Stadiwm Wembley
Stadiwm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yw Stadiwm Wembley (Saesneg: Wembley Stadium). Fe'i lleolir yn Wembley, rhan o fwrdeistref Brent yng ngorllewin Llundain. Cynhelir rownd derfynol Cwpan Lloegr (neu Gwpan yr FA) a gemau cartref tîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yno.
Math | stadiwm amlbwrpas, canolfan gerddoriaeth |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Brent, Wembley |
Agoriad swyddogol | 9 Mawrth 2007 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llundain |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5556°N 0.2794°W |
Rheolir gan | Foster and Partners |
Perchnogaeth | Wembley National Stadium Ltd |
Cost | 757,000,000 punt sterling |
Agorodd y stadiwm presennol, a gynlluniwyd gan y penseiri HOK Sport (a gynlluniodd Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd) a Foster and Partners, yn 2007. Saif ar safle stadiwm cynharach a agorwyd ym 1923; dymchwelwyd hwn yn 2003. Tra'r oedd Stadiwm y Mileniwm yn cael ei adeiladu yng Nghaerdydd chwaraewyd gemau cartref tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn hen stadiwm Wembley, a thra oedd y stadiwm newydd yn cael ei adeiladu cynhaliwyd rownd derfynol Cwpan yr FA yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd gemau pêl-droed Gemau Olympaidd yr Haf 2012 yno hefyd.