Mae Beth Doherty (ganwyd 10 Mehefin 2003) yn ymgyrchydd hinsawdd sy'n byw yn Iwerddon. Yn gyfaill i Greta Thunberg, mae Doherty yn gyd-sylfaenydd School Strikes for Climate Ireland ac yn aelod o Fridays for Future. Gan ddechrau yn 15 oed, mae Doherty wedi codi'r ymwybyddiaeth o ymdrechu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Beth Doherty
Beth Doherty yn Rhagfyr 2020 yn annerch y dorf
Ganwyd10 Mehefin 2003 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethymgyrchydd hinsawdd Edit this on Wikidata

Gweithredu dros yr hinsawdd golygu

Ar 6 Mawrth 2019, fel rhan o grŵp o fyfyrwyr a wahoddwyd, anerchodd Doherty aelodau 'Pwyllgor yr Oireachtas ar Weithredu dros yr Hinsawdd'. Dilynwyd hyn gan lawer o brotestiadau disgyblion a myfyrwyr dros yr wythnosau canlynol, lle cyflwynwyd chwe galw am weithredu yn yr hinsawdd.[1][2] Ym Mawrth 2019, ymddangosodd Doherty ar The Late Late Show ochr yn ochr â sawl gweithredwr hinsawdd ifanc arall.

 
Doherty ym mhrotest myfyrwyr a disgyblion Iwerddon; 24 Mai 2019

Yn ystod streic ysgolion 15 Mawrth dros yr hinsawdd yn 2019, anerchodd Doherty dorf o dros 11,000 yn streic Dulyn, lle beirniadodd Llywodraeth Iwerddon am ddiffyg gweithredu yn erbyn newid hinsawdd, a chyhuddodd y Gweinidog Gweithredu dros yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, Richard Bruton, o ddefnyddio’r rali fel llwyfan iddo ef ei hun.[3][4]

Mae Doherty wedi ysgrifennu darnau ar gyfer TheJournal.ie am fethiant Llywodraeth Iwerddon i gyflawni nodau hinsawdd 2020.[5] Yn ogystal, mae hi wedi gweithio gyda Chyngor Dinas Dulyn ar gynllun hinsawdd newydd y cyngor. Yn Ebrill 2019, ymddangosodd Doherty yn y 'Loud & Clear! Youth views on Climate' yn swyddfa Senedd Ewrop gyda sawl ymgeisydd ASE yn Nulyn i siarad o blaid gwell polisiau hinsawdd y ddinas.[6] Unwaith eto, anerchodd Doherty y protestwyr hinsawdd yn Nulyn yn ystod ail streic ar 24 Mai 2019.[7][8]

Ym mis Mai 2019 anerchodd Doherty gynhadledd genedlaethol IDEA ar y rhesymau dros y mudiad streicio dros yr hinsawdd.[9] Gweithiodd hefyd fel prif drefnydd ar gyfer y drydedd streic ysgol fawr ar 21 Mehefin 2019, ynghyd â’r ddwy streic fawr arall a rali ar gyfer datganiad Iwerddon ar yr argyfwng hinsawdd ar 4 Mai 2019. Yn Awst 2019, cynrychiolodd Doherty Iwerddon yn Uwchgynhadledd Ewropeaidd Dydd Gwener (Fridays for Future European Summit) yn Lausanne, y Swistir, ochr yn ochr â 13 o gyfranogwyr eraill.

Ym mis Tachwedd 2019, roedd Doherty yn un o'r 157 o gynrychiolwyr i Gynulliad Ieuenctid RTE ar Hinsawdd yn Dáil Éireann.[10] Pleidleisiwyd dros ychwanegu ei chynnig, ynghylch system dreth haenog ar allyriadau carbon corfforaethau, ar ddatganiad y Cynulliad Ieuenctid fel un o'r 10 cynnig.[11]  Yn ddiweddarach, cyflwynodd y datganiad i Arlywydd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Tijani Muhammad-Bande, ochr yn ochr ag ysgrifenwyr y naw cynnig arall. Yn ddiweddarach yr wythnos honno, cyfarfu Doherty a thraddodi araith o flaen Arlywydd Iwerddon, ochr yn ochr â Chynrychiolwyr Ieuenctid y Cenhedloedd Unedig yn Iwerddon. Yn Nhachwedd, gweithiodd Doherty fel trefnydd streic Dulyn ar 29 Tachwedd, yn gyfochrog â streic a gydlynwyd yn rhyngwladol. 

Yn ychwanegol at ei gwaith yn erbyn newid hinsawdd, roedd Doherty yn rownd derfynol y gystadleuaeth 'Dadlau Iau Genedlaethol Matheson',[12]  ac mae'n aelod o Senedd Ieuenctid Ewrop Iwerddon, a bydd yn cynrychioli Iwerddon yn 92ain Sesiwn Ryngwladol Senedd Ieuenctid Ewrop, ym Milan

Cyfeiriadau golygu

  1. Chaos, Stop Climate (30 Medi 2017). "Students Demand Immediate Action on Climate Change". Stop Climate Chaos. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  2. foeireland (6 Mawrth 2019). "Beth from School Strike 4 Climate speaks to members of the Irish parliament about climate action". Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  3. "Thousands of students in Ireland join international climate change protests". www.irishtimes.com. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  4. "Irish student's strike with others around the world over climate change". The College View. 20 Mawrth 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-25. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  5. Doherty, Beth. "Opinion: You say you love your children - so why are you stealing our futures?". TheJournal.ie. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2021-05-07.
  7. "Student protest calls on Government to take radical action on climate crisis". www.irishtimes.com. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.
  8. https://youtube.com/Wd0qqbyISbU[dolen marw]
  9. Murphy, Colin. "We're at a crucial moment for our climate - just ask any teen | BusinessPost.ie". www.businesspost.ie. Cyrchwyd 2019-07-14.
  10. https://www.rte.ie/news/youth-assembly-delegates-2019/
  11. https://www.rte.ie/news/youth-assembly/2019/1113/1090623-show-support-for-the-youth-assembly-recommendations/
  12. "Debating Memes for Cork Teens on Instagram: "In case anybody has not received the tab of results from the Munster Junior Matheson Final in Dublin last month, here it is.…"". Instagram. Cyrchwyd 10 Mehefin 2019.