók, (Llyfr y Gwladychu) am ddau ffarm ar safle bresenol Garðabær: Vífilsstaðir a Skúlastaðir. Enwyd yr un gyntaf ar ôl Vífill, caethwas Ingólfr Arnarson, gwladychwr cyntaf Gwlad yr Iâ. Rhoddod Ingólfur ryddid i Vífill a gwnaeth hwnnw ei gartref yn Vífilsstaðir.

Bessastaðir - Tŷ'r Arlywydd

golygu

Lleolir y Bessastaðir, cartref swyddogol Arlywydd Gwlad yr Iâ, yn Álftanes sydd oddi fewn i fwrdeistref Garðabær. Unwyd bwrdeisdref Álftanes gyda'i chymydog, Garðabær, ym mis Ionawr 2013.[1] Roedd gan Álftanes boblogaeth o 2,484 yn Ionawr 2011.

Adnoddau

golygu
 
Lleoliad Garðabær o fewn Reykjavík Fawr

Mae unig siop IKEA Gwlad yr Iâ yn Garðabær. Mae'r dref hefyd yn gartref i Marel hf y cwmni fwyaf ar Farchnad Stoc Gwlad yr Iâ (NASDAQ OMX Iceland).Nodyn:When[2]

Lleolir '380 studios', stiwdio deledu ar gyfer rhaglenni plant Lazy Town a LazyTown Extra a phencadlys Lazytown Entertainment, yn y dref.

Chwaraeon

golygu

Prif glwb chwaraeon y dref yw Stjarnan, sydd fwyaf adnabyddus am dîm pêl-droed dynion sy'n chwarae yn yr Úrvalsdeild (Uwch Gynghrair Bêl-droed Gwlad yr Iâ) ac a enillodd y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 2014. Mae'r tîm merched wedi bod yn fwy llwyddiannus gan ennill y gynghrair o leiaf pedair gwaith.

Sefydlwyd Clwb Golff Oddur yn 1990 a croesawyd Pencampwriaeth Golff Gwlad yr Iâ yn 2006 a Phencampwriaeth Menywod Amatur Ewrop yno yn 2016. Mae'r ddawnswraig adnabyddus, Hanna Rún Óladóttir, yn byw yn Garðabær.

Gefailldrefi

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Merger Of Álftanes And Garðabær Approved". Reykavik Grapevine. Cyrchwyd 25 Chwefror 2014. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. "Shares". Nasdaq OMX. Cyrchwyd April 5, 2012.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Vinabæir". gardabaer.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-26. Cyrchwyd 26 April 2014.