Beyoncé Knowles

cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn Houston yn 1981

Cantores R&B ac actores yw Beyoncé Giselle Knowles (ganwyd 4 Medi 1981). Roedd hi'n aelod o'r grŵp Destiny's Child. Hefyd mae hi'n gynhyrchydd recordiau ac yn cyfansoddi ei chaneuon ei hun. Fe'i ganed a'i magu yn Houston, Texas, lle mynychodd ysgol berfformio. Dechreuodd gystadlu mewn cystadlaethau canu a dawnsio pan oedd yn blentyn. Daeth Knowles yn enwog ar ddiwedd y 1990au fel prif leisydd y grŵp "Destiny's Child". Tra gyda'r grŵp, gwerthodd Knowles dros 50 miliwn o recordiau'n fyd-eang ac yn ystod ei gyrfa llawn, mae wedi gwerthu dros 75 miliwn o recordiau.

Beyoncé Knowles
FfugenwQueen B Edit this on Wikidata
GanwydBeyonce Giselle Knowles Edit this on Wikidata
4 Medi 1981 Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Kinder High School for the Performing and Visual Arts
  • Alief Elsik High School
  • The Center for Early Education Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, actor llais, dylunydd ffasiwn Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth yr enaid, hip hop Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadMichael Jackson Edit this on Wikidata
TadMathew Knowles Edit this on Wikidata
PriodJay-Z Edit this on Wikidata
PlantBlue Ivy Carter, Sir Carter Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr MTV Movie am Ffeit Orau, Gwobr Time 100, GLAAD Vanguard Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://beyonce.com Edit this on Wikidata
llofnod

Ym mis Mehefin 2003, tra'n gweithio'n annibynnol o "Destiny's Child", rhyddhaodd Knowles ei halbwm solo cyntaf, Dangerously in Love, a ddaeth yn un o albymau mwyaf llwyddiannus y flwyddyn honno, a daeth Knowles yn amlycach fel artist unigol. Roedd yr albwm yn llwyddiant masnachol ac ymysg y beirniaid cerddorol, a chafodd sawl cân lwyddiant amlwg, gan gynnwys "Crazy in Love", "Baby Boy", a chan ennill pum Gwobr Grammy i Knowles yn 2004. Pan wahanodd "Destiny's Child yn 2005, parhaodd llwyddiant Knowles: aeth ei halbwm nesaf B'Day, a ryddhawyd yn 2006, i rif un y siart Billboard, gan gynhyrchu'r caneuon llwyddiannus "Deja Vu", "Irreplaceable", a "Beautiful Liar". Rhyddhawyd ei thrydedd albwm unigol, I Am… Sasha Fierce, ym mis Tachwedd 2008, a oedd yn cynnwys y caneuon llwyddiannus "If I Were a Boy", "Single Ladies (Put a Ring on It)", a "Halo".

Disgograffi golygu

2002/2004 golygu

  • 2003 - Dangerously in Love ("Work It Out", "'03 Bonnie & Clyde", "Crazy in Love", "Baby Boy", "Me, Myself and I", "Naughty Girl")
  • 2004 - Live at Wembley
  • 2003/2004 - Dangerously in Love World Tour
  • 2004 - Verizon Ladies First Tour (with Alicia Keys & Missy Elliott)

2005/2007 golygu

2008/2009 golygu

2011 golygu

  • 2011 - Heat
  • 2011 - 4

2013/2014 golygu

  • 2013 - Beyoncé
  • 2014 - Beyoncé Platinum Edition

2016 golygu

Ffilmiau golygu

Ffynonellau golygu