Big Spender
Cân a ysgrifennwyd gan Cy Coleman a Dorothy Fields ar gyfer y sioe gerdd Sweet Charity yw "Big Spender". Bu'r gân yn llwyddiannus iawn i'r gantores Shirley Bassey pan gyrhaeddodd rhif 21 yn y siart Brydeinig ym mis Rhagfyr 1967.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Rhan o | Sweet Charity |
Iaith | Saesneg |
Label recordio | United Artists Records |
Genre | jazz |
Cynhyrchydd/wyr | Norman Newell |
Cyfansoddwr | Cy Coleman |
Fersiynau gwahanol o'r gân
golyguMae sawl artist gwahanol wedi perfformio'r gân "Big Spender", gan gynnwys y grŵp Queen, a berfformiodd y gân mor bell yn ôl ag ar ddechrau'r 1970au. Perfformiodd y grŵp y gân hefyd yn fyw yn Stadiwm Wembley ar 12 Gorffennaf 1986. Roedd perfformiad Queen yn arwyddocaol am ei fod wedi gweddnewid y gân o'i naws sioe gerdd gwreiddiol i fod yn llawer mwy o gân roc.
Mae Shirley Bassey wedi perfformio'r gân droeon gan gynnwys ar benblwydd y Tywysog Philip yn 80 oed. Perfformiodd y gân hefyd yng Ngwyl Glastonbury yn 2007 hefyd.