Bilain
Deiliad caeth i'r tir neu werinwr taeog yn y drefn ffiwdal yng Nghymru a Lloegr yr Oesoedd Canol oedd bilain. Fel rheol roedd y bilain yn ddeiliad i farchog neu arglwydd lleol ac yn rhwym i'w waith. Bu'r bilain yn derbyn tir yng nghaeau'r pentref ac yn amaethu ar y fferm neu'n llafurio yn y maenor. Benthycwyd yr enw o'r Saesneg Canol vilein neu'r Hen Ffrangeg vilain,[1] a ddaw yn y bôn o'r gair Lladin am bentrefwr, villanus.[2]
Math | gwerinwr |
---|
Math o gaethwasanaeth oedd bileiniaeth ar y dechrau, yn debyg i'r gebur (ffermwr) a'r geneat (gwas) yn y gyfraith Eingl-Sacsonaidd.[2] Er nad oedd bileiniaid yn ddynion rhydd, nid rheng isaf y gymdeithas oeddynt: roedd eu statws yn uwch na'r bordariaid a'r cotÿwyr oedd yn berchen ar lai o dir, a'r caethweision oedd yn nodwedd o Loegr y Sacsoniaid.[3] Y villanus oedd y dosbarth cymdeithasol mwyaf niferus yn Llyfr Dydd y Farn. Sefydlogodd haenau cymdeithas wrth i'r Normaniaid sefydlu'r drefn ffiwdal yn Lloegr, ac roedd y werin bobl yn fodlon gyda'i safle ar y cyfan oherwydd roeddent yn derbyn tir a gwaith am y tro cyntaf. Erbyn y 13g datblygodd sefyllfa'r bilain yn ffurf ar ddeiliadaeth gaeth: gwerinwr oedd yn rhwym i'w arglwydd yn gyfreithiol ac er anghenion economaidd.[2]
Nid oedd y drefn ffiwdal a'i goblygiadau yn unffurf ar draws Lloegr. Ychydig o fileiniaid yn unig oedd yng Nghaint, yr hen Ddaenfro, y mwyafrif o'r gogledd ac mewn rhannau o'r gorllewin. Roedd bileiniaid ystadau'r Goron yn debygol o feddu ar freintiau ychwanegol. Wrth ddatblygu'r system gyfiawnder frenhinol, ni chynigid yr iawnderau newydd i'r bilain: nid oedd ganddo'r hawl i eistedd ar fainc y rheithgor nac ychwaith i gael defnyddio llysoedd y brenin. Er ei statws isel, roedd modd i'r bilain fwrw'r rhwymau ymaith: drwy brynu ei ryddid oddi ar ei arglwydd; drwy ddianc i dref am flwyddyn a diwrnod; neu drwy ymuno â'r urddau eglwysig, gyda chaniatâd ei arglwydd.[3] Cafwyd un datblygiad cyfreithiol o fudd iddo: amddiffynnodd y llysoedd hawl y bilain parthed y ddefod faenoraidd, felly ni allai'r arglwydd ei ddifeddiannu oni bai bod hynny yn gytûn â'r hen arferion lleol. Ynghynt roedd yn bosib i'r arglwydd bwrw'r bilain allan ar unrhyw adeg a heb reswm.[4]
Daeth diwedd bileiniaeth yn y 15g o ganlyniad i newidiadau economaidd a chymdeithasol, yn enwedig yn sgil y Pla Du a thwf y trefi. Trodd y mwyafrif o fileiniaid yn hawlfeddianwyr (copiddeiliaid): dynion rhydd ac yn talu rhent.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ bilain. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2016.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 The Wordsworth Dictionary of British History, gol. J. P. Kenyon (Ware, 1996), t.351.
- ↑ 3.0 3.1 J. A. Cannon. "villein" yn The Oxford Companion to British History (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 5 Rhagfyr 2016.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) feudal land tenure. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2016.