John Frost

siartydd

Un o arweinwyr y Siartwyr oedd John Frost (25 Mai 178427 Gorffennaf 1877).

John Frost
Ganwyd25 Mai 1784 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1877 Edit this on Wikidata
Stapleton, Bristol Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethargraffydd, gwleidydd, brethynnwr, crydd Edit this on Wikidata

Ganed ef yng Nghasnewydd-ar-Wysg, lle roedd ei dad, hefyd yn John Frost, yn cadw tafarn y Royal Oak. Bu'n brentis dilledydd yng Nghaerdydd, Bryste a Llundain cyn dychwelyd i Gasnewydd i agor ei fusnes ei hun. Priododd Mary Geach yn 1812, a chawsant wyth o blant.

Etholwyd ef yn gynghorydd yn 1835, ac yn ddiweddarach yn ustus heddwch ac yn faer Casnewydd, ond collodd ei safle oherwydd ei fod yn un o arweinwyr y Siartwyr. Roedd y Siartwyr yn brwydro am hawliau sylfaenol megis yr hawl i bob dyn dros 21 oed gael bwrw ei bleidlais, yr hawl i bleidlais gudd ac am gyflog i aelodau seneddol.

Yr orymdaith i Gasnewydd golygu

Ar 4 Mawrth 1839, arweiniodd Frost, Zephaniah Williams a William Jones orymdaith o tua 3,000 o Siartwyr i Gasnewydd, gan geisio rhyddhau Siartwyr oedd wedi eu carcharu yn y Westgate Hotel. Daeth dilynwyr Frost o'r Coed Duon, dilynwyr Williams o Lynebwy a chriw Jones o Bont-y-Pŵl. Roedd llawer o golofnau'r sefydliad yn y gwesty ynghyd â 60 o filwyr arfog. Taniwyd at y 'mob' gan filwyr Lloegr y tu allan i westy'r Westgate am tua 25 munud o gythrwfwl, a bu farw 22 o bobl ac anafwyd dros hanner cant.

Dedfrydu golygu

Rhoddwyd Frost, William Jones a Zephaniah Williams ar eu prawf, eu cael yn euog a'u dedfrydu i gael eu crogi a'u chwarteru.[1] Wedi protest gyhoeddus, newidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth; aed â Frost i Van Diemen's Land (Tasmania heddiw). Rhoddwyd pardwn iddo yn 1854, ar yr amod nad oedd yn dychwelyd i Brydain, a bu'n teithio o amgylch yr Unol Daleithiau yn darlithio. Yn 1856 dychwelodd i Wledydd Prydain a bu farw ym Mryste yn 1877 yn 93 oed.

I Tasmania hefyd yr anfonwyd Zephaniah lle bu farw yn 1874 yn ŵr cyfoethog iawn. Mab iddo oedd y telynor Pencerdd y De.

Cyfeiriadau golygu