Bethania Capel y Bedyddwyr Aberteifi
capel y Bedyddwyr yn Aberteifi
Capel yn Aberteifi yw Bethania, sy'n perthyn i'r Bedyddwyr. Yn 1811 daeth John Herring a oedd yn ffrind i Christmas Evans yn weinidog ar yr eglwys, a bu yno tan ei farw yn 1832.
Math | capel |
---|---|
Enwyd ar ôl | Bethania |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aberteifi |
Sir | Aberteifi |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 52.084°N 4.65905°W |
Cod post | SA43 1EL, SA43 1BY |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r Gweinidogion eraill yn cynnwys:
- Parchg William Williams JP (1774-13/08/1799)
- Evan Jones 1800-1810
- Parchg John Herring (1811-2/4/1832)
- Parchg William Jones (1832-34)
- Parchg Morris (Maurice) Edwards (1834-38)
- Parchg David Rees (1837-50)
- Parchg Evan Thomas (Hydref 1850- haf 1854)
- Daniel Davies (dall) (1854-58)
- Parchg Evan Thomas (1863-1 Ionawr 1873)
- David Davies (Dewi Dyfan) (1875-77)
- Parchg John Williams (18 Mehefin 1880–1929)
- Parchg Eseia Williams (1929-49)
- Parchg D Osborne Thomas (31 Awst 1951-68) Gadawodd i Hermon, Abergwaun.
- Parchg Milton Jenkins (1969–1995) Gadawodd i Donyfelin, Caerffili
- Parchg Irfon Roberts
Agorwyd y Festri ym 1882. Cynhaliwyd y Gymanfa Ganu gyntaf mis Mai 1886. Agorwyd yr Organ gan Dr. Roland Rogers 16 Mai 1902.
Llyfryddiaeth
golygu- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.24–5