Gordon Brown
Cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yw James Gordon Brown (ganwyd 20 Chwefror, 1951 yn Govan, Glasgow, yr Alban). Cymerodd y swydd ar 27 Mehefin, 2007, tridiau ar ôl dod yn arweinydd y Blaid Lafur. Yn gynt fe wasanaethodd fel Canghellor y Trysorlys dan Tony Blair o 1997 tan 2007, y cyfnod hwyaf i Ganghellor wasanaethu ers Nicholas Vansittart ar ddechrau'r 19g. Mae'n aelod blaenllaw o Cyfeillion Llafur Israel.
Gordon Brown AS | |
| |
Cyfnod yn y swydd 27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 | |
Rhagflaenydd | Tony Blair |
---|---|
Olynydd | David Cameron |
Canghellor y Trysorlys
| |
Cyfnod yn y swydd 2 Mai 1997 – 28 Mehefin 2007 | |
Rhagflaenydd | Kenneth Clarke |
Olynydd | Alistair Darling |
Geni | 20 Chwefror 1951 Glasgow, Yr Alban, DU |
Etholaeth | Kirkcaldy a Cowdenbeath |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Sarah Brown |
Mae gan Brown radd Doethur mewn hanes o Brifysgol Caeredin a threuliodd ei yrfa gynnar yn gweithio fel newyddiadurwr teledu.[1][2] Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Dunfermline yn 1983 ac yn AS dros Kirkcaldy a Cowdenbeath yn 2005; ymddeolodd fel AS cyn Etholiad Cyffredinol, 2015 pan gipiodd yr SNP'r sedd.[3][4]
Fel Prif Weinidog, bu Brown hefyd yn dal swyddi Prif Arglwydd y Trysorlys a Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil. Nodwyd cangelloriaeth Brown gan ddiwygiadau arwyddocaol mewn polisi ariannol a chyllidol Prydain, yn cynnwys trosglwyddiad pwerau gosod cyfraddau llog i Fanc Lloegr, gan ehangu a dwysau grymoedd y Trysorlys. Ei weithredoedd mwyaf dadleuol oedd diddymu cymorth Blaendreth Corfforaeth (ACT) yn ei gyllideb gyntaf – gweithred a gafodd ei beirniadu am ei heffaith ar gronfeydd pensiwn – [5] a dileu'r cyfradd treth 10c yn ei gyllideb derfynol yn 2007.[6]
Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog wynebodd Brown ôl-effeithiau'r argyfwng economaidd a gwladoliad cysylltiedig Northern Rock ayb, y ddadl dros y gyfradd treth 10c, cynnydd mewn prisiau olew a phetrol, a chwyddiant cynyddol. Mae Brown hefyd wedi dioddef o ganlyniad i ymchwiliadau i mewn i gyhuddiadau o roddion anweddus i'w blaid, brwydr wleidyddol ddrud dros gadw terfysgwyr honedig o dan glo am 42 niwrnod, a threchiadau sylweddol mewn is-etholiadau, megis Dwyrain Glasgow, 2008. Er i boblogrwydd Brown a'r Blaid Lafur gynyddu ar gychwyn ei brifweinidogaeth, mae'u safiadau mewn polau piniwm ers hynny wedi gostwng yn sylweddol.[7][8] Yn ystod haf 2008 bu sôn am her bosib i arweinyddiaeth Brown,[9][10][11][12] ond enciliodd fygythiad cystadleuaeth ym mis Hydref yn dilyn Cynhadledd y Blaid Lafur a gwaethygiad yr argyfwng economaidd.[13] Ymddiswyddodd fel Prif Weinidog ar 11 Mai, 2010.[14]
Cangelloriaeth
golyguFel Canghellor y Trysorlys mae wedi llywyddu'r "cyfnod hwyaf o dwf a welodd y wlad erioed", gwneud Banc Lloegr yn annibynnol a chyflwyno cytundeb ar dlodi a newid hinsawdd yn Uwchgynhadledd yr G8 yn 2005.[15]
Prifweinidogaeth
golyguPrydeindod
golyguPwysleiddiodd Brown 'Prydeindod', yn enwedig pan oedd yn Brif Weinidog ac yn ystod Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014. Yn Ionawr 2006 rhoddodd araith i Gymdeithas y Ffabiaid yn galw am "Ddiwrnod Prydeinig" i ddod yn ŵyl flynyddol. Yn Ebrill yn yr un flwyddyn dywedodd ei fod eisiau gweld "baner (Jac yr Undeb) yn hedfan ym mhob gardd yn y wlad" ar y diwrnod hwnnw[16] Awgrymwyd gan feirniaid Gordon Brown fod hyn yn ymateb i wrthwynebiad rhai Saeson i gael Albanwr yn Brif Weinidog, ond mewn gwirionedd cafwyd sawl datganiad gan Brown yn pwysleisio Prydeindod cyn iddo gymryd yr awenau o ddwylo Blair yn 2007. Gweithiodd Brown yn frwd i sefydlu'r "Diwrnod y Lluoedd Arfog" newydd hefyd.[17] Bydd y 'diwrnod' hwnnw yn ymestyn dros benwythnos ac yn cynnwys gorymdeithiau milwrol, cyflwyniadau i ysgolion, a tattoos milwrol ar feysydd pêl-droed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Kearney, Martha (14 Mawrth, 2005). Brown seeks out 'British values'. BBC. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Gordon Brown timeline. BBC (15 Mehefin, 2004). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Brown is UK's new prime minister. BBC (27 Mehefin, 2007). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Gordon Brown. BBC (19 Tachwedd, 2007). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Stewart, Heather (22 Gorffennaf, 2002). Pension blame falls on Brown. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Dawar, Anil (21 Ebrill, 2008). Q&A: 10p tax rate cut. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Prince, Rosa (13 Awst, 2007). Gordon Brown's huge poll lead. Daily Mirror. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Majendie, Paul (13 Ebrill, 2008). Brown in record poll slide. Reuters. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Current Voting Intention. UK Polling Report. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Porter, Andrew (27 Mehefin, 2008). Gordon Brown is 'electoral liability' says anniversary poll. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Sparrow, Andrew & Mulholland, Hélène (28 Gorffennaf, 2008). Brown hit by call for resignation and bad poll ratings. The Guardian. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Young, Vicky (28 Gorffennaf, 2008). Is Brown seriously at risk of axe?. BBC. Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ (Saesneg) Brown critic 'ends hostilities'. BBC (7 Hydref, 2008). Adalwyd ar 9 Tachwedd, 2008.
- ↑ Gordon Brown resigns as UK prime minister Gwefan newyddion y BBC. 11-05-2010
- ↑ Bywgraffiad Y Gwir Anrhydeddus Gordon Brown, AS. Gwefan swyddogol 10 Stryd Downing. Adalwyd ar 30 Ionawr, 2008.
- ↑ Daily Telegraph "Fly the Flag in every garden" 14/04/06.
- ↑ The Daily Telegraph, 13.04.2008 Archifwyd 2008-04-22 yn y Peiriant Wayback "Victory for Armed Forces Day campaign". Adalwyd ar 16 Ebrill 2008
Llyfryddiaeth
golygu- Gordon Brown: Bard of Britishness, casgliad o ysgrifau golygwyd gan John Osmond, IWA, Caerdydd, 2006.
Dolenni allanol
golygu- 10 Stryd Downing – Bywgraffiad Y Gwir Anrhydeddus Gordon Brown, AS Archifwyd 2007-10-08 yn y Peiriant Wayback
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Dwyrain Dunfermline 1983 – 2005 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Kirkcaldy a Cowdenbeath 2005 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Kenneth Clarke |
Canghellor y Trysorlys 2 Mai 1997 – 28 Mehefin 2007 |
Olynydd: Alistair Darling |
Rhagflaenydd: Tony Blair |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 27 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 |
Olynydd: David Cameron |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Tony Blair |
Arweinydd y Blaid Lafur 24 Mehefin 2007 – 11 Mai 2010 |
Olynydd: Harriet Harman |