Mudiad i ymgyrchu dros bleidlais yn erbyn annibyniaeth i'r Alban yn y Refferendwm annibyniaeth i'r Alban a gynhaliwyd ar 18fed o Fedi 2014 oedd Better Together. Fe'i sefydlwyd ar 1af o Fehefin 2012 gyda chefnogaeth y tri phrif blaid unoliaethol yn yr Alban, sef y Blaid Lafur, y Blaid Geidwadol a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Logo Better Together

Lleolwyd y pencadlys yn Fountainbridge - un o fwrdeisdrefi Caeredin.[1]

Lansiwyd yr ymgyrch yn swyddogol ym Mhrifysgol Napier Caeredin ar 25 o Fehefin 2012 gan Alistair Darling, AS Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin a chyn-Ganghellor y trysorlys yn llywodraeth Gordon Brown.[2] Roedd yr ymgyrch yn llwyddiannus: pleidleisiodd yr Alban 55.3% yn erbyn annibyniaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gordon, Tom (6 Medi 2012). "No team unveil 'better together positivity'". Herald Scotland. Cyrchwyd 11 Ebrill 2013.
  2. "Ex-Hearts chief Phil Anderton joins pro-UK group". Edinburgh Evening News. Johnston Press. 15 Chwefror 2013. Cyrchwyd 21 Ebrill 2013.[dolen marw]