William Fichtner

actor a aned yn 1956
(Ailgyfeiriad o Bill Fichtner)

Mae William Edward Fichtner Jr. (a anwyd 27 Tachwedd 1956) yn actor Americanaidd sydd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau a chyfresi teledu nodedig.[1]

William Fichtner
GanwydWilliam Edward Fichtner Edit this on Wikidata
27 Tachwedd 1956 Edit this on Wikidata
Mitchel Air Force Base Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academi Celf Dramatig America
  • State University of New York at Brockport
  • Farmingdale State College
  • Maryvale High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor cymeriad, actor teledu, actor ffilm, actor llais, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata

Mae'n cael ei adnabod yn bennaf am chwarae rhan y Sheriff Tom Underlay yn y gyfres Invasion; chwarae rhan Alexander Mahone yn Prison Break, a nifer o ymddangosiadau ar ffilm gan gynnwys: Quiz Show, Heat, Contact, Armageddon, The Perfect Storm, Crash, Blades of Glory, Black Hawk Down, Nine Lives, The Longest Yard, Mr. & Mrs.Smith, The Dark Knight, Date Night, The Lone Ranger, Phantom, Elysium, Independence Day: ResurgenceTeenage Mutant Ninja Turtles.

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd Fichtner ei eni ar Faes Awyr Milwrol Mitchel[2] ar Long Island. Cafodd ei fagu yn Cheektowaga, Efrog Newydd, un o faestrefi o Byfflo. Mae'n fab Patricia A. (née Steitz) a William E. Fichtner.[3][4] Mae o dras Almaenig.[5]

Mynychodd Fichtner Maryvale High School (Cheektowaga) hyd 1974. Wedi graddio o Farmingdale State College ym 1976 gyda gradd gyswllt mewn cyfiawnder troseddol, mynychodd SUNY Brockport gan ennill gradd Baglor yn y Celfyddydau mewn cyfiawnder troseddol ym 1978. Wedyn aeth Fichtner ymlaen i astudio yn yr Academi Americanaidd o Gelfyddydau Dramatig yn Efrog Newydd.[6]

Dechreuodd Fichtner ei yrfa actio trwy chware ran Josh Snyder yn As the World Turns ym 1987. Mae ei gredydau ffilm eraill yn cynnwys Contact, Heat, Armageddon (lle mae o'n portreadu  gofodwr yn gweithio ochr yn ochr â Bruce Willis), Go, Equilibrium, Black Hawk Down, The Perfect Storm, The Longest Yard, Crash, Ultraviolet a The Dark Knight. Mae Fichter yn actor cymeriad yn bennaf, un o'i ychydig rolau blaenllaw yw Passion of Mind, sydd hefyd yn serennu Demi Moore a Stellan Skarsgård. Ar gyfer ei rôl mewn Crash, enillodd wobr am berfformiad rhagorol gan y Screen Actors Guild 

 
Fichtner yn 2003

Yn ymddangos yn y credydau fel Bill Fichtner, lleisiodd y cymeriad Ken Rosenberg yn y gemau fideo Grand Theft Auto: Vice City a Grand Theft Auto: San Andreas. Rhwng 2005 a 2006, bu yn serennu yn y gyfres ffuglen wyddonol Invasion fel y Sheriff Tom Underlay. Wedi i Invasion cael ei ganslo bu Fichtner chwarae rhan yr Asiant FBI  Alexander Mahone yn yr ail i'r bedwaredd gyfres (2006-2009) o Prison Break. Yn 2009, roedd yn cyd-gyflwyno Tlws Vezina  (am gadw gôl) yn sioe gwobrwyo Cynghrair Hoci Cenedlaethol America.[7][8] Mae hefyd yn ymddangos yn The West Wing fel Christopher Mulready, barnwr ceidwadol sydd dan ystyriaeth i gael eu henwebu i'r Goruchaf Lys. Bu hefyd actio rôl rheolwr Banc Cenedlaethol Gotham y ffilm nodwedd The Dark Knight, ac fel Jurgen mewn Equilibrium.

Ym mis Mehefin 2009, ymddangosodd Fichtner fel gwestai ar Entourage yn chwarae cynhyrchydd teledu, Phil Yagoda, sydd yn ceisio ail-wneud ei gyfres ar gyfer pobl ifanc a fu'n hynnod lwyddiannus  yn y 1990.[9] Bu hefyd yn lleisio'r Meistr Rhingyll Sandman yn y gêm fideo Call of Duty: Modern Warfare 3.[10]

Chwaraeodd rhan Eric Sacks yn Teenage Mutant Ninja Turtles (2014).[11][12]

Ffilmograffi

golygu
Blwyddyn Titl Rôl
1994 Quiz Show Stage Manager
1995 Virtuosity Wallace
Reckless Rachel's Father
Strange Days Dwayne Engelman
Heat Roger Van Zant
Underneath Tommy Dundee
1996 Albino Alligator Law
1997 Contact Kent
Switchback Chief Jack McGinnis
1998 Armageddon Colonel William Sharp
1999 Go Burke
The Settlement Jerry
2000 The Perfect Storm David "Sully" Sullivan
Drowning Mona Phil Dearly
Passion of Mind Aaron
Endsville[13] Prince Victor
2001 Pearl Harbor Danny's Father
Black Hawk Down SFC Jeff Sanderson
What's the Worst That Could Happen? Detective Alex Tardio
2002 Julie Walking Home Henry
Equilibrium Jürgen
2004 Crash Flanagan
2005 Nine Lives Andrew
The Chumscrubber Dr. Bill Stifle
The Moguls Otis
The Longest Yard Captain Knauer
Mr. & Mrs. Smith Dr. Wexler (voice)
2006 Ultraviolet Garth
2007 Blades of Glory Darren MacElroy
First Snow Ed
2008 The Dark Knight Bank Manager
2010 Forehead Tittaes[14] Boss
Date Night D.A. Frank Crenshaw
2011 The Big Bang Detective Poley
Drive Angry The Accountant
2012 Wrong Master Chang
2013 Phantom Alex Kozlov
The Lone Ranger Butch Cavendish
Elysium John Carlyle
2014 The Homesman Vester Belknap
Teenage Mutant Ninja Turtles Eric Sacks
2016 Independence Day: Resurgence General Joshua T. Adams
American Wrestler: The Wizard Coach Plyler
2017 Hot Summer Nights Shep
Krystal Dr. Farley
2018 12 Strong Colonel John Mulholland
The Gettysburg Address John G. Nicolay (voice)
The Neighbor Mike
Traffik Mr. Waynewright
Armed Richard
Finding Steve McQueen Enzo Rotella
Cold Brook Ted Markham[15]

Teledu

golygu
Blwyddyn Titl Rôl
1987–1994 As the World Turns Josh Snyder
1989 A Man Called Hawk Boros
Baywatch Howard Ganza
1994–1995 Grace Under Fire Ryan
1995 High Lonesome: A Father for Charlie[16] Sheriff
2002 MDs Bruce Kellerman
2004 The West Wing Christopher Mulready
2005 Empire Falls Jimmy Minty
American Dad! Harland (llais)
2005–2006 Invasion Sheriff Tom Underlay
2006–2009 Prison Break Alexander Mahone
2009–2011 Entourage Phil Yagoda
2010 Night and Day Dan Hollister
2012 Seal Team Six: The Raid on Osama Bin Laden[17] Mr. Guidry
2013–2014 Crossing Lines Carl Hickman
2015–2016 Empire Jameson Henthrop
2016–2021 Mom Adam
2016 Shooter Rathford O'Brien
2017 Porsche: Decades of Disruption Adroddwr (llais)
2017–cyfredol Top Gear America Ei hun (cyflwynydd)

Gemau fideo

golygu
Flwyddyn Teitl Llais rôl Nodiadau
2002 Grand Theft Auto: Vice City Ken Rosenberg Credydu fel Bill Fichtner
2004 Grand Theft Auto: San Andreas
2008 Turok Logan
2011 Call of Duty: Modern Warfare 3 Meistr Rhingyll Sandman
2012 Infex Y Gweinyddwr
2013 Disney Infinity Butch Cavendish
2014 Teenage Mutant Ninja Turtles The Shredder Fersiwn 3DS 

Cyfeiriadau

golygu
  1. "William Fichtner Biography (1956-)". FilmReference.com. Cyrchwyd June 18, 2013.
  2. Silverman, Stephen M. (January 17, 2002). "'Black Hawk Down' Comes Up in D.C." People. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd April 3, 2012.
  3. David Niles. "Worcester Telegram & Gazette Archives". Nl.newsbank.com. Cyrchwyd April 3, 2012.
  4. The Post-Journal (December 29, 2009). "Patricia A. Fichtner - post-journal.com | News, Sports, Jobs, Community Information - Jamestown". Post-Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-19. Cyrchwyd April 3, 2012.
  5. "FAQs and Q&A with William Fichtner". WilliamFichtner.org (official site). Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 18, 2007. Cyrchwyd April 3, 2012.
  6. "About William Fichtner". Farmingdale State College. 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 27, 2011.
  7. "Hockey, Hollywood stars align for '09 Awards in Vegas".
  8. "NHL Awards Winners". nhl.com. NHL. Cyrchwyd August 22, 2017.
  9. "Entourage Admits Caan, Fichtner, Letscher". TVGuide.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-24. Cyrchwyd June 8, 2009.
  10. Gaudiosi, John (April 11, 2011). "Actor William Fichtner is Modern Warfare 3's Sandman". IGN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-06. Cyrchwyd April 11, 2011.
  11. 'Crossing Lines': William Fichtner Reveals Sons Of Anarchy Star Joining Show
  12. ‘Teenage Mutant Ninja Turtles’ Adds William Fichtner
  13. (Saesneg) Endsville ar wefan Internet Movie Database
  14. "Forehead Tittaes w/ Marion Cotillard". Funny Or Die. March 9, 2010.
  15. Fleming Jr., Mike. "William Fichtner To Make Directing Debut On 'Cold Brook'". Deadline. Cyrchwyd June 8, 2017.
  16. "A Father for Charlie (1995)". FamousFix.
  17. Kaufman, Alexander C. (October 4, 2012). "National Geographic Channel to Show Osama bin Laden Thriller 'Seal Team Six'". TheWrap.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: