Betws, Casnewydd

cymuned yn ninas Casnewydd

Cymuned yn ninas Casnewydd, Cymru, yw Betws. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 8,257.[1]

Betws, Casnewydd
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,606 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCasnewydd Edit this on Wikidata
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd513.66 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.609°N 3.028°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000811 Edit this on Wikidata
Cod OSST289905 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJayne Bryant (Llafur)
AS/auRuth Jones (Llafur)
Map
Am enghreifftiau eraill o enwau lleol sy'n cynnwys y gair Betws, gweler Betws (gwahaniaethu).

Saif i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas. Ar y ffîn rhwng y gymuned yma a chymuned Tŷ-du mae 14 llifddor cangen Crymlyn o Gamlas Sir Fynwy. Adeiladwyd y llifddorau hyn yn 1799, ac maent yn codi'r gamlas 51 medr mewn pellter o ddim ond 0.8 km.

Gelwir yr ardal o gwmpas cronfeydd dŵr Ynysfro yn "Swistir Fach". Honnir i John Frost, Siartydd briodi yn Eglwys y Santes Fair yn 1812.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ruth Jones (Llafur).[2][3]

Yn yr etholiadau cyntaf i ethol Comisiynydd yr heddlu ar gyfer Heddlu Gwent yn Nhachwedd 2012, mae'n debyg na wnaeth neb bleidleisio yno o gwbl drwy'r orsaf bleidleisio.[4]

Ffynonellau golygu

  1. [Gwyddoniadur Cymru Gwasg Prifysgol Cymru 2008]
  2. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. "BBC Cymru adalwyd 18 Tachwedd 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-12. Cyrchwyd 2021-02-19.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato