Betsan Moses

Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol

Betsan Moses (ganwyd Tachwedd 1971) yw Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru ers Mehefin 2018.[1]

Betsan Moses
GanwydTachwedd 1971 Edit this on Wikidata
Pontyberem Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethprif weithredwr, prif swyddog cysylltiadau cyhoeddus Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Mae Betsan Moses yn wreiddiol o Bontyberem yng Nghwm Gwendraeth. Aeth i Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa ac yna i Brifysgol Aberystwyth i astudio Theatr ac yn ddiweddarach gwnaeth radd Meistr mewn Caffael Iaith ym Mhrifysgol Cymru.[2]

Gyrfa golygu

Gweithiodd fel Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda cwmni Cennad ac yna fel Rheolwr Cyfrifon gyda StrataMatrix. Bu'n ddarlithydd yn Mhrifysgol y Drindod, Caerfyrddin ac yna Swyddog Dawns a Drama gyda Cyngor Celfyddydau Cymru. Ymunodd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ebrill 1999 gan dreulio 9 mlynedd yno fel Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata. Yn Chwefror 2009 dychwelodd i'r Cyngor Celfyddydau Cymru fel Pennaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus.[3]

Fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol yn Chwefror 2018 a cychwynnodd ei swydd yn Mehefin 2018 gan gyd-weithio gyda Elfed Roberts drwy gyfnod Eisteddfod Caerdydd 2018.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Betsan Moses yn Brif Weithredwr newydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Eisteddfod Genedlaethol (8 Chwefror 2018).
  2. 2.0 2.1 Penodi prif weithredwr newydd yr Eisteddfod Genedlaethol , BBC Cymru Fyw, 8 Chwefror 2018. Cyrchwyd ar 13 Awst 2018.
  3.  LinkedIn - Betsan Moses. LinkedIn. Adalwyd ar 13 Awst 2018.

Dolenni allanol golygu