Grŵp roc byd-enwog o'r Deyrnas Unedig ydy Queen ac fe'i ffurfiwyd yn Llundain yn 1970 gan y gitarydd, Brian May, y canwr Freddie Mercury a'r drymiwr Roger Taylor, ymunodd y gitarydd bâs John Deacon blwyddyn yn ddiweddarach. Cododd Queen i'r amlwg yn ystod yr 1970au; maent yn un o fandiau mwyaf llwyddiannus gwledydd Prydain dros y tri degawd diwethaf.[1]

Queen
Enghraifft o'r canlynolband roc Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Label recordioElektra Records, Capitol Records, EMI Records, Hollywood Records, Parlophone Records, Island Records, EMI Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1970 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1970 Edit this on Wikidata
Genreroc blaengar, roc glam, cerddoriaeth roc caled, cerddoriaeth roc, roc celf, roc poblogaidd, metal trwm traddodiadol, cerddoriaeth metel trwm Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://queenonline.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r band yn nodweddiadol am ei amrywiaeth cerddorol, gyda chyfansoddiadau aml-haenog, harmonïau llais a chyfuniad cyfranogaeth y dorf yn eu perfformiadau byw.[2] Etholwyd eu perfformiad yn Live Aid 1985 y perfformiad cerddorol gorau erioed gan arolwg barn y BBC yn 2005.[3]

Cafodd Queen lwyddiant cymedrol yn gynnar yn yr 1970au gyda'r albymau Queen a Queen II, ond rhyddhad Sheer Heart Attack yn 1974 a A Night at the Opera y flwyddyn ganlynol a enillodd lwyddiant rhyngwladol i'r band. Mae pob un o albymau stiwdio'r band wedi cyrraedd safle rhif 1 mewn amryw o siartiau ar draws y byd. Ers 1973, maent wedi rhyddhau pymtheg albwm stiwdio, pump albwm byw a nifer o albymau casgliad. Yn ôl OhmyNews, mae'r band wedi gwerthu dros 300 miliwn copi ar draws y byd,[4] gan gynnwys mwy na 32.5 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig,[5] gan eu gwneud yn un o'r bandiau sydd wedi gwerthu'r nifer fwyaf erioed.

Yn dilyn marwolaeth Freddie Mercury ac ymddeoliad John Deacon yn yr 1990au,[6] mae'r gitarydd Brian May a'r drymiwr Roger Taylor wedi gweithio ynghyd â Paul Rodgers o dan yr enw Queen + Paul Rodgers.

Hanes golygu

Dyddiau Cynnar (1969-1973) golygu

"I thought up the name Queen. It's just a name, but it's very regal obviously, and it sounds splendid. It's a strong name, very universal and immediate. It had a lot of visual potential and was open to all sorts of interpretations." (Freddie Mercury)

Yn 1969, penderfynodd y gitarydd Brian May, myfyriwr yng Ngholeg Imperial Llundain, a'r gitarydd bâs Tim Staffell ffurfio grŵp. Rhoddodd May hysbyseb ar hysbysfwrdd y coleg ar gyfer drymiwr o "fath Mitch Mitchell/Ginger Baker"; clywelwyd Roger Taylor, myfyriwr deintyddol ifanc, a chafodd y swydd. Galwyd y grŵp yn Smile a gweithiont fel grŵp cefnogi bandiau megis Jimi Hendrix, Pink Floyd, Yes a'r Genesis gwreiddiol. Arwyddwyd Smile i label Mercury Records yn 1969, a chawsont eu sesiwn recordio cyntaf yn Trident Studios y flwyddyn honno. Roedd Staffell yn mynychu Ealing Art College gyda Farrokh Bulsara, a adnabuwyd yn ddiweddarach dan yr enw Freddie Mercury, a chyflwynodd ef i'r band. Daeth Bulsara yn ffan yn fuan. Gadawodd Staffell yn 1970 i ffurfio band arall, Humpy Bong;[7] anogwyd yr aelodau a oedd ar ôl yn Smile i newid eu henw i "Queen" gan Bulsara, a pharhaont i weithio gyda'i gilydd.[7] Cafodd y fand nifer o chwaraewyr gitâr fâs yn ystod y flwyddyn hon, gan newid yn gyson gan nad oeddent yn cydweddu gyda'r band. Ym mis Chwefror 1971 penderfynont gael John Deacon a dechreuont ymarfer ar gyfer eu albwm cyntaf.[8]

Yn 1973, ar ôl cyfres o oediadau, rhyddhaodd Queen eu albwm cyntaf, a'i ddylanwad yn gryf gan heavy metal a progressive roc y cyfnod. Derbyniwyd yr albwm yn dda gan y beirniaid; dywedodd Gordon Fletcher o'r Rolling Stone fod eu albwm yn ardderchog ("their debut album is superb").[9]

Prosiectau "Queen + …" golygu

Datblygwyd nifer o brosiectau Queen + yn ystod y blynyddoedd ganlynol, ychydig ohonynt yn ail-gymysgiadau o'u gwaith heb unrhyw mewnbwn artistig gan y band. Yn 1999, rhyddhawyd albwm Greatest Hits III. Arni ymysg traciau eraill roedd "Queen + Wyclef Jean" ar fersiwn rap o "Another One Bites the Dust"; fersiwn byw o "Somebody to Love" gan George Michael; a fersiwn byw o "The Show Must Go On", a berfformiwyd yn 1997 gyda Elton John.

Perfformiodd Brian May a Roger Taylor yn fyw o dan yr enw Queen amryw o weithiau (seremonïau gwobrwyo, cyngherddau elusennol a digwyddiadau tebyg) gan rannu'r lleisio gydag amryw o gantorion gwestai. Maent hefyd wedi recordio nifer o gloriau o hits Queen, gan gynnwys "We Will Rock You" a "We Are the Champions".

Yn 2003, recordiwyd pedair cân newydd gan Queen ar gyfer ymgyrch 46664 Nelson Mandela yn erbyn AIDS. Nid yw'r fersiynau stiwdio o Invincible Hope (Queen + Nelson Mandela, gyda Treana Morris), 46664 - The Call, Say It's Not True, a Amandla (Anastacia, Dave Stewart a Queen) wedi cael eu rhyddhau ar albwm eto.

Perfformiadau Byw golygu

Casglodd y band gatalog amrywiol o ganeuon gan wneud defnydd o systemau sain enfawr, goleuo, tân gwyllt, ac amryw o wisgoedd afradlon er mwyn helpu creu digwyddiadau theatrig difyr. Fel y prif lais, gallodd Mercury ymdrolli yng ngweniaith y gynulleidfa a ffynnodd ar eu cynnwrf. Helpodd Queen baratoi ysgogiad ar gyfer gweld stadiymau ac arenau mawr eraill fel lleoliadau ar gyfer cyngherddau roc. Arweiniodd enw da'r band am berfformiadau byw gwych i nifer o gyngherddau gael eu rhyddhau ar albymau a fideo. Gwerthwyd copïau Bootleg o gyngherddau Queen ar wefannau a thrwy gylchgronau ffaniau.

Yn y byd digidol golygu

Rhyddhaodd Queen gêm cyfrifiadur y cyd gyda Electronic Arts yn 1998, Queen: The Eye, a oedd yn fethiant masnachol a beirniadol. Daeth y cerddoriaeth ei hun o gatalog eang Queen, ond roedd wedi eu hail-gymysgu, a gyda amryw o fersiynau offerynnol newydd a'u derbyniwyd yn dda ar y cyfan ond roedd y gêm ei hun yn wael. Cymerodd y gêm amser hir iawn i'w ddatblygu ac felly roedd nifer o'r elfennau graffegol i'w gweld ar ôl yr oes erbyn iddo gael ei ryddhau.

Albymau golygu

  • Queen (1973)
  • Queen II (1974)
  • Sheer Heart Attack (1974)
  • A Night at the Opera (1975)
  • A Day at the Races (1976)
  • News of the World (1977)
  • Jazz (1978)
  • Live Killers (1979)
  • The Game (1980)
  • Flash Gordon (1980)
  • Greatest Hits (1981)
  • Hot Space (1982)
  • The Works (1984)
  • A Kind of Magic (1986)
  • Live Magic (1986)
  • The Miracle (1989)
  • Innuendo (1991)
  • Greatest Hits II (1991)
  • Live at Wembley '86 (1992)
  • Made in Heaven (1995)
  • Queen Rocks (1997)
  • Greatest Hits III (1999)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Queen, Top of the Pops". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-01-09. Cyrchwyd 2006-01-09.
  2. Queen declared 'top British band' BBC
  3. Queen win greatest live gig poll BBC 9 Hydref 2005
  4. "Queen Proves There's Life After Freddie, OhmyNews". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-24. Cyrchwyd 2007-12-06.
  5. Selling Artists, RIAA[dolen marw]
  6. "Queen News March 2006, brianmay.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-29. Cyrchwyd 2007-12-06.
  7. 7.0 7.1 "Queen Biography 1970, Queen Zone". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-15. Cyrchwyd 2007-12-06.
  8. "Queen Biography 1971, Queen Zone". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-08. Cyrchwyd 2007-12-06.
  9. Queen, Gordon Fletcher Archifwyd 2009-02-17 yn y Peiriant Wayback. 6 Rhagfyr 1973, Rolling Stone Rhifyn 149