Bill Hoole
Gyrrwr trên oedd Bill Hoole (27 Gorffennaf 1898 – 7 Mehefin 1979). Fe'i ganwyd yn Lerpwl. Aeth o i Ysgol Diwydiannol Kirkdale hyd at 13 oed, a dechreuodd waith gyda Rheilffordd y Midland. Gweithiodd dros Bwyllgor Llinellau Swydd Gaer, yn glanhau locomotifau, cyn ymuno â’r Magnelaeth Faes Frenhinol ym 1914. Daeth o’n wrrwr trên yn nepo Neasden cyn symud i ddepo King’s Cross ym 1927. Fel arfer gyrrodd o Locomotif Dosbarth A4 60007, Syr Nigel Gresley, a chyrhaeddodd 112 milltir yr awr ym 1959, y record Prydeinig ers yr Ail Ryfel Byd. Mae recordiad o’r siwrnai ar gael ar label Transacord, ac mae llyfr am ei fywyd, ysgrifennwyd gan Peter Semmens.[1] Ar ôl ymddeol, symudodd i ogledd Cymru a dechreuodd ail yrfa fel gyrrwr trên gyda’r Rheilffordd Ffestiniog ar 27 Gorffennaf 1959, yn gyrru Prince.[2] Fe'i claddwyd ym Mynwent Minffordd.
Bill Hoole | |
---|---|
Ganwyd | 1894 |
Bu farw | 1979 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gyrrwr trên |
Llyfryddiaeth
golygu- Peter Semmens, Bill Hoole: Engineman Extraordinary (London: Ian Allan, 1966; 2/1974)