Betty Williams
Gwleidydd Llafur yw Betty Helena Williams (ganwyd 31 Gorffennaf 1944 ym Mangor). Hi oedd Aelod Senedd y Deyrnas Unedig dros etholaeth Conwy o 1997 hyd 2010.
Betty Williams | |
---|---|
Ganwyd | Betty Helena Williams 31 Gorffennaf 1944 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywyd Cynnar
golyguRoedd Williams yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes, gan symud ymlaen i'r Coleg Normal, Bangor. Mae gan Williams BA o Brifysgol Cymru, ac erbyn hyn mae hi'n cymrodwraig anrhydeddus Prifysgol Cymru, Bangor. Gwraig i Evan Williams yw hi, ac mae ganddynt dau fab.
Gyrfa Gwleidyddol
golyguYm 1967 cafodd Williams ei ethol i fod yn maer Cyngor Plwyf Llanllyfni. Aeth ymlaen i fod yn Cynghorwraig Ardal, ac yna Faer Arfon yn 1990. Bu hi'n aflwyddiannus yn cystadlu etholaethau Caernarfon yn 1983, a Chonwy yn 1987 a 1992. Dewisiwyd eto gan y Blaid Lafur i gystadlu etholaeth Conwy yn 1995 ar cofrestru benywaidd yn unig. Rhag y datganiad fod y dull yma yn un anghyfreithlon, bu Williams yn cadw'r hawl i gystadlu'r set. Yn etholiad cyffredinol 1997 cafodd Williams ei ethol gyda mwyafrif o 1,596.
Heddiw, mae Williams yn aelod ar pwyllgorau addysg a chyflogaeth, Iechyd a Nawdd Cymdeithasol, a Diwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon dros y Blaid Lafur y Senedd. Cydnabyddwyd Williams fel aelod teyrngar i'r blaid ac i Brif Weinidog y DU, Gordon Brown.
Ym Medi 2008, datganodd Williams na fyddai'n cystadlu ei set yn yr etholiad nesaf yn 2010 i'w galluogi i fedru newid cydbwysedd ei gwaith.[angen ffynhonnell]
Cyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Wyn Roberts |
Aelod Seneddol dros Gonwy 1997 – 2010 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |