Alistair Darling
Gwleidydd o'r Alban oedd Alistair Maclean Darling (28 Tachwedd 1953 – 30 Tachwedd 2023). Roedd yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth De-Orllewin Caeredin yn Senedd y Deyrnas Unedig a gwasanaethodd fel Ganghellor y Trysorlys o 2007 hyd 2010. Bu farw o ganser, yn 70 oed.[1]
Alistair Darling | |
| |
Canghellor y Trysorlys
| |
Cyfnod yn y swydd 28 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 | |
Prif Weinidog | Gordon Brown |
---|---|
Rhagflaenydd | Gordon Brown |
Olynydd | George Osborne |
Cyfnod yn y swydd 13 Mehefin 2003 – 5 Mai 2006 | |
Prif Weinidog | Tony Blair |
Rhagflaenydd | Helen Liddell |
Olynydd | Douglas Alexander |
Geni | 28 Tachwedd 1953 Hendon, Middlesex |
Marw | 30 Tachwedd 2023 Caeredin |
Etholaeth | Canol Caeredin (1987-2005) De-Orllewin Caeredin (2005-2015) |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Margaret Vaughan |
Bywyd personol
golyguCafodd Darling ei eni yn Llundain i Thomas ac Anna Darling. Roedd Aelod Seneddol y Ceidwadwyr dros etholaeth De Caeredin (1945-1957), Syr William Darling, yn berthynas iddo. Yn Kirkcaldy y derbyniodd ei addysg, yn ysgol fonedd Loretto, Musselburgh. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberdeen lle roedd ef yn arwain Undeb y Myfyrwyr. Enillodd gradd yn y Gyfraith, gan ddechrau gyrfa fel cyfreithiwr yn 1978 a newid i fod yn fargyfreithiwr yn 1984. Ymunodd a'r Blaid Lafur yn 1977. Enillodd sedd fel cynghorydd ar Gyngor Ardal Lothian yn 1982 hyd at ennill sedd yn San Steffan yn 1987. Priododd Darling y cyn-newyddiadurwr Margaret McQueen Vaughan yn 1986. Mae ganddynt fachgen o'r enw Calum (ganwyd 1988) a merch o'r enw Anna (ganwyd 1990). Dëellir fod Darling yn hoff o wrando ar gerddoriaeth Pink Floyd, Coldplay, Leonard Cohen a The Killers.
Aelod Senedd y DU
golyguCafodd ei ethol fel cynrychiolwr etholaeth Canol Caeredin yn etholiad cyffredinol 1987, gan guro'r cyn-aelod Ceidwadol, Syr Alexander Fletcher. Ers 2005 mae Darling wedi cynrychioli etholaeth De-Orllewin Caeredin. Yn 1988 bu Darling yn aelod o arweinyddiaeth gwrthblaid Neil Kinnock fel un o lefarwr materion cartref. Wedi etholiad 1992, symudodd yn llefarydd materion y Trysorlys, ac yna'n brif ysgrifennyd yr wrthblaid i'r Trysorlys fel rhan o arweinyddiaeth gwrthblaid Tony Blair.
Gweinidog llywodraeth
golyguWedi etholiad llwyddiannus Plaid Llafur yn 1997, bu Darling yn Brif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, yn gweithio gyda Gordon Brown. Roedd Darling yn un o dri a barhaodd fel gweinidogion ers 1997. Wedi i Harriet Harman adael fel Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol yn 1998, cymerodd Darling y swydd. Yn cyd-fynd gyda newid Adran Nawdd Cymdeithasol i fod yn Adran Gwaith a Phensiynau yn 2001, cafodd Darling enw newydd i'w swydd fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Wedi ymddiswyddiad Stephen Byers yn 2002 fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth, symudodd Darling i gymryd yr adran drosodd.
Adran Trafnidiaeth, Swyddfa'r Alban ac Adran Diwydiant a Masnach
golyguYn ei amser fel Ysgrifennydd Cludiant, gofynnwyd i Darling i "dynnu'r adran o penawdau'r newyddion". Bu'n gyfrifol am ffurfio Network Rail, a gymerodd drosodd gwaith Railtrack. Yn 2003 cymerodd Darling swydd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn ogystal a'i swydd yn yr adran trafnidiaeth. Ym Mai 2006, symudodd Darling o'r adran trafnidiaeth a Swyddfa'r Alban i ddod yn Ysgrifennydd Gwladol Dros Ddiwydiant a Masnach. Cymerodd Douglas Alexander drosodd fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth a'r Alban.
Canghellor y Trysorlys
golyguAr ôl i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog y DU, penodwyd Darling fel Canghellor y Trysorlys ym Mehefin 2007. Bu'n gyfrifol am redeg y Trysorlys yn ystod un o'r cyfnodau gwaethaf yn hanes economi'r byd, yn dilyn argyfwng morgeisi 2007. Bu'n rhaid i Darling wladoli banc Northern Rock a buddsoddi biliynau i mewn i'r Royal Bank of Scotland a Lloyds Banking Group. Hefyd roedd rhaid iddo delio gyda cholli gwybodaeth preifat 25 miliwn o bobl a diwedd band treth 10c, penderfyniad a wnaed gan y cyn-canghellor Gordon Brown.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Shaw, Neil (30 November 2023). "Veteran Labour politician Alistair Darling has died, aged 70". Wales Online (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Tachwedd 2023. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2023.
- ↑ Watt, Nicholas; correspondent, chief political (2008-08-29). "Economy at 60-year low, says Darling. And it will get worse". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-11-30.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Cernlun y Guardian
- (Saesneg) TheyWorkForYou.com - Cernlun fel AS a patrwm pleidleisio yn y Senedd
- (Saesneg) Cernlun y Times[dolen farw]
- (Saesneg) Cernlun y BBC
- (Saesneg) The Daily Telegraph[dolen farw]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Alex Fletcher |
Aelod Seneddol dros Ganol Caeredin 1987 – 2005 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Dde-Orllewin Caeredin 2005 – 2015 |
Olynydd: Joanna Cherry |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Helen Liddell |
Ysgrifennydd Gwladol yr Alban 13 Mehefin 2003 – 5 Mai 2006 |
Olynydd: Douglas Alexander |
Rhagflaenydd: Gordon Brown |
Canghellor y Trysorlys 27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 |
Olynydd: George Osborne |