Wyn Roberts
Gwleidydd Ceidwadol o Gymro oedd Ieuan Wyn Pritchard Roberts, Arglwydd Roberts o Gonwy (10 Gorffennaf 1930 – 13 Rhagfyr 2013).[1][2]
Wyn Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 10 Gorffennaf 1930 Llansadwrn |
Bu farw | 13 Rhagfyr 2013 Rowen |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | E. P. Roberts |
Mam | Margaret Ann Roberts |
Priod | Enid Williams |
Plant | Rhys Roberts, Huw Roberts, Geraint Roberts |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Fe'i ganwyd yn Llansadwrn, yn fab i'r Parchedig E.P. Roberts, gweinidog Methodist Calfinaidd ac awdur. Roedd ganddo frawd hŷn, Eifion Roberts. Enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Harrow pan oedd yn 14 oed. Ef oedd yr unig Gymro yno yr ysgol ar y pryd a gwnaeth enw iddo'i hun yn actio mewn dramâu. Enillodd ysgoloriaeth pellach i Goleg y Brifysgol, Rhydychen a chymerodd radd anrhydedd mewn hanes. Yn ystod ei wasanaeth milwrol bu'n gwasanaethu gyda'r "Special Intelligence" yn Awstria.[3] Yn 1964 roedd rhaid i TWW gymryd dros masnachfraint Teledu Cymru a daeth Wyn yn reolwr Cymru i TWW.
Gyrfa
golyguDarlledu
golyguYn ei yrfa cynnar hyfforddodd fel newyddiadurwr ar y Liverpool Daily Post. Ymunodd â'r BBC yn 1954 fel cynorthwyydd newyddion. Yn 1958 ymunodd â gorsaf newydd TWW fel cynhyrchydd a gweithiodd ar y rhaglen gyntaf y gyfres Amser Te a ddarlledwyd ar noson agoriadol y sianel.[4] Erbyn 1960 roedd yn rheolwr cynhyrchu y rhaglenni Cymraeg ar TWW, ac yn un o brif swyddogion ieuengaf y sianel.[3] Bu hefyd yn cyflwyno y rhaglen Pwy Fase’n Meddwl.[5]
Gwleidyddiaeth
golyguEnillodd sedd ymylol Conwy yn 1970 gan ei chipio o'r Blaid Lafur. Parhaodd fel Aelod Seneddol yr etholaeth am 27 mlynedd cyn iddo sefyll lawr cyn etholiad 1997. Yn 1998 cafodd ei wneud yn arglwydd am oes fel Barwn Roberts o Gonwy a bu'n llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn yr ail siambr tan 2007.[4] Am gyfnod hir gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Cymru yn y Swyddfa Gymreig. Er waetha' ei deyrngarwch i Mrs Thatcher, chafodd e ddim ei ddyrchafu i'r cabinet. Ef oedd yn bennaf gyfrifol am gyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Bu'n lefarydd y Ceidwadwyr ar faterion Cymreig yn yr Ail Siambr o 1997 tan y 27 Mehefin 2007.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod ag Enid a cawsant tri mab, Huw a Geraint a Rhys (bu farw yn 2004).[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Wyn Roberts, Pymtheng Mlynedd yn y Swyddfa Gymreig (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1995)
- Wyn Roberts, Right from the Start (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005). Cyfrol hunangofiannol.
Dolen allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ BBC Wales News. Adalwyd 14 Rhagfyr 2013
- ↑ Lord Roberts of Conwy , theguardian.com, 16 Rhagfyr 2013.
- ↑ 3.0 3.1 Bywgraffiad Wyn Roberts - TWW, 1961. 'Teledu', TWW (Awst 1961). Adalwyd ar 3 Hydref 2019.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Edrych yn ôl ar fywyd Syr Wyn , BBC Cymru Fyw, 14 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd ar 3 Hydref 2019.
- ↑ Nodi 60 mlynedd ers sefydlu TWW – Television Wales and the West. Prifysgol Aberystwyth (12 Ionawr 2018). Adalwyd ar 3 Hydref 2019.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Ednyfed Hudson Davies |
Aelod Seneddol dros Gonwy 1970 – 1997 |
Olynydd: Betty Williams |